Ar 4 Gorffennaf 2024, cynhelir etholiad Senedd y DU, a elwir hefyd yn etholiad cyffredinol. Dyma sut mae’r cyhoedd ym Mhrydain yn penderfynu pwy i’w cynrychioli yn y senedd. Gadewch i ni ddadansoddi beth yw etholiad cyffredinol, pam ei fod yn bwysig, a sut mae’n gweithio.

Beth yw Etholiad Cyffredinol?

Mae etholiad cyffredinol yn ddigwyddiad pwysig lle mae dinasyddion y DU yn pleidleisio i ddewis eu Haelodau Seneddol (ASau). Bydd yr ASau hyn yn cynrychioli eu buddiannau ac yn gwneud penderfyniadau ar eu rhan. Mae etholiadau cyffredinol fel arfer yn digwydd bob pum mlynedd, er y gallan nhw ddigwydd yn amlach os oes angen – gelwir hyn yn ‘etholiad brys’. Mae hyn yn digwydd yn gynharach na’r 5 mlynedd arferol gyda chaniatâd arbennig y Brenin Siarl III.

Sut mae Etholiadau Cyffredinol yn gweithio?

Mae’r DU wedi’i rhannu’n 650 o ardaloedd gwahanol, sef ‘etholaethau’. Efallai eich bod hefyd wedi clywed pobl yn eu galw’n ‘seddi’, gan fod y rhai sy’n cael eu hethol yn cael sedd yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae gan bob etholaeth ei AS ei hun y pleidleisiwyd drosto gan y bobl sy’n byw yn yr ardal honno. Mae 32 o etholaethau yng Nghymru, a gallwch weld ym mha un yr ydych chi’n byw drwy chwilio am eich cod post ar wefan Senedd y DU.

Er bod yna 650 o ASau etholedig, mewn gwirionedd dim ond 427 o seddi go iawn sydd yn 
Nhŷ’r Cyffredin
. Os bydd mwy na 427 o ASau yn bresennol mewn dadl, bydd rhaid i rai ohonyn nhw sefyll!

Drwy rannu’r DU yn ardaloedd llai, gallwn sicrhau bod gan bob rhan o’r DU lais yn y Senedd, gyda phob AS yn cynrychioli anghenion a phryderon trigolion eu hardal.

Mae pleidlais yr etholiad cyffredinol yn cael ei chynnal ar un diwrnod, ar draws pob un o’r 650 o etholaethau ar draws Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Mae pobl yn bwrw eu pleidlais mewn gorsafoedd pleidleisio. Bydd gan bob pentref, tref a dinas o leiaf un orsaf bleidleisio.

 

Pwy sy’n cael Pleidleisio?

Yn y DU, gallwch bleidleisio mewn etholiad cyffredinol os ydych:

  • Yn 18 oed neu’n hŷn.
  • Yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon, neu’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad.
  • Wedi cofrestru i bleidleisio.

Chewch chi ddim pleidleisio os ydych chi o dan 18 oed, yn y carchar, neu’n aelod o Dŷ’r Arglwyddi.

 

Hawliau Pleidleisio i Bobl Ifanc 16 Oed

Yn y DU, 18 oed yw’r oedran pleidleisio arferol. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau pwysig:

  • Senedd yr Alban
  • Senedd Cymru
  • Etholiadau Lleol

Yng Nghymru a’r Alban, caniateir i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio mewn etholiadau ar gyfer Senedd yr Alban a Senedd Cymru, yn ogystal ag mewn etholiadau cynghorau lleol. Mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn y rhannau hyn o’r DU yn cael dweud eu dweud mewn llawer o benderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.

Mae ymgyrchoedd ar y gweill i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer pob etholiad ar draws y DU. Mae cefnogwyr yn dadlau bod pobl ifanc yn ymgysylltu, yn wybodus, ac yn haeddu cael llais am eu dyfodol. Mae’r Blaid Werdd, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru i gyd yn cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer pob etholiad i 16.

 

Pwerau Datganoledig

Mae gan Gymru ei llywodraeth ei hun, sef Llywodraeth Cymru, sydd â phwerau dros rai meysydd fel iechyd, addysg, a llywodraeth leol. Mae’r llywodraeth hon yn gweithredu ar wahân i Lywodraeth y DU ac mae wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Senedd Cymru  sy’n darparu’r prif waith craffu democrataidd ar Lywodraeth Cymru, gan gynnwys pasio deddfau newydd i Gymru o fewn pwerau datganoledig.

 

Materion Allweddol i Gymru

Mae gan Gymru faterion penodol sy’n codi’n aml mewn etholiadau, fel:

  • Dyfodol y Gymraeg a diwylliant Cymru.
  • Buddsoddi mewn seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus.
  • Gwasanaethau iechyd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
  • Datblygu economaidd a chyfleoedd cyflogaeth.

 

Rôl y Prif Weinidog

Y Prif Weinidog yw pennaeth llywodraeth y DU. Ar ôl etholiad cyffredinol, mae arweinydd y blaid wleidyddol sy’n gallu sicrhau’r mwyafrif o bleidleisiau ymhlith ASau a etholir i Dŷ’r Cyffredin yn cael ei wahodd gan y brenin / gan y frenhines i ddod yn Brif Weinidog. Mae’r Prif Weinidog yn arwain y llywodraeth ac yn gwneud penderfyniadau allweddol am redeg y wlad.

 

Pleidiau Gwleidyddol

Mae pleidiau gwleidyddol yn grwpiau o bobl sy’n rhannu syniadau tebyg am sut y dylai’r wlad gael ei llywodraethu. Dyma rai o’r pleidiau yn y DU y mae’n bosibl eich bod wedi clywed amdanynt:

Mae pob plaid yn creu maniffesto, sef dogfen sy’n amlinellu eu cynlluniau a’u haddewidion os byddan nhw’n ennill yr etholiad.

Does dim rhaid i chi fod yn aelod o blaid wleidyddol i fod yn ymgeisydd mewn etholaeth, ond yn ymarferol mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n cael eu hethol yn aelodau o blaid wleidyddol.

 

Polisïau Sy’n Effeithio ar Blant

Yn aml mae gan bleidiau gwleidyddol bolisïau penodol sydd â’r nod o wella bywydau plant a phobl ifanc. Dyma rai o’r polisïau y byddai’r pleidiau unigol yn ceisio eu cyflawni a fyddai’n effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc:

 

Y Blaid Geidwadol:

  • Gwahardd defnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol.
  • Dwy awr o addysg gorfforol orfodol bob wythnos mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
  • Sefydlu terfynau oedran clir ar gyfer yr hyn y gellir ei ddysgu i blant am Addysg Perthynas, Rhyw ac Iechyd
  • Bydd Gwasanaeth Cenedlaethol yn orfodol
  • Creu mwy o leoedd mewn cartrefi plant
  • Ymgynghori ar gyflwyno rhagor o reolaeth gan rieni dros fynediad i’r cyfryngau cymdeithasol

 

Y Blaid Lafur:

  • Cyflwyno trosedd newydd o gamfanteisio’n droseddol ar blant, i fynd ar ôl y gangiau sy’n denu pobl ifanc i fyd trais a throseddu
  • Cyflwyno mesurau diogelu cyfreithiol newydd ynghylch noeth-chwilio plant a phobl ifanc
  • Gwahardd vapes rhag cael eu brandio a’u hysbysebu
  • Bydd pob person ifanc sy’n cael ei ddal â chyllell yn ei feddiant yn cael ei gyfeirio at Dîm Troseddau Ieuenctid a bydd yn derbyn cynllun gorfodol i atal aildroseddu, gyda chosbau’n cynnwys cyrffyw, tagio, a’r ddalfa ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol.
  • Sicrhau bod ysgolion yn mynd i’r afael â chasineb at fenywod ac addysgu pobl ifanc am berthnasoedd iach a chydsynio
  • Sicrhau bod pobl ifanc sy’n cyflwyno i’r GIG â dysfforia rhywedd yn cael gofal priodol o ansawdd uchel
  • Rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio ym mhob etholiad
  • Gwella cyngor gyrfaoedd mewn ysgolion a cholegau

 

Democratiaid Rhyddfrydol

  • Cyflwyno cynllun brys i warantu mynediad i archwiliadau deintyddol GIG am ddim i blant
  • Agor canolfannau galw heibio i blant a phobl ifanc ym mhob cymuned er mwyn gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl
  • Darparu hyfforddiant brwsio dannedd dan oruchwyliaeth i blant mewn meithrinfeydd ac ysgolion
  • Cyflwyno rheoliadau i atal plant rhag defnyddio vapes yn beryglus
  • Cefnogi plant mewn gofal perthnasau a’u gofalwyr teuluol drwy gyflwyno diffiniad statudol o ddarparu gofal gan berthnasau ac adeiladu ar y cynllun peilot presennol i ddatblygu lwfans wythnosol ar gyfer pob gofalwr sy’n berthynas
  • Gwneud profiad gofal yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i gryfhau hawliau pobl sydd mewn gofal neu sydd wedi bod mewn gofal.

 

Y Blaid Werdd:

  • Diwygio deddfau cyffuriau gwrthgynhyrchiol y DU i ganiatáu i’r DU symud tuag at farchnad a reoleiddir yn gyfreithiol sy’n atal cyflenwi troseddol a gwneud elw, ac sy’n lleihau niwed gan gynnwys drwy atal plant rhag cael gafael ar gyffuriau
  • Ymgyrchu am gyllid i ganiatáu i hybiau cymunedol a gofal sylfaenol ddarparu gwasanaeth nyrsio deintyddol am ddim i blant
  • Asesiadau anghenion iechyd meddwl mwy hygyrch a phrydlon ar gyfer plant a phobl ifanc
  • Ysgolion i gynnwys plant mewn tyfu, paratoi a choginio bwyd, fel rhan o’r cwricwlwm craidd, fel eu bod yn adnabod ac yn deall sut i ddefnyddio cynnyrch ffres sylfaenol
  • Nid yw plant a phobl ifanc byth yn cael eu noeth-chwilio heb oedolyn priodol yn bresennol, a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol iawn.
  • Gall pobl ifanc sy’n cael eu maethu ddewis aros gyda rhieni maeth nes eu bod yn 21 oed

 

Plaid Cymru:

  • Cynyddu budd-dal plant gan £20 yr wythnos i bob plentyn
  • Sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael addysg Gymraeg o safon i’w alluogi i ddod yn rhugl drwy gydol ei fywyd ysgol
  • Cynyddu argaeledd gradd-brentisiaethau yn y sector gofal iechyd i ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ymuno â’r proffesiwn ac aros yng Nghymru i weithio
  • Dylai’r cwricwlwm ysgol roi dealltwriaeth o heriau hinsawdd i bobl ifanc ac annog athroniaeth o ymgysylltu â’r newid yn yr hinsawdd a’r byd naturiol.
  • Ymchwilio i gynllun ar gyfer tocynnau bws i Bobl Ifanc, gan eu hannog i ddod i arfer â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ble bynnag y maen nhw yng Nghymru

 

Reform UK

  • Gwneud meithrin perthynas amhriodol â phlentyn yn drosedd waethygol.
  • Gwahardd Ideoleg Drawsrywiol mewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd
  • Dyblu nifer yr Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau) i ganiatáu ar gyfer gwaharddiadau parhaol i fyfyrwyr treisgar ac aflonyddgar
  • Hyrwyddo Ffonau Clyfar sy’n Gyfeillgar i Blant gydag Ap sy’n Cyfyngu ar eu Defnydd
  • Ailagor Gwersylloedd Hyfforddiant Dwysedd Uchel ar gyfer troseddwyr ifanc i fynd i’r afael â throseddau ieuenctid.

 

Dim ond ychydig o bytiau byr yw’r rhain o faniffestos pob un o’r pleidiau uchod. Mae’n werth cofio hefyd y gallai fod gan y pleidiau farn am faterion datganoledig, felly efallai na fydd yr hyn y maent am ei weld yn digwydd yn y DU o reidrwydd yn digwydd yng Nghymru. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweld beth sydd gan bob plaid wleidyddol i’w ddweud am eich bywydau, a’ch dyfodol, mae’r holl faniffestos ar gael i’w gweld ar-lein.

 

 

Y Gyfundrefn Etholiadol

Mae’r DU yn defnyddio system o’r enw Cyntaf i’r Felin. Yn y gyfundrefn hon, mae’r ymgeisydd sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob etholaeth yn ennill sedd yn y senedd. Mae’r system hon yn syml ond weithiau gall arwain at ddadleuon ynghylch tegwch a chynrychiolaeth. Er enghraifft, efallai y bydd plaid yn cael llawer o bleidleisiau, ond ddim yn ennill y bleidlais fwyafrifol yn eu hetholaethau unigol gan olygu nad ydynt yn cael eu cynrychioli yn y senedd.

 

Casgliad

Mae deall yr etholiad cyffredinol yn hanfodol i unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y caiff y DU ei llywodraethu. Mae’n rhan sylfaenol o ddemocratiaeth, gan ganiatáu i ddinasyddion ddylanwadu ar eu harweinwyr a chyfeiriad y wlad. P’un a ydych yn agos at oedran pleidleisio neu’n chwilfrydig, mae gwybod sut mae etholiadau’n gweithio yn eich helpu i werthfawrogi pwysigrwydd cymryd rhan a gwneud penderfyniadau gwybodus.

Cofiwch, mae pob pleidlais yn llais yn nyfodol y wlad. Un diwrnod, mae’n bosibl y byddwch chi’n bwrw eich pleidlais neu hyd yn oed yn ymgeisio i fod yn Aelod Seneddol eich hun! Ac yng Nghymru, mae eich pleidlais yn hollbwysig wrth lunio dyfodol lleol a chenedlaethol Cymru. Felly, mynnwch wybod, daliwch ati, a sicrhewch bod eich llais yn cael ei glywed!

Nid yw Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru yn gysylltiedig ag, nac yn cefnogi unrhyw blaid wleidyddol. Rydym yn cadw safiad hollol ddiduedd ac yn ymroddedig i ddarparu gwybodaeth, addysg gyfreithiol, a gwella hawliau plant ledled Cymru.