Fy Hawliau
- Mae gennych hawliau hyd yn oed os ydych chi mewn trafferth gyda’r heddlu
- Dyw eich hawliau ddim yn golygu na fyddwch mewn trafferth – ond maen nhw yno i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich trin yn iawn
- Hyd yn oed os ydych chi mewn trafferth, dylai’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanoch wneud yr hyn sydd orau i chi
Gall bod mewn trafferth olygu llawer o bethau – gall olygu bod mewn trafferth gartref neu yn yr ysgol am dorri rheol neu ymddwyn mewn ffordd nad yw rhywun sy’n gyfrifol amdanoch yn cytuno â hi. Gall hefyd olygu bod mewn trafferth gyda’r heddlu oherwydd eich bod wedi torri’r gyfraith.
Mae canlyniadau i dorri rheolau, ond maen nhw fel arfer yn llai na difrifol na phe byddech wedi torri’r gyfraith. Mae’r rhan fwyaf o’r rhan hon o’r wefan yn trafod torri’r gyfraith, ond cewch wybod mwy am dorri’r rheolau yma. Ond mae gennych hawliau beth bynnag yw eich sefyllfa, ac fe ddylech gael eich trin yn iawn, fel plentyn.
Fy Hawliau
Beth mae ‘torri’r gyfraith’ yn ei olygu?

Os ydych chi mewn trafferth gyda’r heddlu, mae hynny fel arfer oherwydd eich bod wedi torri’r gyfraith neu oherwydd bod yr heddlu’n meddwl efallai eich bod wedi torri’r gyfraith. Math penodol o reol y mae’r llywodraeth wedi penderfynu arni yw ‘cyfraith’. Mae’r cyfreithiau rydym yn eu trafod yn y rhan hon o’r wefan yn rheolau y mae’r Llywodraeth wedi’u gwneud ynglŷn â’r pethau nad ydych yn cael eu gwneud i bobl eraill, neu i eiddo pobl eraill. Mae’n cynnwys pethau fel

Dwyn oddi wrth rywun (er enghraifft, mynd â’u ffôn symudol neu feic)

Difrodi eiddo rhywun (er enghraifft, chwalu ffenest car neu grafu car gydag allwedd)

Bygwth rhywun (er enghraifft, dweud wrthynt eich bod yn mynd i’w brifo neu eu lladd)

Brifo rhywun (er enghraifft, eu taro neu eu trywanu â chyllell)

Os gwnewch chi rywbeth sy’n torri un o’r cyfreithiau hyn, bydd yr heddlu’n cael eu galw er mwyn cael gwybod beth sydd wedi digwydd. Os yw’r heddlu’n meddwl bod digon o wybodaeth i brofi eich bod wedi torri’r gyfraith, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys, lle y bydd barnwr yn penderfynu beth fydd yn digwydd i chi.

Beth mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ei ddweud am fod mewn trafferth gyda’r heddlu?

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cynnwys hawliau i’ch helpu a’ch cefnogi i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich trin yn iawn os ydych chi mewn trafferth gyda’r heddlu. Mae’r hawliau hyn yn golygu y dylech gael eich trin â pharch, ac na ddylech gael eich trin yn greulon. Mae gennych hawliau i’ch diogelu rhag niwed os oes raid eich cadw oddi wrth eich teulu oherwydd eich bod wedi torri’r gyfraith mewn rhyw ffordd. Mae gennych hawliau hefyd i wneud yn siŵr eich bod yn cael y math iawn o gymorth gan rywun sy’n deall y gyfraith.

Yn ogystal â’r hawliau penodol hyn, sydd yno i’ch diogelu os ydych chi wedi torri’r gyfraith, mae gennych hawliau plentyn eraill hefyd. Felly, hyd yn oed os ydych chi wedi torri’r gyfraith, a’ch bod mewn trafferth gyda’r heddlu,

Mae’n rhaid i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau amdanoch ystyried beth sydd orau i chi

Ddylech chi ddim cael eich trin yn wahanol nac yn annheg am reswm fel eich hil neu eich rhyw, neu am fod gennych anabledd

Dylech fod yn rhan o benderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanoch, a chael lleisio eich barn

Dylech gael digon o wybodaeth i’ch helpu i ddeall beth sy’n digwydd i chi, a beth allai ddigwydd i chi

Mae gennych hawl i gael addysg o hyd, yn ogystal â gofal iechyd da a’r holl hawliau eraill o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Yng Nghymru, mae eich hawliau plentyn o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn bwysig iawn. Yng Nghymru, mae’n rhaid i bopeth sy’n digwydd i chi os ydych o dan 18 gydnabod eich hawliau fel plentyn yn ogystal â’ch hawliau dynol. Er bod y gyfraith sy’n ymwneud â’r pethau hyn – sef ‘cyfraith droseddol’ – yr un fath yng Nghymru a Lloegr, mae’n bosib y bydd y ffordd mae’r gyfraith yn cael ei gweithredu yng Nghymru’n wahanol i’r ffordd y mae hyn yn digwydd yn Lloegr, er mwyn gwneud yn siŵr bod eich hawliau plentyn yn cael eu parchu.

Sut mae hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cael eu gweithredu yng Nghymru?

Mae cyfreithiau Cymru a Lloegr ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd i chi os ydych chi o dan 18 ac wedi torri’r gyfraith i gyd yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain, ond mae llawer o’r hyn a fydd yn digwydd i chi os ydych chi mewn trafferth gyda’r heddlu’n cael ei benderfynu yma yng Nghymru, a hyd yn oed gan yr Awdurdod Lleol lle rydych yn byw. Pan fydd Llywodraeth Cymru’n gweithio allan sut y dylai’r cyfreithiau hyn weithio yng Nghymru mae’n rhaid iddi ystyried eich hawliau plentyn.

Yn y rhan hon o’r wefan, rydym yn esbonio eich hawliau:

Os ydych chi wedi torri rheol (yn hytrach na chyfraith)

Ar gyfer gwahanol oedrannau (o dan 10, 10-17)

Os ydych chi yng ngorsaf yr heddlu

Os oes raid i chi fynd i’r llys

Beth allai ddigwydd i chi os ydych chi wedi torri’r gyfraith

Pan fydd popeth drosodd, ac a fydd gennych ‘gofnod troseddol’

Os ydych chi wedi dioddef trosedd neu’n gorfod rhoi tystiolaeth oherwydd rhywbeth rydych chi wedi’i weld

Bod mewn gwahanol fathau o ‘drafferth’

Weithiau, mae pobl yn dweud eu bod ‘mewn trafferth’ pan fydd pethau’n anodd, neu pan fyddant mewn sefyllfa gymhleth ac angen help i feddwl beth i’w wneud nesaf. Mae hynny’n wahanol i fod mewn trafferth oherwydd eich bod wedi torri’r gyfraith neu’r rheolau – ond mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth yw eich hawliau. Rydym yn trafod hyn mewn rhannau eraill o’r wefan.

Os ydych chi ‘mewn trafferth’ mewn perthynas, gyda phlant neu bobl ifanc eraill, ffrindiau neu gariad, ewch i’r adran sy’n trafod Perthynas.

Os ydych chi ‘mewn trafferth’ oherwydd sefyllfa yn lle bynnag rydych yn byw – efallai am fod rhywbeth wedi digwydd i chi gartref a bod dim modd i chi aros lle rydych chi – cewch wybod mwy yn ein hadran am eich hawliau ‘Gartref’.