Efallai y byddwch wedi clywed am Matilda, llyfr, ffilm a sioe gerdd adnabyddus (yr un ddiweddaraf wedi’i rhyddhau’n ddiweddar) gan Roald Dahl. I fod yn onest, dim ond y ffilm dwi wedi’i gweld.
Dyma stori am ferch o’r enw Matilda Wormwood. Serch hynny, nid yw Matilda yn cael ei thrin fel plentyn cyffredin; nid oherwydd ei bod hi wedi gwneud unrhyw beth o’i le ond oherwydd bod ei rhieni yn ei cham-drin a’i hesgeuluso.
Mae ei brawd Michael yn gwneud hwyl am ei phen drwy’r amser, dyw ei rhieni ddim yn ei thrin gyda chynhesrwydd a charedigrwydd, ac maen nhw’n gweiddi arni ac yn ei hanwybyddu. Mae Matilda yn aml yn cael ei gadael ar ei phen ei hun yn y tŷ, lle gallai brifo ei hun yn hawdd. Mae hi’n gwneud bwyd iddi hi ei hun, yn gwisgo ei hun, a does ganddi ddim llawer o deganau.
Dyw’r hyn y mae’r Wormwoods yn ei wneud i Matilda ddim yn iawn. Mae’n cael ei alw’n ‘Esgeulustod’, ac mae hyn yn fath o gam-drin plant. Oeddech chi’n gwybod bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (Erthygl 19) yn datgan bod yn rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag pob math o drais, camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth wael gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy’n gofalu amdanyn nhw? Ac mewn ysgolion, mae’r un peth yn wir, mae ganddyn nhw broses o’r enw ‘Diogelu’ i’ch amddiffyn chi.
Felly, beth yn union yw Esgeulustod? Mae’r NSPCC yn disgrifio Esgeulustod fel “methiant parhaus i ddiwallu anghenion sylfaenol plentyn, ac mewn gwirionedd dyma’r math mwyaf cyffredin o gam-drin plant”.
Mae yna sawl math o Esgeulustod, er enghraifft;
- Esgeulustod addysgol- Nid yw rhiant yn sicrhau bod eu plentyn yn cael addysg.
- Esgeulustod emosiynol – Nid yw plentyn yn cael yr anogaeth a’r ysgogiad sydd eu hangen arnyn nhw. Gallai hyn gynnwys eu hanwybyddu, eu bychanu, eu bygwth neu eu hynysu.
- Esgeulustod meddygol – Nid yw plentyn yn cael gofal iechyd iawn. Mae hyn yn cynnwys gofal deintyddol a gwrthod neu anwybyddu argymhellion meddygol.
- Esgeulustod corfforol – Nid yw anghenion sylfaenol plentyn, fel bwyd, dillad neu loches, yn cael eu diwallu neu nid ydynt yn cael eu goruchwylio’n briodol na’u cadw’n ddiogel.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth fan hyn: Mae Esgeulustod hefyd yn Gam-drin Plant: Gwybod y Cyfan Amdano | NSPCC
Mae Matilda yn dioddef bron bob un o’r mathau uchod o Esgeulustod. Yn enwedig esgeulustod emosiynol gan bod ei rhieni yn ei bychanu’n aml, sy’n gwneud iddo ymddangos fel bod rhywbeth o’i le ar Matilda ac nad yw hi’n glyfar iawn. Er enghraifft:
Harry Wormwood: “Listen, you little wiseacre! I’m smart, you’re dumb; I’m big, you’re little; I’m right, you’re wrong, and there’s nothing you can do about it”
Er gwaetha hyn i gyd, mae Matilda yn ferch glyfar a charedig sydd wrth ei bodd gyda llyfrau – mewn gwirionedd, mae’n cerdded i’w llyfrgell gyhoeddus leol bob dydd i ddod o hyd i rywbeth i’w ddarllen. Mae’n dweud bod darllen yn dod â chysur iddi oherwydd mae’r bobl yno yn garedig, yn ddewr ac wedi cadw cwmni iddi gan ei bod wastad ar ei phen ei hun.
Serch hynny, pan mae Harry Wormwood yn dod o hyd i Matilda yn darllen, mae’n ei alw’n sothach ac hyd yn oed yn rhwygo ei llyfrau. Mae Erthygl 13 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn datgan bod gan blentyn yr hawl i ryddid mynegiant; mae’r hawl hon yn cynnwys rhyddid i geisio, derbyn a rhannu gwybodaeth a syniadau o bob math. Boed yn ysgrifenedig neu mewn print, ar ffurf celf, neu drwy unrhyw gyfrwng arall o ddewis y plentyn.
Math arall o Esgeulustod y mae Matilda yn ei wynebu yw esgeulustod addysgol gan fod teulu’r Wormwood yn anghofio beth yw ei hoedran a ddim yn ei hanfon i’r ysgol nes ei bod yn 6 oed. Mae Erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud bod gan bob plentyn yr hawl i addysg, ac yng Nghymru, mae’r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i blentyn ddechrau eu haddysg orfodol ym mis Medi cyn eu pen-blwydd yn bum mlwydd oed.
Yn ogystal, mae’n nodi bod “rhaid i ddisgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas plant a’u hawliau”. Erthygl 28 Crynodeb CCUHP crynodeb 1_1.pdf (unicef.org.uk) Serch hynny, dyw Prifathrawes ysgol Matilda, Ms. Trunchbull, ddim yn garedig iawn. Mewn gwirionedd, mae hi’n ymosodol, yn fygythiol, ac yn cam-drin plant yn eiriol. Yng Nghymru, mae brifo plentyn yn gorfforol yn anghyfreithlon sy’n golygu bod gan blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiadau ag oedolion. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar GOV.Wales; Stopio cosbi corfforol ymhlith plant | GOV.WALES
Ms Trunchbull: My school is a model of discipline! Use the rod, beat the child, that’s my motto. They’re all mistakes, children! Filthy, nasty things. Glad I never was one.
Yn y pen draw, mae diweddglo hapus i stori Matilda wrth i fam gariadus, Miss Honey, athrawes o’r ysgol, ei mabwysiadu. Nid yw hynny’n wir am bob plentyn sy’n wynebu camdriniaeth ac esgeulustod, ond yng Nghymru, mae help, cefnogaeth, a chlust i wrando os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod ei angen. Felly siaradwch â rhywun. Gallai hyn gynnwys y NSPCC, cymdeithas genedlaethol sy’n ceisio atal creulondeb i blant. Os ydych chi yng Nghymru, gallai fod yn MEIC, gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru, sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a chymorth y gallai fod eu hangen arnoch chi.
Gallwch hyd yn oed helpu eich hun drwy ddeall eich hawliau. Mae gan y Cenhedloedd Unedig rywbeth o’r enw ‘The ABCDE of Children’s Rights’. Gall helpu plant i ddysgu am natur eu hawliau. Ei bwrpas yw dangos sut mae hawliau yn sylfaenol, yn gynhenid, yn ddiymwad, yn ddiamod ac yn ddiwahân.
A- Hawliau i BOB plentyn. SYLFAENOL
B- Mae’r hawliau yno o adeg GENI. CYNHENID
C- NI ELLIR cymryd hawliau i ffwrdd. DIYMWAD
D- NID oes rhaid ennill hawliau DIAMOD
E- Mae pob hawl yr UN mor bwysig. DIWAHÂN
ABCDE-of-Rights.pdf (unicef.org.uk)
Ynglŷn â’r awdur:
Helo na! Rydw i yn fy Mlwyddyn Gyntaf yn Abertawe – yn y Ddinas a’r Brifysgol, felly mae’n her ceisio peidio mynd ar goll. Gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen a gadewch sylw os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon neu ond os ydych chi’n dueddol o fynd ar goll hefyd, os na, os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar fy nghyfer i. Diolch!
Ayan Ibrahim
