Dr Rhian Croke a’r Athro Simon Hoffman

Tlodi: Yn groes i hawliau plant

Ymhlith y materion hawliau plant niferus rydyn ni’n canolbwyntio arnyn nhw yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant, mae tlodi plant wedi bod yn bryder allweddol. Fel y trafodwyd mewn blog cynharach gan Dr Croke, mae byw mewn tlodi yn tanseilio nifer o hawliau plant sydd wedi’u gwarantu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r methiant parhaus i fynd i’r afael â phroblemau cyson a dinistriol tlodi plant yng Nghymru yn torri dyletswydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod pob plentyn yn elwa o’r hawliau sy’n cael eu gwarantu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Methiant llywodraeth yw tlodi plant (DU ac yn ddatganoledig) i fodloni’r ddyletswydd i sicrhau bod polisi cyhoeddus yn hyrwyddo buddiannau gorau’r plentyn (Erthygl 3 CCUHP). Ac, er bod Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru, nid ydynt yn gwneud digon i warantu hawliau plant sy’n byw mewn tlodi drwy drosi polisïau priodol yn realiti, mewn meysydd polisi sydd o dan eu rheolaeth uniongyrchol e.e. tai (Erthygl 27 CCUHP), iechyd (Erthygl 24 CCUHP), addysg (Erthyglau 28 a 29 CCUHP). Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn methu yn eu dyletswydd i ddangos a ydynt yn cymryd pob cam i warantu hawliau plant drwy wneud y defnydd mwyaf posibl o’r adnoddau sydd ar gael (fel sy’n ofynnol o dan Erthygl 4 CCUHP).

 

Cyllideb Cymru: Mae angen mwy o dryloywder

A yw Llywodraeth Cymru yn dyrannu’r uchafswm cyllid sydd ar gael i fynd i’r afael â thlodi plant? Ac a yw’r cyllid hwn yn cael ei ddyrannu’n effeithiol? Yr ateb yw, dydyn ni ddim yn gwybod Er mwyn ateb y cwestiynau hyn, mae angen gwybodaeth fwy hygyrch arnom ni ynglŷn â sut y caiff penderfyniadau gwariant eu gwneud mewn gwasanaethau plant, ochr yn ochr â blaenoriaethau mewn meysydd eraill (e.e. gwasanaethau i oedolion). Mae angen i ni wybod pa dystiolaeth sy’n llywio penderfyniadau Gweinidogion Cymru o ran sut i ddyrannu cyllid i fodloni ei flaenoriaethau gwahanol, a sut caiff penderfyniadau eu gwneud o ran cefnogi anghenion plant. Un ffordd o wneud y broses ddyrannu hon yn fwy tryloyw fyddai gweld Llywodraeth Cymru yn cynnal ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant ar ei gyllideb. Rydyn ni wedi cyflwyno tystiolaeth i’r perwyl hwn i Bwyllgor Cyllid y Senedd a Phwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Senedd. Fe wnaethom hefyd bwysleisio pwysigrwydd tryloywder ac atebolrwydd ar y gyllideb mewn tystiolaeth lafar i Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ac wedi argymell yn gyson Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ond yn anffodus mae Gweinidogion Cymru wedi bod yr un mor gyson yn gwrthod yr argymhelliad.

 

Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Llywodraeth Cymru

Mae nifer annerbyniol o uchel o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Mae 28% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol (lle mae incwm y cartref yn llai na 60% o incwm canolrifol y DU). Gwaethygodd tlodi plant oherwydd y pandemig byd-eang a’r argyfwng costau byw. Yng ngoleuni’r ffeithiau trist hyn, ac yn ymwybodol o ddiffyg targedau clir i ddod â thlodi plant i ben, galwodd y sector plant yng Nghymru ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru ei Strategaeth Tlodi Plant. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r alwad hon yn gynnar y llynedd drwy ymgynghori ar strategaeth ddrafft ym mis Mehefin 2023.

 

Ym mis Gorffennaf 2023, daeth Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant â rhanddeiliaid â diddordeb at ei gilydd i drafod y strategaeth ddrafft yn ystod gweminar a gynhaliwyd ar y cyd â Phlant yng Nghymru a’r Comisiynydd Plant. Yn ystod y weminar bu cyfranwyr yn rhannu pryderon am fylchau yn y strategaeth ddrafft.

Drw adlewyrchu ar rai o’r pryderon a godwyd yn ystod y weminar, a mabwysiadu ffocws clir ar hawliau plant, ymatebodd Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru. Roeddem yn glir iawn wrth fynegi ein barn nad oedd y strategaeth blant ddrafft wedi’i datblygu o amgylch hawliau plant, ac fel y nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, methodd â digoni’r ddyletswydd a osodwyd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i hawliau plant wrth arfer eu swyddogaethau (o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.)

Roedd ein hymateb hefyd yn nodi’n glir pam y methodd y strategaeth ddrafft â diogelu na hyrwyddo hawliau plant sy’n byw mewn tlodi, fel y gwarantwyd gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a sut mae’r pwyslais yn y strategaeth ddrafft ar amcanion a nodau llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn tynnu sylw oddi wrth hawliau plant. Fe wnaethom hefyd esbonio sut mae’r strategaeth ddrafft yn gwneud ymrwymiad i fabwysiadu Dull sy’n Ystyried Hawliau Plant ond nid yw’n amlwg sut mae’r dull hwn wedi’i roi ar waith, yn anad dim oherwydd bod y strategaeth ddrafft wedi methu â nodi camau gweithredu cadarn sy’n seiliedig ar hawliau, na thargedau canlyniadau i godi plant o dlodi.

Gallwch weld yr hyn a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru a Phwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd fan hyn.

Gwahoddwyd Dr Croke hefyd i roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ym mis Hydref, ynghyd â Chomisiynydd Plant Cymru a siaradodd yn bwerus am ein pryderon. Gallwch wylio’r dystiolaeth fan hyn a darllen  trawsgrifiad fan hyn.

Roeddem yn falch iawn bod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi ymgorffori’r rhan fwyaf o’n hargymhellion ynglŷn â gwella’r strategaeth ddrafft  yn yr adroddiad a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2023.

 

Uwchgynhadledd Tlodi Plant

Gyda chyllid sefydliad Esmee Fairbairn, fe wnaethom gyd-drefnu Uwchgynhadledd Tlodi Plant yn Abertawe gyda’n partneriaid yn Swyddfa’r Comisiynydd Plant a Phlant yng Nghymru.

 

 

 

 

 

 

Mynychwyd yr Uwchgynhadledd gan gynrychiolwyr o sefydliadau anllywodraethol a chyrff cyhoeddus ledled Cymru. Drwy sesiynau llawn a gweithdai ar bynciau amrywiol sy’n cwmpasu’r fframwaith cyfreithiol a pholisi ar dlodi plant, a phrofiadau gwahanol tlodi plant, cafwyd sawl cipolwg o’r opsiynau i fynd i’r afael â’r broblem hon yng Nghymru.

 

Gallwch ddysgu am y canfyddiadau a’r argymhellion allweddol a ddeilliodd o’r Uwchgynhadledd Tlodi Plant fan hyn (bydd ar gael pan fydd wedi’i gyhoeddi).

 

Strategaeth Tlodi Plant newydd Llywodraeth Cymru

 

Cyhoeddwyd Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru ar Ionawr 23ain. Gallwch ei gweld fan hyn a fersiwn i bobl ifanc fan hyn.

Er ein bod yn falch bod ein galwadau am gyfeiriad mwy penodol at hawliau plant a Dull sy’n Ystyried Hawliau Plant wedi cael eu clywed, mae’n amlwg o’r Strategaeth fod dal heriau o ran egluro beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol.

Yn ei Strategaeth Tlodi Plant, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i ddangos targedau a chanlyniadau clir ar gyfer lleihau a mynd i’r afael â thlodi plant a’i effaith ar blant a’u teuluoedd. Nid yw’r Strategaeth Tlodi Plant yn egluro sut bydd penderfyniadau neu gamau a gymrwyd gan Weinidogion Cymru yn diogelu ac yn cyflawni hawliau plant sy’n byw mewn tlodi, na sut caiff hyn ei fonitro, na sut bydd Gweinidogion Cymru yn atebol am sicrhau bod plant sy’n byw mewn tlodi yn cael yr hawliau y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Nid oes unrhyw beth yn y Strategaeth Tlodi Plant wedi lleihau ein pryderon bod gwarantau hawliau plant yn cael eu gwanhau gan bwyslais ar amcanion a nodau llesiant fel yr amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Rydym yn siomedig hefyd nad yw’r Strategaeth Tlodi Plant yn mynd i’r afael ag argymhellion Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a gyhoeddwyd yn 2023 sy’n ymwneud â thlodi plant neu effaith tlodi plant.

 

Camau Nesaf

Byddwn yn parhau i bwyso am fframwaith cyflawni a monitro sy’n bodloni rhwymedigaeth Llywodraeth Cymru i ddiogelu a chyflawni hawliau plant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru. Gyda Chomisiynydd Plant Cymru, gobeithiwn y gallwn gynhyrchu Canllaw Dull sy’n Ystyried Hawliau Plant wrth ymdrin â Thlodi Plant. Gobeithiwn y bydd hyn o gymorth i asiantaethau statudol ar draws Cymru yn eu hymdrechion i liniaru neu ddileu effeithiau tlodi plant.