Yn y Llys

  • Mae eich hawliau’n eich gwarchod hyd yn oed os oes raid i chi fynd i’r llys am dorri’r gyfraith
  • Mae’n brofiad sy’n gallu eich drysu a’ch dychryn, felly fe ddylai gwybod beth yw eich hawliau wneud i chi deimlo’n fwy hyderus
  • Fydd eich hawliau ddim yn eich cael chi allan o drafferth, ond maen nhw yno i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich trin yn iawn ac yn deg

Os yw’r heddlu’n penderfynu eich cyhuddo o gyflawni trosedd, byddwch yn mynd i’r llys. Y llys ieuenctid fydd hwn fel arfer, sef llys arbennig i blant a phobl ifanc. Weithiau, os ydych chi wedi gwneud rhywbeth difrifol iawn, neu os oedd rhywun arall dros 18 gyda chi’n torri’r gyfraith, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i Lys y Goron.

Yn union fel y mae gennych hawliau pan fyddwch yng ngorsaf yr heddlu, mae gennych hawliau hefyd pan fyddwch yn y llys. Mae’n rhaid i’r llys ystyried beth sydd orau i chi. Ddylech chi ddim cael eich trin yn wahanol i unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd wedi torri’r gyfraith, ac fe ddylech gael cyfle i roi’ch ochr chi i’r stori. Dylech gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddeall yr hyn sy’n digwydd. Mae gennych hawliau penodol hefyd i wneud yn siŵr eich bod yn cael cymorth cyfreithiol yn y llys, ac yn cael eich trin yn iawn pan fydd y llys yn penderfynu beth ddylai ddigwydd i chi.

Os oes rhywun wedi gofyn i chi fynd i’r llys oherwydd rhywbeth sydd wedi digwydd i chi, ewch i’r adran ar beth sy’n digwydd os ydych yn dioddef trosedd. Os ydych chi’n poeni am fynd i’r llys oherwydd rhywbeth sy’n digwydd yn eich teulu, cewch wybod mwy yn yr adran ynglŷn â’ch hawliau Gartref.

Na fyddwch – ddim bob amser. Mae gan yr heddlu lawer o ffyrdd eraill o ymdrin â chi, yn dibynnu ar yr hyn rydych chi wedi’i wneud ac a ydych mewn trafferth gyda’r heddlu’n aml ai peidio. Mae’n debyg y byddwch yn mynd i’r llys os nad ydych yn cytuno eich bod wedi torri’r gyfraith, neu os yw’r hyn rydych chi wedi’i wneud mor ddifrifol fel nad yw’r heddlu’n gallu ymdrin ag ef mewn ffordd arall.

Bydd gan y rhan fwyaf o bobl gyfreithiwr i’w cynrychioli yn y llys. Efallai y bydd gennych fargyfreithiwr hefyd os yw’r achos yn gymhleth neu os ydych chi yn Llys y Goron.

Os nad oes gennych gyfreithiwr, gallwch gael Cymorth Cyfreithiol a fydd yn talu i chi gael help gan y cyfreithiwr ar ddyletswydd yn y llys. Dylech hefyd gael Cymorth Cyfreithiol yn y rhan fwyaf o achosion troseddol os ydych chi o dan 18.

Os ydych o dan 16, mae’n rhaid i’ch rhieni neu pwy bynnag sy’n gyfrifol amdanoch fod yno. Os ydych yn 16 neu’n 17, mae’n rhaid i’ch rhieni fynd i’r llys gyda chi os oes gorchymyn yn dweud bod yn rhaid iddynt fod yno. Weithiau, yn ogystal â’ch cosbi am dorri’r gyfraith, bydd y llys yn gofyn i’ch rhieni neu pwy bynnag sy’n gyfrifol amdanoch ymddwyn mewn ffordd benodol, i’ch helpu.

Bydd eich cyfreithiwr yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd yn y llys a phryd i siarad. Cewch bledio’n ‘euog’ – sy’n golygu eich bod yn derbyn eich bod wedi torri’r gyfraith. Cewch hefyd bledio’n ‘ddieuog’ – sy’n golygu nad ydych yn derbyn eich bod wedi torri’r gyfraith.

Os penderfynwch bledio’n ddieuog, cewch gyfle i roi eich safbwynt chi ar yr hyn ddigwyddodd – os nad chi wnaeth droseddu, neu os oedd rheswm pam y gwnaethoch chi’r hyn a wnaethoch, sydd yn eich barn chi’n golygu na ddylech gael eich cosbi.

Os penderfynwch bledio’n euog, efallai y bydd yn rhaid i chi roi gwybodaeth amdanoch eich hun cyn i’r llys benderfynu beth ddylai ddigwydd i chi.

Os nad ydych yn gwybod a ddylech bledio’n euog neu’n ddieuog, cewch ofyn i’r gwrandawiad gael ei ohirio er mwyn i chi gael siarad â’ch cyfreithiwr.

Mae’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc sy’n mynd i’r llys yn mynd i’r llys ieuenctid. Llys arbennig i blant a phobl ifanc yw hwn, ac fe ddylai fod yn haws i chi ymlacio yno. Gan amlaf, mae’r llys ieuenctid yn lle gwell i blentyn sydd wedi torri’r gyfraith, ond weithiau, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i Lys y Goron (llys oedolion). Dim ond os yw hynny’n angenrheidiol y bydd hyn yn digwydd. Gall hyn ddigwydd am eich bod wedi torri’r gyfraith gydag oedolyn y mae ei achos yn cael ei glywed yn Llys y Goron. Byddwch hefyd yn mynd i Lys y Goron os ydych wedi cael eich cyhuddo o rywbeth difrifol iawn – llofruddio neu dreisio er enghraifft. Os oes raid i chi fynd i Lys y Goron, yn ymarferol, efallai y bydd y drefn arferol yn cael ei newid er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn deall yr hyn sy’n digwydd.

Os ydych yn 16 neu’n 17, ac wedi eich cyhuddo o rai mathau penodol o droseddau, fel troseddau gyda drylliau, efallai y cewch eich anfon i Lys y Goron.

Na fyddwch – mae llawer o wahanol opsiynau ar gael i’r llys a dim ond un o’r rhain yw eich cadw yn y ddalfa (mewn Cartref Diogel i Blant, Canolfan Hyfforddi Ddiogel neu Sefydliad Troseddwyr Ifanc). Cewch wybod mwy yn yr adran Beth allai ddigwydd i mi.

Dyw achosion y Llys Ieuenctid ddim ar agor i’r cyhoedd. Mae rheol hefyd sy’n dweud, pan fyddwch yn y llys, na ddylai gwybodaeth gael ei rhoi yn y papurau nac ar y teledu, ar y radio nac ar-lein a allai olygu bod pobl yn gallu eich adnabod. Mae hyn yn wir hyd yn oed os nad ydych chi eich hun mewn trafferth ond eich bod yn rhoi tystiolaeth mewn achos arall.

Os oes raid i chi fynd i’r llys ynadon neu i Lys y Goron, mae’r llys yn gallu atal gwybodaeth fel hyn rhag cael ei hadrodd. Mae’n rhaid i’r llys feddwl beth sydd orau i chi wrth benderfynu ynglŷn â hyn.