Cyfeillion beirniadol – sbarduno newid i blant
Ers datganoli, mae Cymru wedi bod yn dilyn agenda sy’n ceisio parchu a hyrwyddo hawliau dynol plant fel yr amlinellwyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP neu’r Confensiwn). Pam fod hyn yn wir? Wel, un rheswm yw bod yr agenda wedi cael ei gosod gan wleidyddion ymrwymedig sy’n credu mewn cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Fel y nododd y Prif Weinidog a’i Gynghorydd Arbennig yn y llyfr ‘The UNCRC in Wales’, mae ymrwymiad cryf i blant fel deiliaid hawliau ac:
“Yn benodol, rhoddwyd siâp a ffurf iddi drwy osod CCUHP wrth galon llunio ei pholisi, gan roi sail resymol dros barhau yn ffyddiog y bydd llunio polisïau yn y dyfodol yn parhau i gael ei siapio gan gydnabyddiaeth barhaus mai’r ‘urddas cynhenid a’r… hawliau cyfartal a diymwad holl aelodau’r teulu dynol yw sail rhyddid, cyfiawnder a heddwch yn y byd’.” [i]
Fodd bynnag, mae’r ymrwymiad i hawliau plant hefyd yn cael ei sbarduno gan gymdeithas sifil sy’n parhau i wthio ar gyfer gwireddu hawliau plant yn llawn yng Nghymru. Yn fy marn i, yn seiliedig ar lawer o flynyddoedd o weithio ym maes hawliau plant, mae dadl feirniadol ac adeiladol yn rhan o amgylchedd gwleidyddiaeth a llunio polisïau yng Nghymru. Ar nifer o lefelau, mae Cymru wedi croesawu proses adrodd CCUHP, sy’n annog cymdeithas sifil, gan gynnwys plant, i gyfrannu amrediad o safbwyntiau i broses lle mae cynnydd ar weithredu hawliau plant yn y DU (gan gynnwys yng Nghymru) yn cael ei adolygu o dro i dro gan y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn. Mae hyn yn gyfle i gymdeithas sifil gydnabod cyraeddiadau cadarnhaol yng Nghymru, ond hefyd at y diffyg mewn polisïau a chamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru.[ii] Mae hyn yn helpu i hyrwyddo a sbarduno newid cadarnhaol i blant.
Felly, yn yr ysbryd hwn o ddadl adeiladol yr ydw i’n cynnig ymdriniaeth ar gynllun newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer plant.
Pam ddylid cael cynllun o gwbl?
Gall rhai plant a phobl ifanc ofyn pam ddylid cael cynllun o gwbl, pam na ellir bwrw ymlaen gyda’r busnes o gyflwyno rhaglenni parchu hawliau i blant?
Wel, yn fy marn i, pe na bai cynllun wedi’i gyhoeddi, byddai’n fwy heriol i gymdeithas sifil weithredu fel ‘cyfaill beirniadol’ i ddal Llywodraeth Cymru yn atebol am weithredu hawliau plant a rhoi sylw dyledus i hawliau plant ym mhopeth y mae hi’n ei gwneud. Yn ogystal, mae’n ddisgwyliad gan Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn, y bydd llywodraethau yn ‘mabwysiadu cynlluniau gweithredu cynhwysfawr ar gyfer gweithredu’r Confensiwn.’
Mae’r manylion yn y print mân
Fodd bynnag, yn fy mhersbectif i, nid yw cynllun newydd Llywodraeth Cymru yn mynd yn ddigon pell ac nid yw’n disgrifio yn ddigonol sut y bydd yn gweithredu’r Confensiwn yn effeithiol.
Mewn erthygl ymchwil gan y Senedd a gyhoeddwyd ychydig cyn cyhoeddi’r cynllun, awgrymwyd y bydd: ‘y manylion yn y print mân’, a dyma lle ceir problem! Mae’r cynllun yn darllen fwy fel ‘taflen’ wybodaeth yn hytrach na dogfen gynhwysfawr sy’n sefydlu ‘canlyniadau mesuradwy’ ar gyfer plant a phobl ifanc, yn erbyn yr hyn y gellir dal Llywodraeth Cymru yn atebol. Mae’n cyflwyno rhestr o honiadau ynglŷn â beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud y mae hi am gyflawni yn ystod 2022-2023, ond gan fwyaf gwneir hyn heb osod targedau eglur, nac unrhyw ffordd eglur i esbonio sut y bydd ei huchelgais yn cael ei rhoi ar waith (er bod rhai dolenni i gynlluniau gweithredu wedi’u gosod o fewn y ddogfen!).
Mae’r Naw Carreg Filltir ar ddiwedd yr adroddiad i’w cyrraedd erbyn 2050, (wedi’u tynnu o’r Rhaglen ar gyfer Llywodraethu) yn gerrig milltir ‘ar gyfer pob oed’, ac yn aml yn canolbwyntio ar blant fel oedolion yn y dyfodol yn hytrach na bodau dynol gyda hawliau yn y presennol (mewn geiriau eraill maen nhw’n tueddu i bortreadu plant fel ‘bodau dynol y dyfodol yn hytrach na bodau dynol y presennol’ – dull sy’n atal cydnabod hawliau plant yn iawn.
Er mwyn i gynllun plant fod yn offeryn effeithiol i ddal Llywodraeth Cymru yn atebol am gydymffurfio â hawliau Confensiwn y plant, mae angen cyflawni cerrig milltir ‘yn awr’, ac nid dim ond pan mae plant yn tyfu’n oedolion. Fel y cyfeiriwyd ato gan aelodau o’r wrthblaid yn ystod dadl y Senedd ar 1af Mawrth ar y cynllun, mae pryderon ynglŷn â’r diffyg targedau uniongyrchol fel amseroedd aros CAMHS, targedau ar gyfer ymdrin â thlodi tanwydd a’r argyfwng tai, ac ar gyfer ymdrin ag anghenion plant yn dilyn y pandemig.
Yn bersonol, rydw i’n bryderus am ddiffyg cydlyniant polisïau (rhywbeth yr addawodd Llywodraeth Cymru i’w gyflawni) yn ogystal â’r ffaith nad oes unrhyw sôn am ymholiadau a ymgymerwyd gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, na’u hargymhellion. Er enghraifft, yr Ymholiad Cenedlaethol ar Hawliau Plant a’r Ymholiad Cenedlaethol ar Covid-19, ac roedd y ddau wedi gwneud argymhellion gyda goblygiadau pellgyrhaeddol i bob plentyn.
Diffyg tystiolaeth eglur ynglŷn â chyflawni hawliau cyfreithiol na thargedau deddfwriaethol
Rydw i hefyd yn pryderu bod y cynllun yn methu â gwneud cysylltiadau â deddfwriaeth a pholisi allweddol yng Nghymru. Er bod cyfeiriad at CCUHP a hawliau’r plant wrth gyflwyno’r cynllun, hyperddolen a geir yn unig at y ddeddfwriaeth hanfodol bwysig yng Nghymru, Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (Mesur 2011) neu ddeddfwriaeth bwysig arall, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (DLl 2015), Deddf Cwricwlwm ac Asesu newydd 2021, ac nid oes unrhyw ddolen na chyfeiriad at Fesur Plant a Theuluoedd 2010, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, na’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Ni chrybwyllir sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni’r hawliau dynol na’r targedau deddfwriaethol fel y’u hamlinellir yn y darnau hynny o ddeddfwriaeth.
A thra bod y Dirprwy Weinidog yn dweud mewn datganiad ysgrifenedig:
‘Bob blwyddyn, bydd Gweinidogion yn mesur ac yn adrodd ynglŷn â sut mae camau gweithredu yn y cynllun yn eu helpu nhw i gyrraedd y naw carreg filltir uchelgeisiol, sy’n cael eu hamlinellu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, y maen nhw’n dymuno Cymru i’w cyrraedd erbyn 2050’.
Ni chrybwyllir sut y bydd y dystiolaeth hon yn cael ei chasglu na’i rhannu fel bod tryloywder ynglŷn â chynnydd (neu ddiffyg cynnydd), er bod y Prif Weinidog yn datgan yn y datganiad ysgrifenedig:
‘Rydym yn falch mai Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i ysgrifennu hawliau plant i mewn i’w chyfreithiau.’
Mae diffyg manylion pendant ynglŷn â sut y bydd Gweinidogion yn cwrdd â’u rhwymedigaeth i roi sylw dyledus i CCUHP (fel sydd ei angen gan Fesur 2011). Yn lle hynny, cyfeirir at amcanion llesiant (o dan DLl 2015), yn hytrach na
hawliau cyfreithiol fel y’u hamlinellir yn CCUHP.
Diffyg tryloywder ynglŷn â chyllidebau
Mae pryder mawr iawn nad oes unrhyw dryloywder ynglŷn â dyraniad cyllid penodol, na chyllidebu, er mwyn cefnogi gwireddu uchelgeisiau Llywodraeth Cymru mewn gwahanol feysydd polisi. Er bod cyfeiriad yn natganiad ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog (ac nid yn y cynllun) at y ffaith bod:
‘Mae’r gyllideb derfynol ar gyfer 2022-23 a gyhoeddwyd heddiw yn amlinellu buddsoddiad o fwy na £1.3bn yn benodol ar gyfer y blynyddoedd cynnar ac addysg, yn ychwanegol at yn agos i £0.75bn a ddarparwyd i awdurdodau lleol i gyflawni gwasanaethau hanfodol fel ysgolion.’
Mae hyn yn ddatganiad eang iawn nad yw’n cwrdd â gofynion Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn er mwyn dangos sut y bydd cyllideb yn cefnogi gwireddu hawliau plant. Mae’r datganiad hefyd yn cyfeirio yn unig at y blynyddoedd cynnar ac addysg, ond beth am yr holl feysydd eraill sydd o bryder i blant? (e.e. cludiant, iechyd, amgylchedd, tai ayyb).
Yn ogystal, nid oes unrhyw dystiolaeth am Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant (AEHP) a wnaed ar y cynllun ac yn groes i ymrwymiad Llywodraeth Cymru a nodwyd yn ei Chynllun Plant ei hun. Mae hyn yn dilyn y feirniadaeth ddiweddar gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd na chafodd unrhyw AEHP ei gynnal ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Ac yn olaf, wrth fyfyrio ar bryderon a fynegwyd gan Dr Anne Crowley (arbenigwraig ryngwladol ar gyfranogiad plant) dros ddegawd yn ôl, mae’r cynllun ym methu â chyfeirio at unrhyw fath o:
‘gofnod cyhoeddedig o sut mae safbwyntiau plant wedi cael eu hystyried a rhoi ‘pwys dyledus’ iddyn nhw nac unrhyw dealltwriaeth ynglŷn â faint o ddylanwad y cafodd safbwyntiau’r plant ar gynhyrchu’r polisi terfynol.’[iii]
Myfyrdodau olaf
Felly i gloi, dylid llongyfarch Llywodraeth Cymru am eu hymrwymiad parhaus i hawliau plant ac am gyflwyno rhai mentrau ardderchog ar gyfer plant. Fodd bynnag, os yw cymdeithas sifil am gyflawni swyddogaeth y cyfaill beirniadol er mwyn ysbrydoli newid radical i blant, drwy ddal Llywodraeth Cymru yn atebol dros hawliau plant, rydym ni angen cynllun llawer mwy cynhwysfawr a manwl, sy’n gosod targedau seiliedig ar hawliau yn eglur ac yn dryloyw er mwyn cyflawni mewn amrediad o feysydd polisi.
Er mwyn ymdrin â’r diffyg hwn, mae Canolfan Gyfreithiol y Plant a’r Arsyllfa yn argymell unwaith y bydd Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn yn rhyddhau ei Arsylwadau Terfynol newydd, y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun cynhwysfawr ynglŷn â sut y bydd yn eu cyflawni.
Awdur: Dr Rhian Croke
[i] Butler I a Drakeford M, Children’s rights as a policy framework in Wales, Yn, Williams J (gol.) The UNCRC in Wales, (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd 2013), 18
[ii] Aspinwall T a Croke R, ‘Policy Advocacy Communities: the collective voice of children’s NGOs in Wales’, Yn Williams J (gol.) The UNCRC in Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd 2013)
[iii] Crowley A, ‘Children’s participation in Wales, Yn (gol.) Williams J, The UNCRC in Wales, (Gwasg Prifysgol Cymru 2013), 217