Dull Hawliau Plant (CRA) o ddarparu Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru

Mae plant yng Nghymru’n derbyn ystod o wasanaethau gan gyrff cyhoeddus fel Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol, ysgolion, a byrddau iechyd. Gelwir y gwasanaethau hyn yn ‘wasanaethau cyhoeddus’ yn aml. Oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) fel canllaw ar sut y dylid rhedeg gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae’n bwysig bod cyrff cyhoeddus yn ystyried hawliau plant wrth gynllunio a rhedeg gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant wedi datblygu Dull Hawliau Plant (CRA) i’w ddefnyddio gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Fe’i paratowyd ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru yn 2016 gan y Dr Rhian Croke a’r Athro Simon Hoffman, ar sail ymchwil a wnaed ar y pwnc. Mae’r dull CRA yn seiliedig ar bum egwyddor:

  • Gwreiddio hawliau plant.
  • Cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu.
  • Cyfranogiad plant.
  • Grymuso plant.
  • Bod yn atebol am blant.

Os am ddysgu mwy am yr egwyddorion hyn, a pham eu bod yn bwysig, gallwch ddarllen y ddogfen ‘Y Ffordd Gywir’ gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Mae’r CRA yn bwysig oherwydd ei fod wedi’i gefnogi gan Gomisiynydd Plant Cymru ond hefyd gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol fel ffordd o weithio sy’n helpu cyrff cyhoeddus i weithredu (neu roi effaith i) hawliau plant yng Nghymru. Yn 2020 cafodd y CRA hefyd ei fabwysiadu gan Gomisiynydd Plant ynys Jersey fel ffordd o weithio i Lywodraeth yr ynys.

Os am ddysgu mwy am ddull CRA, a sut y gallai fod yn berthnasol i wasanaethau iechyd, gallwch ddarllen esboniad manwl iawn mewn PhD (astudiaeth academaidd), wedi’i ysgrifennu gan Rhian Croke, yma: https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa58170

Yn 2021, fe wnaeth Rhian a Simon waith ymchwil i Rwydwaith Ewropeaidd yr Ombwdsmyn Plant (ENOC) ar effaith deddfwriaeth frys Covid-19 ar hawliau plant. Pan ddefnyddiwyd y dull CRA gyda’r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer yr ymchwil, daeth yn amlwg bod llawer o lywodraethau Ewropeaidd heb ystyried hawliau plant yn iawn yn ystod Covid-19. Mae’r ymchwil yn dadlau bod angen i lywodraethau wneud llawer mwy i barchu hawliau plant wrth wneud cyfreithiau neu bolisïau i ddelio ag argyfyngau cyhoeddus fel Covid-19. Gallwch ddarllen am yr ymchwil yma: http://enoc.eu/wp-content/uploads/2021/10/Synthesis-Report-COVID-19-learning-for-the-future.pdf

Last updated on: October 12, 2021