Rhybudd cynnwys: crybwyllir cam-drin domestig / cam-drin rhywiol

Mae ‘It Ends With Us’ yn stori am ferch ifanc o’r enw Lily Bloom sydd newydd raddio o’r coleg ac wedi symud i Boston i ddechrau ei bywyd newydd. Yno, mae hi’n dilyn ei breuddwyd o agor ei busnes ei hun – siop flodau.

Mae hi’n cwrdd â Ryle Kincaid ar ben to y tro cyntaf, ar ôl angladd ei thad. Doedd Lily erioed yn agos iawn at ei thad gan ei fod yn ymosodol tuag at ei mam. Mae Lily a Ryle yn mynd i gyfeiriadau gwahanol. Yn fuan wedyn, mae Ryle a Lily yn dod yn ôl mewn cysylltiad ac yn dechrau perthynas. Wrth i’w perthynas ddatblygu, mae Ryle yn araf droi’n ymosodol tuag at Lily, er ei fod yn ymddangos fel y dyn perffaith. Er enghraifft, mae Ryle yn llosgi ei law wrth goginio ac yn cymryd ei ddicter allan ar Lily. Ar ôl gweld bod gan Lily rif ffôn ei chariad cyntaf, mae Ryle yn gwylltio’n gacwn ac yn ceisio ymosod arni’n rhywiol ac yn ei gwthio i lawr y grisiau. Mae Lily yn gadael Ryle ar ôl hyn ond pan fydd hi’n mynd i’r ysbyty, mae hi’n cael gwybod ei bod hi’n feichiog. Mae hi eisiau i’r cylch o gam-drin ddod i ben gyda hi a’i merch.

Pam mae ymddygiad Ryle tuag at Lily yn anghywir?

Mae’r ffordd y mae Ryle yn trin Lily yn annerbyniol am nifer o resymau. Mae’n brifo Lily yn gorfforol a hyd yn oed yn ceisio ymosod arni’n rhywiol, rhywbeth na ddylai byth ddigwydd mewn perthynas. Ni ddylai eich partner eich taro na chymryd eu dicter allan arnoch chi, ac os yw’n gwneud hynny, mae hynny’n cael ei ddiffinio fel cam-drin domestig. Mae pawb yn haeddu byw’n rhydd o’r bygythiad o gael eu brifo neu eu hanafu gan rywun arall, yn enwedig yn eu cartref.

Beth yw cam-drin domestig?

Mae’n bwysig deall bod ymddygiad Ryle tuag at Lily yn annerbyniol ac yn anghywir. Cam-drin domestig yw hyn. Yn y DU, mae gennym Ddeddf Cam-drin Domestig 2021, sy’n diffinio cam-drin domestig fel “cam-drin corfforol neu rywiol, ymddygiad treisgar neu fygythiol, ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, cam-drin economaidd, a cham-drin seicolegol, emosiynol neu arall”.

Gall cam-drin domestig ddechrau gyda phethau bach fel eich partner yn rheoli pwy y gallwch chi fod yn ffrindiau â nhw, neu gall ddechrau’n fwy difrifol, fel gyda Ryle yn gwthio Lily. Er bod “It Ends With Us” yn canolbwyntio ar Lily fel person sy’n dioddef cam-drin domestig gan ei phartner, gall plant hefyd ddioddef cam-drin domestig gan eu rhieni. Er enghraifft, mae Lily yn poeni y bydd Ryle yn dechrau brifo ei merch, sy’n ei harwain hi i adael y berthynas.

Beth i’w wneud os ydych chi yn yr un sefyllfa â Lily

Os yw rhywun yn eich trin chi fel yr oedd Ryle yn trin Lily, mae’n bwysig iawn eich bod yn gofyn am help. Yn aml, bydd camdrinwyr yn eich rheoli’n gyfrwys fel eich bod yn maddau iddynt, fel y gwelir yn “It Ends With Us” pan fydd Ryle yn ymddiheuro dro ar ôl tro i Lily ar ôl iddo ei gwthio, a hyd yn oed yn dweud wrthi ei fod mewn cariad â hi. Rheolaeth gyfrwys yw hyn ac ni fyddai rhywun sy’n eich caru yn eich anafu.

Mae llawer o adnoddau ar gael i bobl sy’n dioddef cam-drin domestig. Er enghraifft, gallwch chi fynd at y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Cam-drin Domestig a chysylltu â nhw ar-lein neu drwy eu llinell gymorth gyfrinachol yn rhad ac am ddim, sef 0808 2000 247.

Hefyd, yng Nghymru, mae gennym y llinell gymorth Byw Heb Ofn, sy’n cynnig cymorth a chyngor yn rhad ac am ddim 24/7 dros y ffôn, drwy sgwrs ar-lein, neges destun neu e-bost. Gallwch chi hefyd ffonio’r heddlu i roi gwybod am ddigwyddiad penodol ac o bosibl i gael eich camdriniwr wedi’i gyhuddo.

Beth os yw fy rhieni yn fy mrifo?

Os yw eich rhiant yn eich brifo, dylech siarad ag oedolyn dibynadwy. Yng Nghymru, cafodd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) ei phasio ar 21 Mawrth 2022. Mae hyn wedi gwneud cam-drin plant yn gorfforol yn fater anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys smacio, taro, slapio ac ysgwyd. Cafodd y gyfraith hon ei phasio fel bod plant yn cael yr un amddiffyniad ag y mae oedolion yn ei gael rhag ymosodiad. Mae gan bawb yr hawl i fyw eu bywydau’n ddiogel ac yn rhydd rhag y bygythiad o gam-drin corfforol neu rhag gorfod dioddef hynny go iawn.

Os yw eich rhiant yn eich brifo neu’n gwneud i chi deimlo’n anniogel gartref, mae’n bwysig siarad â’ch athro/athrawes neu oedolyn dibynadwy. Os yw siarad ag oedolyn yn codi ofn arnoch, gallwch chi gysylltu â ChildLine ar 0800 1111.

Beth fyddai’n digwydd nesaf?

Os bydd yr heddlu’n cael eu galw, gallant arestio’r camdriniwr os ydynt o’r farn fod cyfiawnhad dros wneud hynny. Mae camdriniwr honedig yn cael ei gadw am hyd at 24 awr cyn cael ei gyhuddo gan yr heddlu. Nid oes un drosedd benodol ar gyfer cam-drin domestig, ond mae llawer o droseddau y gellir cael camdriniwr yn euog ohonynt:

  • Ymosodiad cyffredin
  • Gwir Niwed Corfforol (ABH)
  • Niwed Corfforol Difrifol (GBH)
  • Treisio
  • Ymosodiad rhywiol
  • Stelcio
  • Aflonyddu

Drwy fynd drwy’r system gyfreithiol, efallai y gallwch chi gael rhywbeth o’r enw ‘gwaharddeb’ yn erbyn eich camdriniwr, sef gorchymyn llys sy’n ei gwneud yn ofynnol i rywun beidio â gwneud rhywbeth. Dim ond os oes euogfarn y gallwch gael un o’r rhain. Fodd bynnag, gallwch chi gael ‘gorchymyn atal’, sef gorchymyn llys dros dro a roddir i atal person rhag cyflawni gweithred, hyd yn oed os na chaiff yr euogfarn ei chadarnhau.

Cofiwch fod perthnasoedd i fod yn hwyl ac yn llawn cariad, ac ni ddylech ofni eich partner byth! Mae pobl ar gael bob amser sy’n barod i’ch helpu a gwrando arnoch chi os byddwch chi byth yn y sefyllfa hon.

Madison Williams yw fy enw i, ac rwy’n fyfyriwr y Gyfraith gyda Throseddeg yn fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe. Roeddwn i eisiau cymryd rhan yn y blog ‘Darllen fy Hawliau’ gan fy mod i’n credu ei bod yn bwysig bod pawb yn deall pa hawliau sydd ganddyn nhw mewn gwahanol amgylchiadau.