Yn y Ddalfa
- Ddylech chi ddim ond cael eich dedfrydu i gael eich cadw yn y ddalfa yn yr achosion mwyaf difrifol, ac am y cyfnod byrraf posib
- Tra byddwch chi yn y ddalfa, bydd eich hawliau plentyn yn eich gwarchod a’ch helpu
- Os cewch eich trin yn annheg yn y ddalfa, neu os ydych yn meddwl bod rhywun wedi mynd yn groes i’ch hawliau, fe gewch chi gwyno
Yn y ddalfa
Mae cael eich cadw yn y ddalfa’n golygu na chewch fynd adref ar ôl i chi fod yn y llys, ac y byddwch yn mynd i Sefydliad Troseddwyr Ifanc, Canolfan Hyfforddi Ddiogel neu Gartref Diogel i Blant. Os ydych chi wedi torri’r gyfraith, dim ond yn yr achosion mwyaf difrifol y dylai’r llys roi dedfryd i chi sy’n golygu eich cadw yn y ddalfa.
Gall cael eich cadw yn y ddalfa deimlo fel pe baech wedi colli eich hawliau. Mae’n wir bod cael eich cadw yn y ddalfa’n mynd â llawer o’ch rhyddid oddi arnoch, fel na allwch arfer eich hawliau mor aml ag yr hoffech. Efallai mai dim ond ar rai dyddiau y byddwch yn cael gweld eich teulu, a bydd cyfyngiadau ar yr hyn y byddwch yn cael ei wneud. Ond mae gennych hawliau o hyd o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, felly ddylech chi ddim cael eich trin yn wahanol nac yn llai teg na rhywun arall sydd yn y ddalfa. Fe ddylech allu cadw mewn cysylltiad â’ch teulu, a chael addysg a gofal iechyd. Dylai eich iaith a’ch traddodiadau teuluol gael eu parchu. Ddylech chi ddim gorfod gwneud dim a fydd yn niweidio eich iechyd a’ch datblygiad.