Mewn Trafferth Rydw i wedi cael fy nhrin ynannheg

  • Hyd yn oed os ydych chi wedi torri’r gyfraith, mae’n rhaid i chi gael eich trin yn deg
  • Bydd gennych eich holl hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn o hyd, yn ogystal â Hawliau Dynol eraill
  • Os cewch eich thrin yn annheg tra byddwch yn y system Cyfiawnder Troseddol, fe ddylech allu cwyno

Mae’n hawdd meddwl eich bod wedi colli eich hawliau os ydych chi mewn trafferth gyda’r heddlu, ond mae eich hawliau’n dal i fod gennych. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, felly fe ddylech bob amser gael eich trin mewn ffordd sy’n parchu eich hawliau.