Yng ngorsaf yr heddlu

  • Os cewch eich cymryd i orsaf yr heddlu, mae’n rhaid i chi gael eich trin yn unol â’ch hawliau
  • Mae rheolau ynglŷn â pha mor hir y gallwch gael eich cadw yng ngorsaf yr heddlu a sut mae’n rhaid i chi gael eich trin yno
  • Mae eich hawliau plentyn yn golygu bod yn rhaid i chi gael eich trin yn briodol ar gyfer eich oedran pan fyddwch yng ngorsaf yr heddlu

Os ydych chi o dan 18, cewch eich trin fel plentyn/person ifanc gan yr heddlu. Mae hyn yn golygu, os ydych mewn trafferth gyda’r heddlu, fod eich hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn berthnasol yn ogystal â’r rheolau ynglŷn â sut y dylech gael eich trin. Does gan neb hawl i’ch trin yn wahanol neu’n annheg o gymharu â phawb arall oherwydd pethau fel eich hil neu eich rhyw neu am fod gennych anabledd. Mae’n rhaid i’r heddlu hefyd ystyried beth sydd orau i chi (er efallai eich bod wedi torri’r gyfraith), rhoi digon o wybodaeth i chi i gael gwybod beth sy’n digwydd i chi, a gwrando arnoch.