Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreithio Strategol ac Eiriolaeth Polisi, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru
Tlodi Plant yng Nghymru
Mae adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree a gyhoeddwyd yn 2025 yn datgelu y disgwylir i dlodi plant yng Nghymru gyrraedd ei lefel uchaf mewn 30 mlynedd erbyn diwedd y degawd, ac y disgwylir y bydd mwy na 34% o blant Cymru yn byw mewn aelwydydd incwm isel. Mae hwn yn argyfwng sy’n cael effaith fawr ar blant heddiw ac sydd hefyd yn bygwth cenedlaethau’r dyfodol. Erbyn 2029, mae Sefydliad Joseph Rowntree yn amcangyfrif y bydd 32,000 yn rhagor o blant yn cael eu gwthio o dan y llinell dlodi—llawer ohonynt oherwydd dewisiadau polisi bwriadol.
Yn yr Alban, fodd bynnag, ychydig dros 300 milltir i ffwrdd, mae ymyriadau’n codi plant allan o dlodi, a disgwylir y bydd gostyngiad pellach erbyn diwedd y degawd. Ar hyn o bryd mae tua 31% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), o gymharu â 23% o blant yn yr Alban.[i]
Datganoli a chyflwyno Taliad Plant yr Alban
Mae datganoli rhai pwerau nawdd cymdeithasol yn yr Alban, wedi cyfrannu tuag at ddyfodol mwy gobeithiol i lawer o blant yn yr awdurdodaeth hon o gymharu â rhannau eraill o’r DU. Sefydlodd Deddf Nawdd Cymdeithasol yr Alban 2018 fframwaith ar gyfer y system newydd ac mae’n datganoli 11 o’r budd-daliadau nawdd cymdeithasol presennol i’r Alban. Ymhlith y datblygiadau newydd hyn, mae Taliad Plant yr Alban yn amlygu ei hun fel y newid mwyaf arwyddocaol i gynnig rhagor o gefnogaeth ariannol i deuluoedd â phlant sydd ar incwm isel. Mae Taliad Plant yr Alban yn bolisi allweddol wedi’i gynllunio er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant yn yr Alban. Cynlluniwyd Taliad Plant yr Alban er mwyn darparu cymorth ariannol i deuluoedd incwm isel, â’r nod o leihau tlodi plant drwy gynnig taliadau uniongyrchol i’r rhai sydd eu hangen fwyaf. Mae’r taliad ar gael i deuluoedd sy’n derbyn budd-daliadau penodol, gan gynnwys Credyd Cynhwysol, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Credyd Pensiwn, Credyd Treth Plant, neu Gredyd Treth Gwaith.
Sut mae Taliad Plant yr Alban wedi Esblygu
Mae Taliad Plant yr Alban a gyflwynwyd gan Lywodraeth yr Alban yn 2020, yn darparu taliad wythnosol i deuluoedd incwm isel sydd â phlant dan 16 oed ac yn cynnig cymorth ariannol hollbwysig i deuluoedd sy’n wynebu caledi ariannol. Nid oes cyfyngiad ar nifer y plant mewn teulu a all dderbyn y Taliad Plant, ac mae hyn yn sicrhau bod pob plentyn cymwys yn elwa o’r cymorth hwn.
Roedd y taliadau cyntaf ar raddfa o £10 yr wythnos ar gyfer pob plentyn dan 6 oed. Cyhoeddwyd y byddai’r taliad yn cael ei ddyblu i £20 yr wythnos ar gyfer pob plentyn ym mis Tachwedd 2021, â thaliadau ar y lefel honno’n dechrau ym mis Ebrill 2022. Yna codwyd y taliad i £25 y plentyn, bob wythnos, o fis Tachwedd 2022 ymlaen. Roedd hyn yn golygu, bryd hynny, y gallai teulu ar incwm isel â thri o blant dan 16 oed dderbyn taliad o £300 y mis, gan godi eu hincwm blynyddol i bron i £4000 yn fwy na theulu cyfatebol yng Nghymru neu Loegr.
Ym mis Ebrill 2025, cynyddodd Taliad Plant yr Alban i £27.15 yr wythnos ar gyfer pob plentyn cymwys dan 16 oed. Gwneir y taliad hwn bob pedair wythnos, gan roi cyfanswm o £108.60 y plentyn bob mis. Er hyn, mae ymgyrchwyr yn yr Alban yn galw am gynyddu’r taliad i £40 yr wythnos er mwyn galluogi’r polisi hwn i gyflawni ei botensial i leihau tlodi yn llawn.
Y Prif Fanteision er mwyn Lleihau Tlodi Plant
Drwy gynnig taliadau ariannol uniongyrchol i deuluoedd, mae Taliad Plant yr Alban yn helpu i liniaru pwysau ariannol uniongyrchol. Gall hyn leihau’r tebygolrwydd y bydd teuluoedd yn syrthio i dlodi, gan eu helpu i ddiwallu anghenion sylfaenol, megis bwyd, dillad, a chartref. Yn fyd-eang, mae tystiolaeth sylweddol bod taliadau budd-dal plant uniongyrchol yn helpu i leihau tlodi. Mae tystiolaeth hefyd yn dangos bod cymorth ariannol fel Taliad Plant yr Alban yn gallu cael effaith sylweddol ar leihau lefelau cyffredinol tlodi plant. Er enghraifft, canfu astudiaeth yn 2025 gan Sefydliad Joseph Rowntree y gallai ymyriadau ariannol wedi’u targedu, fel Taliad Plant yr Alban, godi miloedd o blant allan o dlodi. Mae arbenigwyr fel yr Athro Danny Dorling o Brifysgol Rhydychen hefyd wedi rhagweld y bydd ehangu a chynyddu’r taliadau yn symud yr Alban o fod yn un o’r rhanbarthau mwyaf anghyfartal yn Ewrop i fod yn un o’r rhai mwyaf cyfartal.
Mae’r taliad wedi’i dargedu, gan sicrhau ei fod yn cyrraedd y teuluoedd sydd ei angen fwyaf. Mae targedu adnoddau fel hyn yn helpu i sicrhau cymaint ag sy’n bosibl o effaith ar y rhai sy’n profi’r lefelau tlodi uchaf. Yn ychwanegol at hyn, drwy fod yn ymyriad sy’n canolbwyntio ar y plentyn, ac yn rhoi pwyslais ar blant, mae Taliad Plant yr Alban yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r heriau ariannol sy’n atal llesiant plentyn, megis mynediad at addysg, gofal iechyd, a gweithgareddau allgyrsiol, sy’n gallu cael effeithiau cadarnhaol hirdymor ar eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Mae’r gwerthusiad interim o Daliad Plant yr Alban yn dangos canlyniadau cadarnhaol i blant. Yn ychwanegol at hyn, drwy gynyddu incwm y cartref, mae Taliad Plant yr Alban hefyd yn gweithredu fel ysgogiad economaidd mewn ardaloedd incwm isel, gan fod teuluoedd yn fwy tebygol o wario’r arian yn lleol, gan ddod â budd i economïau lleol.
Model Pwerus ac Effeithiol i Leihau Tlodi Plant
Mewn adroddiad yn ddiweddar gan Sefydliad Bevan, dywedir eu bod wedi darganfod drwy ymarfer modelu mai cyflwyno Taliad Plant yng Nghymru fyddai’r ymyriad ‘mwyaf pwerus ac effeithiol’. Mae’r Sefydliad yn dweud, er nad yw’r pwerau o bosibl ar gael i Lywodraeth Cymru, ‘gallent archwilio mecanweithiau megis cynlluniau grant neu daliadau atodol i roi cefnogaeth ariannol uniongyrchol i blant mewn aelwydydd incwm isel’. Ochr yn ochr â’r mesur interim hwn, mae’r Sefydliad yn galw am system fudd-daliadau Gymreig gynhwysfawr, i symleiddio cefnogaeth a darparu rhwyd ddiogelwch fwy effeithiol i’r rhai sydd mewn angen.
Mae’r alwad am Daliad Plant yng Nghymru hefyd wedi’i gwneud gan gydweithrediad pwerus o asiantaethau, y mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn rhan ohoni, Bil Pob Plentyn/A Law for every Child sy’n cael ei hwyluso gan Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Blant a Theuluoedd a Grŵp Trawsbleidiol y Senedd, Plant yn ein Gofal.
Ystyriaethau Olaf
Mae Taliad Plant yr Alban yn arf effeithiol yn y frwydr yn erbyn tlodi plant, gan ddarparu cymorth ariannol hanfodol i blant a’u teuluoedd ynghyd â meithrin gwelliannau hirdymor ym mywydau plant ledled yr Alban.
Fel yr eglurodd yr Athro Ann Skelton, Cadeirydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar y pryd, yn Narlith Flynyddol ar Hawliau Plant yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant yn 2023, dylai plant mewn gwahanol ranbarthau allu mwynhau hawliau yn ddiwahân. Ond yn frawychus iawn, dyma’r union beth rydym yn ei weld yn digwydd yng nghyd-destun gwladwriaeth barti’r DU – bydd plant sy’n cael eu heffeithio gan dlodi yn yr Alban, o’u cymharu â phlant sy’n cael eu heffeithio gan dlodi 300 milltir i ffwrdd yng Nghymru, yn profi gwell cyfleoedd mewn bywyd.
Mae’r naill Gomisiynydd Plant ar ôl y llall yng Nghymru wedi cyfathrebu eu pryderon ynglŷn ag effaith ddinistriol a difaol tlodi plant ar gyflawni’r ystod lawn o hawliau plant ac maent wedi galw am ragor o bwerau datganoledig dros fudd-daliadau ac yn fwyaf diweddar am daliad cyfatebol i blant yng Nghymru.
Rydym yn gweld methiant hirdymor mewn atebolrwydd i blant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru. Mae tystiolaeth yn dangos pa gamau y gellid eu cymryd er mwyn sicrhau llesiant y genhedlaeth hon o blant, yn ogystal â chenedlaethau’r dyfodol, ac mae angen i ni weld hynny’n cael ei gefnogi yn awr ag ewyllys gwleidyddol.
Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, fel llawer o sefydliadau partner ledled Cymru, yn galw am fwy o reolaeth dros fudd-daliadau yng Nghymru, a chyflwyno Taliad Plant yng Nghymru ar fyrder.
[i] Mae data Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (HBAI) diweddaraf yr Adran Gwaith a Phensiynau—sy’n ymdrin â Diwedd Blynyddoedd Ariannol 2022 i 2024—yn dangos bod 31% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (h.y., mewn aelwydydd ag incwm sy’n is na 60% o ganolrif y DU, ar ôl costau tai). Mae’r ffigur hwn yn cynrychioli cyfartaledd tair blynedd yn cyfuno data o fis Ebrill 2021 hyd fis Mawrth 2024. O’i gymharu â 23% o blant yn yr Alban, (ar ôl costau tai) dros yr un cyfnod o dair blynedd
