Mae effaith newid yn yr hinsawdd – gan gynnwys dadleoli a mewnfudo pobl – yn creu  sialensiau amryfal mewn perthynas â hawliau plant. Yn fyd-eang, mae 20 miliwn o bobl o dan 15 oed wedi’u dadleoli’n fewnol – naill ai oherwydd gwrthdaro neu oherwydd trychinebau, neu oherwydd y ddau. Mae’r Egwyddorion Arweiniol am Ddadleoli Mewnol yn diffinio pobl neu grwpiau sydd wedi’u dadleoli’n fewnol fel rhai sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi neu i adael eu cartrefi oherwydd gwrthdaro arfog, trais, neu oherwydd trychinebau neu ymyriad â hawliau dynol, ac sydd ddim wedi croesi ffin ryngwladol gydnabyddedig.

Fel yr esbonnir yn adroddiad diweddar Gronfa Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Plant Futures at Risk: Protecting the Rights of Children on the Move in a Changing Climate mae dadleoli a mewnfudo sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yn cyfeirio at symudedd dynol a yrrir gan effeithiau newid yn yr hinsawdd, sydd yn y pendraw yn cael effaith ar fywoliaeth pobl, lles a goroesiad. Gall hyn ddigwydd yn fewnol mewn gwlad neu ar draws ffiniau. Gall symudedd o’r fath ddigwydd o ganlyniad i drychinebau sydyn fel seiclonau, sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd a phatrymau tywydd difrifol. Gall diraddiant araf, gan gynnwys sychder a chodiad yn lefel y môr, hefyd yrru dadleoli a mewnfudo. Mae’n debygol y bydd rhai gwladwriaethau yn suddo mewn degawdau i ddod, a byddai hyn yn achosi dadleoli llwyr y preswylwyr.

Dydy effeithiau newid yn yr hinsawdd ddim yn niwtral o ran y rhywiau ac mae’n gallu effeithio ar ferched mewn ffordd wahanol.[1] Efallai na fydd oddeutu pedwar miliwn o ferched mewn gwledydd incwm isel a gwledydd incwm canolig is yn gallu gorffen eu haddysg o ganlyniad i ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.[2] Pan mae teuluoedd ac unigolion yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi o ganlyniad i ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, neu pan maent yn penderfynu ffoi cyn iddi fod yn rhy hwyr, mae mynediad merched at addysg yn dod dan fygythiad.

Mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cael eu dadleoli oherwydd effeithiau newid yn yr hinsawdd yn gallu cael mynediad at gyfleusterau addysgol fel ysgolion, yn arbennig yn ystod siwrnai mewnfudo. Yn ychwanegol at hyn, pan maent yn cyrraedd cyfleuster dros dro neu le “mwy diogel” i aros, mae’n bosibl y bydd plant eisoes ar ei hôl hi yn addysgiadol. Yn ogystal â hyn, efallai fod y siwrnai wedi achosi pobl i wynebu profiadau trawmatig, gan effeithio ar eu posibilrwydd i ymrwymo’n weithredol i addysg. Mae’n rhaid i lunwyr polisïau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol fod yn ymwybodol o ganlyniadau’r symudiadau ar hawliau i addysg, sy’n cael eu cynnwys yn Erthygl 26 Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol; ac Erthyglau 28 a 29 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Mae’r data sy’n ymwneud â dadleoli a mewnfudo, rhyw, plant ac addysg sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yn gyfyngedig. Amcangyfrifir nad yw 132 miliwn o ferched yn mynd i’r ysgol, ond nid yw’n glir faint o’r merched hyn sydd wedi profi rhyw fath o ddadleoli a mewnfudo sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd. Er nad yw’n glir, yn union faint o ferched sydd wedi – neu’n mynd i – gael eu heffeithio gan ddadleoli a mewnfudo sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, rydym yn gwybod bod cydnabyddiaeth o hawliau i addysg yn wynebu rhwystrau arwyddocaol yn y cyd-destun hwn.

Gall merched sydd ar symud sy’n wynebu dadleoli a mewnfudo sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd fod mewn mwy o berygl o brofi trais o ganlyniad i’w rhyw, megis trais rhywiol a phriodas gynnar dan orfod. Mae priodas gynnar dan orfod hefyd yn cael ei gysylltu â beichiogrwydd cynnar. Fel mae newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ar fywoliaeth, gall merched gael eu gorfodi i briodi er mwyn ysgafnhau’r pwysau ariannol ar deuluoedd. Yn ogystal â hyn, mae data yn dangos bod nifer yr achosion o’r glasoed yn beichiogi ac achosion o feichiogi’n gynnar yn cynyddu yn dilyn trychinebau. Gallai peryglon o briodasau cynnar dan orfod fel hyn, yn ogystal â beichiogrwydd achosi i ferched beidio â mynd i’r ysgol neu fethu gallu cwblhau tasgau cysylltiedig fel gwaith cartref.

Efallai yn gyntaf, y bydd merched yn cael eu tynnu o’r ysgol i wneud gwaith domestig er mwyn cefnogi eu tylwyth ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Er enghraifft, yn ystod cyfnodau o sychder, efallai y bydd merched yn treulio mwy o amser yn nôl dŵr, gan gyfyngu’r amser sydd ganddynt i fynd i’r ysgol.[3]

Gall merched ar symud brofi trawma a phwysau seicolegol, a gall hyn gael effaith ar eu gallu i ymroi i’w haddysg. Mae’n rhaid i systemau addysgol fod yn barod i ddarparu cymorth meddyliol a chorfforol digonol i ymateb i’r sialensiau hyn.

Gall merched sy’n cael eu heffeithio gan ddadleoli a mewnfudo sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ddioddef trais yn y cartref,[4] trais rhywiol,[5] a masnach pobl.[6]

Y DU fydd yn llywyddu yn ystod COP26 yn Glasgow rhwng 1-12 Tachwedd y flwyddyn hon. Wrth lywyddu yn ystod y COP26, dylai’r DU gyflwyno agenda er mwyn amddiffyn hawliau merched mewn perthynas â chyfiawnder hinsawdd. Mae’n rhaid i hawliau merched sydd ar symud i gael mynediad at addysg (o ganlyniad i ddadleoli a mewnfudo sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd) ei gynnwys mewn penderfyniadau yn ymwneud â pholisïau cyfiawnder hinsawdd.

Heb ddull rhyw a hawliau plant i ymateb i effeithiau newid yn yr hinsawdd, gall y byd barhau i fethu wrth amddiffyn y rhai mwyaf bregus.

***

Ysgrifennwyd gan Sara M. Pan Algarra, Hillary Clinton Ysgolhaig Heriau Byd-eang, yn dilyn Gradd Feistr mewn Heriau Byd-eang: Y Gyfraith, Polisi ac Arferion yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar effeithiau dadleoli a mewnfudo sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd a mynediad merched at addysg.

Ôl-nodiadau

[1] ‘Priorities for Public Climate Finance in the Year Ahead. COP26 Presidency’ (Llywyddiaeth COP26, Ionawr 2021) 14; H Atkinson and J Bruce, ‘Adolescent Girls, Human Rights and the Expanding Climate Emergency’ (2015) 81 Annals of Global Health 323, 325.

[2] Lucia Fry a Philippa Lei, ‘A Greener, Fairer Future: Why Leaders Need to Invest in Climate and Girls’ Education’ (Cronfa Malala, Mawrth 2021) 11.

[3] E Gibbons, ‘Climate Change, Children’s Rights, and the Pursuit of Intergenerational Climate Justice’ (2014) 16 Health and Human Rights Journal 19, 22; AA Babugura, ‘Vulnerability of Children and Youth in Drought Disasters: A Case Study of Botswana” in Children, Youth and Environments’ (2008) 18 Children, Youth and Environments 126; Ellen Chigwanda, ‘A Framework for Building Resilience to Climate Change through Girls’ Education Programming’ (Center for Universal Education at Brookings, Rhagfyr 2016).

[4] ‘Gender, Climate Change and Health’ (Sefydliad Iechyd y Byd, 2014) 16.

[5] Peek L, ‘Children and Disasters: Understanding Vulnerability, Developing Capacities, and Promoting Resilience — An Introduction’ (2008) 18 Children, Youth and Environments 1; N Chindarkar, ‘Gender and Climate Change-induced Migration: Proposing a Framework for Analysis’ (2012) 7 Environmental Research Letters 1; ‘Gender, Climate Change and Health’ (Sefydliad Iechyd y Byd, 2014) 17.

[6] ‘Climate Change and Children A Human Security Challenge’ (Canolfan Ymchwil Innocenti Cronfa Ryngwladol y Cenedloedd Unedig ar gyfer Plant, Tachwedd 2008) 13.