Roedd darllen A Thousand Splendid Suns yn bleserus dros ben. Mae’n llyfr sy’n dangos y dewrder a’r herfeiddiwch y mae pobl ifanc yn eu dangos wrth wynebu trallod llethol. Mae’r stori’n dilyn dwy ferch wahanol yn Affganistan yn yr 20fed ganrif. Mariam yw un ferch, ac mae’n cael ei gorfodi i briodi oedolyn yn erbyn ei hewyllys yn y 1970au a hithau’n 15 oed. Laila yw’r ferch arall, sydd hefyd yn gorfod priodi’r un dyn yn 14 oed, ddau ddegawd yn ddiweddarach. Mae’r merched hyn yn cael eu gorfodi i’r sefyllfa hon oherwydd bod cyfreithiau’r wlad maen nhw’n byw ynddi yn caniatáu hynny.

Yn ffodus, yng Nghymru, rydym yn rhydd rhag gormes o’r fath oherwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP yn fyr). Dyma ymrwymiad gan y Cenhedloedd Unedig i amddiffyn hawliau plant ym mhob man y gallant. Mabwysiadodd Cymru CCUHP yn rhan o Gyfraith Cymru drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2011. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw roi sylw dyledus i CCUHP pa bryd bynnag y byddan nhw’n llunio unrhyw gyfreithiau newydd. Mae hwn yn gam enfawr i’r cyfeiriad iawn o ran amddiffyn hawliau pobl dan 18 oed.

Beth yw fy hawliau yn y sefyllfaoedd hyn??

Yn gyntaf, cyn cael ei gorfodi i briodi dyn hŷn, mae Mariam yn byw gyda’i thad, a’i wraig. Er nad yw hi’n hoffi gwraig ei thad, mae’n hapus i allu gweld ei thad yn aml. Ond, daw’n amlwg yn fuan nad yw ei thad am iddi fyw gydag ef. Felly, mae’n trefnu iddi briodi dyn o’r enw Rasheed, sy’n llawer hŷn na hi. Mae’n erfyn ar ei thad i beidio â gadael i hyn ddigwydd, ond mae’n gwrthod. Er nad yw llawer yn meddwl am hyn pan fyddan nhw’n clywed am gam-drin, mae hyn yn fath difrifol iawn o gam-drin. Ni ddylai Mariam fod wedi cael ei gorfodi i’r sefyllfa hon o gwbl.

Yng Nghymru, mae pobl ifanc yn ddiogel rhag y math hwn o gamdriniaeth gan eu bod yn cael eu hamddiffyn gan Erthyglau 12, 19 ac 20 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Yn y sefyllfa hon, mae Erthygl 19 yn amddiffyn plant rhag unrhyw fath o gamarfer neu esgeulustod corfforol neu feddyliol, drwy wneud i’r llywodraeth ddeddfu i’w atal. Mae hyn yn golygu y dylai fod yn anghyfreithlon i unrhyw blentyn ddioddef triniaeth niweidiol pan fydd yng ngofal rhiant. Pe bai Mariam yn byw yng Nghymru, byddai mesurau ataliol ar waith i atal y driniaeth y mae hi’n ei hwynebu yn y sefyllfa hon. Gellir defnyddio Gorchmynion Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod i atal priodasau dan orfod rhag digwydd. Mae’r rhain yn dod o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996. Yn ogystal, ni ddylai Mariam gael ei hamddifadu o’i hamgylchedd teuluol yn erbyn y buddiannau gorau iddi hi. Nodir hyn yn Erthygl 20. Mae hyn yn golygu na ddylid byth cymryd plentyn yn barhaol, neu dros dro, oddi wrth ei amgylchedd teuluol arferol pe bai hynny’n achosi niwed iddo. Yn achos Mariam, hi’n cael ei gorfodi i briodi a byw gyda’r dyn mewn dinas wahanol fyddai hyn.

Yn ogystal, ni ddylai Mariam erioed fod wedi cael ei gorfodi i briodi dyn a hithau ond yn 15 oed. Ni ddylai neb orfod priodi rhywun yn erbyn ei ewyllys, ond ni ddylai plant byth orfod priodi neb cyn iddyn nhw fod yn oedolyn. Yng Nghymru, ni fyddai unrhyw blentyn byth yn cael priodi person arall. Mae hyn yn anghyfreithlon o dan gyfraith y DU. Yn ddiweddar, mae Deddf Priodas a Phartneriaeth Sifil (Oedran Isaf) 2022 wedi codi oedran isaf priodas i 18. Mae hyn yn golygu na all hyd yn oed pobl ifanc 16 a 17 oed briodi, hyd yn oed gyda chaniatâd rhieni. Ond, mae Erthyglau 34, 35 a 36 CCUHP hefyd yn atal plant rhag priodi.

Mae Erthygl 34 yn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag unrhyw fath o gam-drin rhywiol a allai ddigwydd. Byddai hyn yn dod yn rhan annatod o briodas dan orfod fel priodas Mariam. Mae’r Erthygl hon yn cael ei chynnal yng nghyfraith y DU gan Ddeddf Plant 1989. Mae’r ddeddf hon yn gwneud cam-drin plant mewn unrhyw ffordd yn anghyfreithlon ac mae’n caniatáu i’r llywodraeth gamu i mewn os oes rheswm dros gredu bod plentyn mewn perygl. Mae hyn yn golygu os byddwch chi’n dweud wrth rywun bod rhywbeth o’i le, mae yna bobl o’r llywodraeth sy’n gallu dod i helpu.

Hefyd, mae Erthygl 35 yn amddiffyn plant rhag cael eu gwerthu neu eu masnachu. Mae hyn yn golygu na all rhiant neu warcheidwad eich rhoi chi i rywun yn gyfnewid am arian.  Mae erthygl 36 yn ymhelaethu ar hyn, gan nodi bod yn rhaid i’r llywodraeth amddiffyn plant rhag unrhyw fath o gamfanteisio, a allai fod yn niweidiol i’w lles.

Yng nghyfraith y DU, mae Erthyglau 35 a 36 yn cael eu cynnal gan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae’r Ddeddf hon yn ymdrin â llawer o’r ffyrdd o gamfanteisio ar blentyn, fel drwy waith neu fasnachu pobl. Mae hyn yn golygu na all neb eich gorfodi i wneud unrhyw fath o lafur, na gwasanaethu person arall yn erbyn eich ewyllys. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi mesurau ar waith i atal y bobl a allai wneud hyn i chi, a chynnig cymorth i chi os ydych chi’n ddioddef y math hwn o gam-drin.

Hawl arall sy’n berthnasol i’r sefyllfa hon yw sicrhau bod eich safbwyntiau’n cael eu parchu. Mae Erthygl 12 yn dweud wrthym y dylai pob plentyn fod yn rhydd i fynegi ei farn a’i deimladau heb ofni na fydd yn cael ei gymryd o ddifrif. Mae hyn yn rhywbeth sy’n berthnasol bob amser. Does dim senario sy’n eich cynnwys chi lle nad yw’r hawl hon yn bwysig. Yn sefyllfa Mariam, dylid bod wedi gwrando ar ei phryderon ynghylch cael ei gwahanu oddi wrth ei thad gan fod hyn yn ymwneud â’i bywyd cartref o ddydd i ddydd.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n meddwl bod rhywbeth fel hyn yn digwydd i mi?

Gall fod yn anodd iawn siarad am brofiadau personol lle gallech fod wedi cael eich trin yn wael, ond mae pobl y gallwch fynd atyn nhw a fydd yn gallu eich helpu a ddim yn feirniadol:

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, mewn perygl o’r materion sy’n cael eu trafod uchod, dylech siarad ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo, fel athro/athrawes neu berthynas. Os nad yw’r bobl hyn ar gael i chi, gallwch gysylltu â’r heddlu ar y rhifau Argyfwng (999) a Dim Argyfwng (111).

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i dudalen we Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru. Neu, gallwch fynd i dudalen UNICEF a dysgu am y gwaith caled maen nhw’n ei wneud i amddiffyn plant ledled y byd. Hefyd, cadwch lygad am fwy o flogiau fel hyn yn y prosiect ‘Darllen fy Hawliau’.

Gair am yr Awdur

Max Williams ydw i ac rydw i’n fyfyriwr blwyddyn gyntaf sy’n astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd. Rwyf wedi bod yn ddarllenydd brwd erioed, ac mae’r prosiect hwn wedi fy ngalluogi i ymgorffori’r diddordeb hwn yn fy astudiaethau. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd hawliau plant, ac nid yw llawer o bobl ifanc yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw. Mae hon yn broblem rwy’n bwriadu helpu i fynd i’r afael â hi drwy fod yn rhan o’r prosiect Darllen Fy Hawliau.

 

Diolch i Nicola Horgan, Uwch Gyfreithiwr Diogelu Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, am brawf ddarllen cynnwys cyfreithiol y blog hwn i fyfyrwyr