Mae byw mewn tlodi yn tanseilio hawliau plant sydd wedi’u gwarantu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Er enghraifft, mae’n cael effaith negyddol ar hawl plant i fyw a goroesi, ac i ddatblygu i’w potensial gorau (Erthygl 6 CCUHP), i safon byw ddigonol, e.e. i fwyd, dillad a thai digonol (Erthygl 27 CCUHP), i’r safon uchaf bosibl o iechyd meddyliol a chorfforol (Erthygl 24 CCUHP), i addysg (Erthygl 28 CCUHP), i gymryd rhan mewn fforymau a mannau i ddylanwadu ar benderfyniadau (Erthygl 12), i chwarae a mwynhau gweithgareddau hamdden a diwylliant (Erthygl 31 CCUHP); a chael mynediad at wasanaethau hanfodol heb wahaniaethu (Erthygl 2 CCUHP).
Mae methu â mynd i’r afael â thlodi yn torri’r rhwymedigaeth ar lywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig i barchu, gwarchod a chyflawni’r holl hawliau sy’n cael eu gwarantu gan CCUHP, ac nid yw’n gydnaws â’r hyn sydd er budd gorau plentyn (Erthygl 3 CCUHP). Mewn meysydd polisi cymdeithasol neu economaidd sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru (e.e. tai, iechyd a gofal cymdeithasol, addysg), mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i gymryd camau pendant i weithredu hawliau plant o dan y CCUHP, gan wneud y defnydd mwyaf posibl o’r adnoddau sydd ar gael (o ganlyniad i Erthygl 4 CCUHP).
Fel y nodwyd gan y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant, mae’r gyfradd tlodi plant wedi codi yng Nghymru; gan godi i fwy nag 1 o bob 3 phlentyn yng Nghymru, ac o leiaf chwarter y plant ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Dywedodd Karen McFarlarne, awdur 6ed arolwg blynyddol o Dlodi Plant a Theuluoedd Plant yng Nghymru (Medi 2022):
‘Mae 34% o blant a phobl ifanc yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi. Gall effeithiau tlodi fod yn bellgyrhaeddol a gall gyffwrdd ar bob agwedd ar fywydau plant. Yr eiliad hon, wrth i chi ddarllen hwn, mae llawer o deuluoedd yng Nghymru yn gorfod penderfynu naill ai i fwydo eu plant neu ddefnyddio trydan.’
Ochr yn ochr â’r ystadegau brawychus hyn, cyhoeddodd y Sefydliad Polisi Addysg adroddiad ym mis Gorffennaf ar gyrhaeddiad addysgol plant. Mae’r canfyddiadau’n cadarnhau bod disgyblion o gefndiroedd tlotach tua dwy flynedd y tu ôl i’w cyfoedion. Fel yr eglura Ellie Harwood o’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant:
Yn y pen draw, dim ond os bydd strategaethau i roi terfyn ar dlodi plant yn y gymdeithas ehangach y bydd strategaethau i ‘gau’r bwlch cyrhaeddiad’ yn llwyddo. Ac ar gyfer hynny mae angen i ni wella incwm teuluoedd drwy waith teg, gwell nawdd cymdeithasol, tai fforddiadwy a gofal plant cyffredinol.[i]
Mae’n annerbyniol y dylai plant sy’n byw mewn tlodi gael canlyniadau addysgol gwaeth.
Fel y mae’r Institute for Health Equity yn ei nodi’n glir, mae tlodi’n gwaethygu anghydraddoldebau iechyd (e.e. disgwyliad oes, marwolaethau babanod, gordewdra, mynediad at ofal iechyd, ansawdd tai). Mae cysylltiadau rhwng tlodi ac iechyd meddwl, fel y dangoswyd mewn ymchwil gan Jen Daffin a Dr Sarah Brown a roddodd sylwadau yn eu blog yn 2020:
‘mae’r rheini sydd o’r 20% isaf o incwm yr aelwyd dair gwaith yn fwy tebygol o fod â phroblem iechyd meddwl gyffredin.’
Mae’r cysylltiadau rhwng tlodi ac iechyd meddwl gwael sy’n dal i fodoli i blant yng Nghymru heddiw yn adlewyrchu’r pryderon a godwyd gan Tess Ridge yn 2009:
‘Mae tlodi’n treiddio i bob agwedd ar fywydau plant, o anfanteision economaidd a materol, drwy gyfyngiadau ac allgáu cymdeithasol a pherthynol, i agweddau personol a mwy cudd ar dlodi, sy’n gysylltiedig â chywilydd, tristwch ac ofn gwahaniaethu a stigma.’[ii]
Mae’n falltod ar Gymru fod plant yn dal i wynebu’r problemau hyn o ganlyniad i fyw mewn tlodi.
(Gallwch ddarllen Blog Ymchwil y Senedd ar dlodi ac iechyd meddwl yma a gwrando ar bodlediad ar Dlodi ac Iechyd Meddwl sy’n cael ei gyflwyno gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru)
Polisïau Llywodraeth y DU
Mae pandemig Covid-19 wedi gwthio nifer o aelwydydd i dlodi ac ansicrwydd bwyd ac erbyn hyn mae’r Argyfwng Costau Byw yn gwaethygu hyn.
Mae’n frawychus clywed am blant yn esgus bwyta o flwch cinio gwag, i guddio eu cywilydd o fyw mewn tlodi, a theuluoedd gyda phlant yn poeni sut y byddant yn goroesi’r gaeaf, mewn gwlad gyfoethog fel y DU. Dywed Cherrie Bija o Faith in Families (yn Abertawe) (Medi 2022):
‘Rydyn ni wedi clywed straeon mor dorcalonnus yr wythnos hon o blant yn llwglyd ac yn dwyn bwyd. Ystafelloedd gwely gwag, traed oer wedi’u gwasgu ac yn boenus, mae’r hyn rydym yn eu cadw ar gyfer eu dyfodol yn gostus ac yn gwbl warthus. Mae angen i bawb godi eu llais ar ran ein plant.’[iii]
Fodd bynnag, mae polisïau Llywodraeth y DU yn awgrymu diffyg sylw i hawliau plant. Mae Llywodraeth y DU wedi methu â chydnabod bod y cap ar fudd-daliadau yn mynd yn groes i hawliau plant. Mae’r cap ar fudd-daliadau yn derfyn sefydlog ar gyfanswm y budd-daliadau gwladol y gall aelwyd eu derbyn, beth bynnag fo maint neu amgylchiadau eu teulu, nid yw’n gydnaws â’r hyn sydd er lles gorau plant o dan y CCUHP. Mae sylwadau a wnaed gan farnwyr Goruchaf Lys y DU wedi bod yn feirniadol o Lywodraeth y DU am dorri cyfraith ryngwladol ar hawliau plant. Fodd bynnag, penderfynodd y llys beidio â gwyrdroi’r polisi, gan benderfynu y dylid ‘datrys y mater yn y maes gwleidyddol yn hytrach na’r maes cyfreithiol’. Gallwch ddarllen am benderfyniad Goruchaf Lys y DU ar y cap budd-daliadau yma.
Mae Alison Garnham o’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi datgan yn ei hymateb i Gyllideb Fechan Llywodraeth y DU (Medi 2022), ‘Mae’r cap ar fudd-daliadau yn gadael y teuluoedd tlotaf gyda llai a llai tra bo bancwyr yn wynebu cael mwy a mwy.’ Mae Becca Lyons, Achub y Plant y DU wedi dweud, ‘Mae’r Canghellor wedi blaenoriaethu bonysau bancwyr yn lle helpu plant agored i niwed drwy’r argyfwng costau byw, lle mae eu rhieni sy’n gweithio mor galed yn wynebu dewisiadau amhosibl.’
Mae a wnelo’r Llywodraeth â dewisiadau. O edrych ar bolisi Llywodraeth y DU, ymddengys nad yw buddiannau a hawliau plant yn cael eu blaenoriaethu gan Lywodraeth bresennol y DU.
Mewn ymateb i’r Gyllideb Fechan ddiweddar, dywedodd Comisiynwyr Plant Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban:
‘Cyfrifoldeb y llywodraeth yw diogelu hawliau dynol plant; mae’r newidiadau y mae’n rhaid iddynt eu gwneud yn cynnwys cynyddu’r gyfradd Credyd Cynhwysol i adlewyrchu realiti’r argyfwng costau byw; cael gwared â’r cap budd-daliadau, a dileu’r terfyn dau blentyn ar dderbyn taliadau, sy’n parhau i fod yn groes i hawliau dynol plant, gan gosbi’r rhai sydd fwyaf mewn angen.’
Mynd i’r afael â Thlodi Plant yng Nghymru
Fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn glir yn ei hymateb i Gyllideb Fechan Llywodraeth y DU:
‘Yma yng Nghymru, rydym wedi darparu tua £400 miliwn i helpu pobl i dalu biliau hanfodol, gan gynnwys cymorth wedi’i dargedu ar gyfer y rheini sydd ar incwm is. Ond mae’r rhan fwyaf o’r arfau allweddol ar gyfer cefnogaeth yn nwylo llywodraeth y DU ac yn syml, ni allwn barhau yn y sefyllfa hon. Ni allwn fforddio llywodraeth yn y DU nad yw’n deall nac yn poeni am yr heriau difrifol y mae pobl yn eu hwynebu’.
Mae gallu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi plant yn cael ei gyfyngu gan reolaeth Llywodraeth y DU dros y dreth a’r budd-daliadau lles. Fodd bynnag, er mai Llywodraeth y DU sy’n dal i fod yn gyfrifol am y meysydd polisi allweddol hyn ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant, mae llawer y gellir ei wneud yng Nghymru i fynd i’r afael â thlodi plant, yn ogystal â’i ganlyniadau i blant. Mae’n ofyniad cyfreithiol o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth tlodi plant ac, yn wir, i bob corff cyhoeddus wneud hynny.[iv] Mae’n ddyletswydd ar Weinidogion Cymru hefyd i roi sylw dyledus i’r holl hawliau o dan CCUHP wrth lunio polisïau yng Nghymru – gan gynnwys yr hawliau a grybwyllir ym mharagraff cyntaf y blog hwn. Er bod Gweinidogion Cymru wedi cymryd camau mewn sawl maes polisi i fynd i’r afael â thlodi plant (e.e. prydau ysgol am ddim a strategaethau amrywiol ‘pob oedran’ sy’n effeithio ar blant), mae angen gwneud mwy.
O ystyried effaith negyddol pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw, y cam cyntaf fyddai i Lywodraeth Cymru nodi strategaeth a chynllun gweithredu tlodi plant diwygiedig gyda thargedau clir sy’n seiliedig ar hawliau, i gael gwared ar dlodi plant yng Nghymru, ac i fynd i’r afael â chanlyniadau byw mewn tlodi ar blant. Mae hefyd yn hanfodol bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru naill ai’n datblygu neu’n adnewyddu eu strategaethau gwrth-dlodi i gynnwys ffocws ar fynd i’r afael ag effaith tlodi plant (gweler gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar ddatblygu strategaethau gwrth-dlodi effeithiol).
Camau eraill sydd eu hangen ar frys yw datganoli budd-daliadau lles, fel y gall Cymru weithredu system budd-daliadau sy’n seiliedig ar hawliau (rhywbeth sy’n cael ei hyrwyddo gan lawer o sefydliadau, gan gynnwys Sefydliad Bevan, gweler yr adroddiad). Mae hefyd yn bryd cyflwyno Deddf Hawliau Dynol i Gymru i amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol i bawb, gan gynnwys plant yng Nghymru. [v] [vi]
ÔL-NODIADAU
[i] Harwood E., Twitter 18/7/2022 @elanorharwood
[ii] Ridge T (2009). Living with Poverty: A review of the literature on children and families’ experience of poverty, Research Number 594. London: Department of Work and Pensions.
[iii] Bija – FiF C., Twitter 24/10/2022 @Cherrie_Fif
[iv] Adran 4 (1) Mesur Plant a Theuluoedd 2010 (Mae dyletswydd ar awdurdod lleol i gyhoeddi strategaeth o dan adran 2(1) yn cael ei chyflawni pan gyhoeddir [F2 o gynllun llesiant lleol o dan adran 39 [F3, 44(5) neu 47(6) neu (11)] o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r awdurdod yn aelod ohono, ond dim ond os yw strategaeth yr awdurdod yn rhan annatod o’r cynllun hwnnw]. https://www.legislation.gov.uk/mwa/2010/1/section/4
[v] Hoffman, S.; Nason, S.; Beacock, R.; Hicks, E. (gyda chyfraniad gan Croke, R.)(2021). Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru Caerdydd: Llywodraeth Cymru, rhif adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth 54/2021. Ar gael yn https://gov.wales/strengthening-and-advancing-equality-and-human- rights-wales
[vi] Gweler Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad Cryfhau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
https://gov.wales/sites/default/files/publications/2022-05/response-report.pdf
Awdur: Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreitha Strategol, Gwybodaeth ac Eirioli Polisi ar gyfer Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru.