Mae miliynau o bobl ym mhedwar ban byd wrth eu bodd â’r nofel Matilda gan Roald Dahl, ac mae wedi cael ei gydnabod fel un o’r 30 nofel plant gorau erioed gan y School Library Journal! Wyt ti wedi ei ddarllen? Os nad wyt ti wedi gwneud hynny, efallai dy fod wedi gwylio’r ffilm neu’r fersiwn sioe gerdd. Mae pob addasiad yn arbennig.

Mae’n llyfr am ferch fach glyfar ac annwyl sydd ddim yn cael ei thrin yn rhy dda gan ei theulu. Pan mae hi’n dechrau yn yr ysgol, mae hi’n cwrdd ag athrawes anhygoel, Miss Honey, sy’n dangos iddi sut y dylai oedolion ei thrin. Mae ei hamser gyda Miss Honey yn llawn hwyl a dysgu, ond dydy hyn ddim yn wir am ei holl amser yn yr ysgol. Y pennaeth cas Miss Trunchbull yw’r rheswm am hyn. Er mwyn cael diweddglo hapus, rhaid i Matilda weithio’n galed yn yr ysgol ac arfer â dulliau dysgu ofnadwy Miss Trunchbull.

Yn ogystal â bod yn stori dda i’w darllen, mae llyfr Dahl yn rhoi cipolwg ar y materion sy’n gysylltiedig â mynd i’r ysgol ac yn rhoi cyfle i’r materion hyn gael eu trafod mewn ffordd sy’n gallu eich dysgu am eich hawliau fel plentyn. Mae’r hawliau hyn yn berthnasol i unrhyw un dan 18 oed fel y nodir yn Erthygl 18 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Mynd i’r ysgol

Mae CCUHP yn rhoi hawliau i chi er mwyn i chi dyfu’n hapus, yn iach ac yn ddiogel. A Chymru oedd y wlad gyntaf i gynnwys yr hawliau hyn yn eu cyfreithiau yn 2011.

Mae gennych hawl i ddysgu a mynd i’r ysgol oherwydd Erthyglau 28 a 29 CCUHP. Lle bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch fynd i’r ysgol rhwng 5 ac 16 oed. Mae’n rhaid i’ch rhieni benderfynu i ba ysgol y dylech fynd. Wrth i chi fynd yn hŷn, efallai y bydd gennych farn ynghylch pa ysgol y dylech fynd iddi, a gallwch siarad â’ch rhieni neu’r bobl sy’n gyfrifol am wneud y mathau hyn o benderfyniadau, am yr hyn rydych chi ei eisiau. (https:// childrenslegalcentre.wales/cy/sut-maer-gyfraith-yn-effeithio-arnaf/

Fel y gwelwn o’r llyfr, doedd Matilda ddim yn gallu mynd i’r ysgol yn brydlon gan fod ei rhieni “nad oedd yn poeni fawr y naill ffordd neu’r llall am addysg eu merch, wedi anghofio gwneud y trefniadau iawn”. Efallai y bydd rhai pobl yn meddwl: ‘Dim ysgol? Gwych!!’, ond mewn gwirionedd mae mynd i’r ysgol yn rhan bwysig o fywyd. Mae’n rhoi cyfle i chi ddysgu a gwella eich hun. Mae hefyd yn rhoi amser i chi gwrdd â phobl a gwneud ffrindiau. Drwy beidio â gallu mynd i’r ysgol, ac felly methu â gallu dysgu neu gwrdd â ffrindiau, gallai hyn gael effaith negyddol ar blant a phobl ifanc.

Mae iechyd meddwl yn fater pwysig iawn a dylid ei drafod hyd yn oed yn ifanc. Gelli siarad â phwy bynnag rwyt ti’n teimlo fwyaf cyfforddus o’i gwmpas, gallai hyn fod yn ffrind, dy fam neu dy dad, aelodau eraill o’r teulu neu athrawon hyd yn oed. Os na fyddet ti’n gallu mynd i’r ysgol, efallai y byddet ti’n teimlo’n drist dy fod yn colli’r cyfle i ddysgu a chael hwyl gyda phobl eraill o’r un oed â thi, fel y gwnaeth Matilda. Gall hefyd olygu y byddet yn teimlo’n bryderus pan fyddet ti yn gorfod mynd, os na wnest ti ymuno ar yr un pryd â phlant eraill. Mae’r teimladau hyn yn iawn ac os byddi di’n siarad â rhywun amdanyn nhw, byddi’n dechrau teimlo’n well.

Er bod Matilda wedi ymdrechu i ddod o hyd i ffyrdd o ddysgu drwy fynd i’r llyfrgell, ni ddylai hi fod wedi gorfod gwneud hyn ar ei phen ei hun! Dylai Mr a Mrs Bogtrotter (ei mam a’i thad) fod wedi cofrestru Matilda er mwyn iddi allu dechrau’r ysgol yn brydlon, ac felly hefyd dy rieni di.

Sut dylet ti gael dy drin yn yr ysgol

Fel y gwelwn yn achos Matilda, mae ei hysgol yn defnyddio ffyrdd ofnadwy o ddisgyblu’r plant. Mae hyn yn cynnwys plentyn yn cael ei orfodi i fwyta cacen enfawr (efallai bod darn bach yn neis, ond y gacen gyfan? Dim diolch!), siglo merched bach gan afael yn eu plethi, neu’r digwyddiad gwaethaf: cloi plant yn y ‘Chokey’, sef cwpwrdd bach gyda darnau o wydr wedi’u torri’n sownd yn y waliau – mae’n swnio’n frawychus yn tydi? Dydy’r dulliau hyn ddim yn iawn, ac maen nhw’n torri Erthygl 19, sy’n dweud na ddylid eich niweidio. Dylet ti gael gofal a dy gadw’n ddiogel. Dydy cael dy niweidio byth yn dderbyniol nac yn gyfiawn.

Byddai hyn bron yn sicr o effeithio ar unrhyw unigolyn neu blentyn sy’n cael ei orfodi i gael ei gosbi’n erchyll fel hyn. Gall arwain at orbryder neu deimlo’n nerfus pan fydd yn rhaid iddo fynd yn ôl i’r lle y digwyddodd. Efallai y bydd yn teimlo’n ofnus wrth wynebu’r unigolyn a wnaeth hynny ac efallai y bydd yn poeni y bydd pethau tebyg yn digwydd os yw’n eu hatgoffa o hynny.

Does dim angen i ti boeni am y dulliau disgyblu hyn, gan na fydd dy ysgol yn eu defnyddio. Ond, maen nhw’n gallu disgyblu mewn ffyrdd eraill os nad wyt ti’n ymddwyn yn iawn.

Mae Erthygl 28 CCUHP yn dweud bod yn rhaid i unrhyw ddisgyblaeth sy’n digwydd yn yr ysgol barchu dy ‘urddas dynol’. Mae hyn yn golygu na ddylet ti deimlo dy fod yn cael dy fwlio na chael dy fychanu gan athrawon.

Rhaid i athrawon weithredu’n rhesymol. Mae hyn yn golygu, os wyt ti wedi gwneud rhywbeth gwirion, mai dim ond cosb fechan y dylet ti ei chael. Os wyt ti wedi gwneud rhywbeth mwy difrifol neu os wyt ti’n torri rheolau o hyd, gallai’r canlyniadau fod yn fwy difrifol. Dylai’r athro hefyd feddwl am unrhyw resymau pam dy fod wedi ymddwyn yn y ffordd rwyt ti wedi’i wneud, gan gynnwys dy oedran, ac os wyt ti’n byw gydag anabledd neu a oes gennyt anghenion eraill.

Bydd gan bob ysgol agwedd wahanol at yr hyn sy’n digwydd pan fydd rhywun yn torri’r rheolau neu’r polisi ymddygiad. Mae gan lawer o ysgolion system ‘rhybuddio’ felly fe fyddi di’n gwybod os yw dy ymddygiad yn debygol o dy gael i drafferth os byddi’n dal ati. Ar gyfer problemau mwy difrifol (fel os byddi’n anafu rhywun neu’n difrodi eiddo) efallai y bydd canlyniadau llymach. Gall dy ysgol benderfynu beth fydd yn digwydd i ddisgyblion nad ydyn nhw’n dilyn rheolau’r ysgol, cyn belled â’u bod yn gwneud hyn yn iawn. (https:// childrenslegalcentre.wales/cy/sut-maer-gyfraith-yn-effeithio-arnaf/yn-yr-ysgol-neu-ddim/mewn-trafferth-yn-yr-ysgol/)

Hefyd, dylet wybod nad yw cael cosb gorfforol yn iawn hefyd. Does unrhyw gyfraith sy’n dweud ei bod yn iawn yn gyffredinol i rieni smacio neu daro eu plant. Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud yw ei bod yn gyffredinol yn anghywir i rywun daro unigolyn arall neu ‘ymosod’ arnyn nhw. Gan fod Cymru wedi’i datganoli, maen nhw wedi penderfynu cyflwyno deddf newydd. Bydd smacio’n cael ei wahardd yng Nghymru o 2022 ymlaen. https://childrenslegalcentre.wales/cy/smacio-plant-yng-nghymru-pam-bydd-y-gyfraith-yn-wahanol-i-loegr-cyn-bo-hir/

 

Gwybodaeth amdanaf i

Helo! Meg McKeand ydw i, rydw i’n 20 oed ac rydw i’n mynd i Brifysgol Abertawe. Rwy’n astudio’r gyfraith gan fy mod eisiau bod yn Fargyfreithiwr. Mae dysgu am y gyfraith a hawliau yn ddiddorol dros ben i mi, gobeithio eich bod chithau hefyd! Yn fy amser hamdden, rydw i wrth fy modd yn darllen a gwylio ffilmiau. Rydw i hefyd yn aelod o’r gymdeithas pêl-rwyd felly rydw i’n cael hwyl yn mynd i sesiynau hyfforddi gyda fy ffrindiau.