Ar 29 Tachwedd, bydd Cynulliad Iechyd y Byd yn cwrdd i drafod Cytuniad Rhyngwladol ar y Pandemig. Gan ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd o bandemig Covid-19, bydd y cytuniad (a fydd yn rhwymo’n gyfreithiol o dan gyfraith ryngwladol) yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ddiogelu iechyd pobl yn fyd-eang, yn enwedig wrth baratoi ar gyfer unrhyw argyfyngau iechyd yn y dyfodol. Y gobaith yw y bydd y cytuniad yn ‘galluogi gwledydd o amgylch y byd i gryfhau capasiti cenedlaethol, rhanbarthol a byd-eang a’r gallu i wrthsefyll pandemigau yn y dyfodol.’

Pandemig Covid-19

Ar ddechrau pandemig Covid-19, cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ynghyd â chyrff cytuniad eraill y Cenhedloedd Unedig, ddatganiad yn cydnabod y gallai fod yn angenrheidiol cyfyngu ar hawliau dynol mewn cyfnodau o argyfwng er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag, mae datganiad y Cenhedloedd Unedig yn pwysleisio mai dim ond pan fo angen y dylid gosod unrhyw gyfyngiadau ar hawliau dynol. Rhaid iddynt fod yn gymesur a chyn lleied ohonynt â phosibl. Mae’r datganiad hefyd yn rhybuddio am effaith gorfforol, emosiynol a seicolegol ddifrifol y pandemig ar blant ac yn galw ar bob gwlad i amddiffyn eu hawliau.’

Ymchwil i Ymatebion y Llywodraeth i’r Pandemig yn Ewrop

Mae ymchwil i Fesurau Brys a gyflwynwyd gan lywodraethau ledled Ewrop mewn ymateb i bandemig Covid-19 yn dangos sut mae’r mesurau hyn wedi methu diogelu hawliau plant. Roedd yr ymchwil hwn, a gynhaliwyd gan yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant ar gyfer Rhwydwaith Ombwdsmyn Plant Ewrop (ENOC), hefyd yn dangos bod Mesurau Brys wedi cael effaith negyddol ar yr ystod lawn o hawliau plant.

Canfu ymchwil yr Arsyllfa fod cau ysgolion ledled Ewrop a chyfyngiadau llym ar gymdeithasu gyda ffrindiau a theulu estynedig, yn ogystal â chyfyngiadau ar gyfleoedd i chwarae, cyfleoedd hamdden a chwaraeon, i gyd wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl plant. Ar yr un pryd, cafodd mynediad plant at wasanaethau iechyd hanfodol ei leihau wrth i adnoddau gael eu dyrannu i ddelio â’r pandemig. Roedd plant a oedd yn fwyaf agored i niwed ac mewn perygl wedi’u cyfyngu i’r cartref, a heb ysgol fel man lloches, gan gynyddu’r risg o drais neu gamdriniaeth.

Cafodd mynediad at addysg ei leihau i bob plentyn ar draws Ewrop, ond i’r plant hynny a oedd yn byw mewn tlodi roedd hyn yn waeth gan nad oeddent yn gallu cael gafael ar dechnoleg a fyddai wedi eu galluogi i gymryd rhan mewn addysg ar-lein. Collodd llawer o rieni/gofalwyr eu swyddi yn ystod y pandemig, gan olygu bod plant a’u teuluoedd yn cael eu gorfodi i dlodi ac ansicrwydd o ran bwyd.

Canfu ymchwil yr Arsyllfa fod llawer o blant sydd eisoes wedi’u hamddifadu o’u rhyddid mewn sefydliadau (ee troseddwyr ifanc, plant â phroblemau iechyd meddwl, neu blant sy’n ceisio lloches) wedi’u cyfyngu ymhellach i’w hystafelloedd am y rhan fwyaf o’r dydd ac nad oeddent yn cael yr un cyfleoedd ar gyfer addysg na hamdden na chyswllt â theulu, gweithwyr cymdeithasol na chyfreithwyr.

Yn ôl yr ymchwil, un o’r rhesymau pam mae Mesurau Brys Covid-19 wedi cael effaith mor negyddol ar blant ledled Ewrop oedd diffyg ymwneud plant (neu eu cynrychiolwyr) yn y gwaith o ddatblygu deddfwriaeth frys. Hefyd, dim ond lleiafrif o lywodraethau a gynhaliodd Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant (CRIA) i ragweld effaith cynigion am Fesurau Brys ar hawliau plant. Byddai defnyddio’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant wedi rhoi’r cyfle i lywodraethau osgoi neu leihau unrhyw effeithiau negyddol a gafodd Deddfu mewn Argyfwng ar hawliau plant – ond gan fod yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yn absennol yn y rhan fwyaf o achosion, collwyd y cyfle hwn. Argymhellir yr Asesiad hwn gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel arf hanfodol ar gyfer sicrhau bod deddfwriaeth neu bolisi yn cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Gallwch ddarllen mwy am yr ymchwil yma ac yn ein blog.

Hawliau Plant a’r Cytuniad Rhyngwladol

Mae angen i unrhyw gytuniad sy’n mynd i’r afael ag effaith pandemig gydnabod yr effaith ar blant. Dylai bwysleisio sut mae’n rhaid i lywodraethau sicrhau nad yw cynlluniau ymateb i’r pandemig yn gwahaniaethu yn erbyn plant ac na ddylai gael effaith negyddol anghymesur ar blant. Yn hytrach, dylid cynllunio Mesurau Brys i leihau unrhyw effaith negyddol ar blant a, lle bynnag y bo modd, dylent barchu ac amddiffyn hawliau plant.

Pan fydd Cynulliad Iechyd y Byd yn ystyried datblygu Cytuniad Rhyngwladol ar y Pandemigau ar 29 Tachwedd, bydd angen iddo ddefnyddio’n helaeth y gwersi a ddysgwyd o bandemig Covid-19. Rhaid rhoi blaenoriaeth i osgoi, cyn belled ag y bo modd, sefyllfaoedd lle mae llywodraethau yn ymateb i unrhyw bandemig yn y dyfodol mewn ffyrdd sy’n cael effaith negyddol ar blant a hawliau plant. Mae angen i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn gael ei ystyried yn llawn pan fydd y Cytuniad Rhyngwladol yn cael ei drafod a’i gwblhau.

Gan ddefnyddio ymchwil yr Arsyllfa ar Fesur Brys, cyhoeddodd ENOC Ddatganiad Sefyllfa ar Agwedd Hawliau Plant at Argyfyngau Cyhoeddus. Datblygodd yr Arsyllfa Ddull Gweithredu Hawliau Plant a fabwysiadwyd gan ENOC fel mecanwaith i sicrhau bod hawliau plant yn flaenllaw a bod llywodraethau neu awdurdodau cyhoeddus eraill yn datblygu deddfwriaeth neu bolisi. Mae angen i Gynulliad Iechyd y Byd fabwysiadu Dull o Weithredu Hawliau Plant er mwyn datblygu’r Cytuniad Rhyngwladol ar Bandemigau.

Awduron:
Dr Rhian Croke, Ymgynghorydd Annibynnol ar Hawliau Plant a’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant Cyswllt

Simon Hoffman, Athro Cyfraith Hawliau Dynol Ryngwladol a Chyd-drefnydd yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant