Mae Oliver Twist yn llyfr gan Charles Dickens, sy’n adrodd hanes plentyndod bachgen.

Ganed Oliver Twist mewn wyrcws yn Lloegr yn y 1830au. Bu farw ei fam ychydig ar ôl genedigaeth Oliver. Ar ôl treulio’r naw mlynedd gyntaf mewn cartref digysur i blant ifanc amddifad, mae Oliver yn cael ei drosglwyddo i wyrcws i oedolion, yna mae’n cael ei werthu i ymgymerwr lleol, Mr Sowerberry. Mae Oliver yn cael ei gam-drin ac yn rhedeg i ffwrdd yn y gobaith o gael bywyd gwell yn Llundain.

Mae Oliver yn cael cynnig lloches yn Llundain gan fachgen o’r enw Jack Dawkins. Fodd bynnag, mae perchennog y tŷ, Fagin, yn droseddwr o fri sy’n hyfforddi bechgyn amddifad i ladrata trwy bigo pocedi. Mewn un achos o ladrata, mae Oliver yn cael ei ddal gan Mr Brownlow, wrth iddo geisio dwyn ei hances boced. Mae Mr Brownlow yn mynd ag Oliver i’w gartref lle mae’n gofalu amdano nes ei fod yn gwella o’r dwymyn. Mae Mr Brownlow yn sylwi ar y tebygrwydd rhwng Oliver â phortread o fenyw ifanc sy’n hongian yn ei dŷ. Ar ôl cyfnod byr a hapus yng nghartref Mr Brownlow, mae Oliver yn cael ei ddal a’i anfon yn ôl at Fagin.

Gyda chymorth Mr Brownlow, mae Oliver yn cael gwared â Fagin a chawn wybodaeth am ei deulu. Mae’n hanner brawd i ŵr ifanc cyfoethog. Yn y diwedd, mae Oliver yn cael ei gyfran o etifeddiaeth y teulu a chaiff ei fabwysiadu gan Mr. Brownlow.

Er gwaethaf y diweddglo hapus, mae Dickens yn ei gwneud yn glir drwy’r nofel nad oedd cyfraith a chymdeithas yn y cyfnod hwnnw’n cefnogi nac yn gofalu am blant. Dywed Mr Bumble:

“The law is a ass — a idiot. If that’s the eye of the law, the law is a bachelor; and the worst I wish the law is, that his eye may be opened by experience”

 

Pa newidiadau sydd wedi digwydd i gefnogi hawliau plant yng Nghymru’r 21ain ganrif?

Mae nifer o faterion cyfreithiol sy’n dod i’r amlwg o brofiadau Oliver. Mae rhai cyfreithiau ar lefel y DU, mae rhai yn cael eu rheoleiddio ymhellach gan Lywodraeth Cymru.

Yn Lloegr, mae adran 20 o Ddeddf Plant 1989, ac yng Nghymru, adran 76 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn datgan, pan na all rhieni ofalu am blant neu pan fydd plant yn dod yn blant amddifad, bod gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb i ofalu amdanynt. Collodd Oliver ei fam pan gafodd ei eni ac nid yw ei dad gydag ef. Felly, heddiw, byddai gan yr ALl gyfrifoldeb i ddarparu llety a gofal addas i Oliver, gan sicrhau hefyd ei fod yn mynd i’r ysgol. Mae gan bob plentyn yr hawl i gael addysg (Erthygl 28 CCUHP).

 

Eich hawliau yng Nghymru

Os ydych chi’n amddifad neu os nad oes gennych rieni sy’n gallu gofalu amdanoch chi,  dylai’ch ALl eich cefnogi trwy:

  • Ddarparu llety
  • Apwyntio rhywun i ofalu amdanoch chi
  • Sicrhau bod gennych fynediad at addysg sy’n addas i’ch anghenion

Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau yng Nghymru yma

 

A oes lleoedd yn y byd lle nad yw plant yn cael eu hawliau yn cael eu diogelu fel Oliver Twist?

Ni ellir gwerthu plant (Erthygl 35 CCUHP). I lawer yn y DU mae’n anodd dirnad y gallai plentyn gael ei werthu, ac mae hyn yn cael ei wahardd yn benodol mewn Protocol Dewisol i’r CCUHP, ond mae’n dal i fod yn broblem ddifrifol mewn rhai gwledydd ledled y byd, fel Mecsico a Malaysia. Yn ôl Selling Children (Larry-Lambert, 05/11/2021), mae plant yn cael eu gwerthu fel mater o drefn ym Mecsico. Mae busnesau’n aml yn prynu plant gan deuluoedd mawr na allant fforddio eu bwydo i gyd ac mae’r gost fesul plentyn yn mynd o US $ 150 i US $ 250 (heb gynnwys treth). Maent yn mynd â nhw i’r gogledd ac yn eu gwerthu. Yn ogystal â hyn, yn ôl adroddiad yn y cyfryngau (Al Jazeera, Malaysia: Babies for Sale) yn 2016, ym Malaysia, bydd rhai babanod yn cael eu prynu gan gyplau sy’n dyheu i gychwyn teulu, tra bod babanod eraill yn cael eu gwerthu i fasnachwyr ac yn agored i gam-fanteisio’n rhywiol. Mae hwn yn achos difrifol o dorri hawliau plant.

Yn ystod cyfnod Charles Dickens, nid oedd y gyfraith yn cefnogi hawliau plant. Yng Nghymru’r 21ain Ganrif mae’r gyfraith yn cefnogi mynediad at hawliau sylfaenol i blant fel amddiffyn, llety ac addysg ac yn mynd gam ymhellach ac yn ymgorffori hawliau plant mewn deddfwriaeth drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

 

Ynglŷn â’r awdur

Fy enw i yw Alisha. Rwy’n fyfyriwr LLM. Rwy’n gobeithio sicrhau bod mwy o gymorth ar gael i blant yn y dyfodol.

 

Deunydd Cyfeirio

  1. ‘Malaysia: Babies for Sale’ (Al Jazeera, 2016)

https://interactive.aljazeera.com/aje/2016/malaysia-babies-for-sale-101-east/index.html

  • Larry-Lambert, 05/11/2021)

https://www.virtualmirage.org/selling-children/

  1. ‘Tackling Child Labour: From commitment to action’ (Rhaglen Ryngwladol ar Ddileu Llafur Plant, 2012)

https://www.ilo.org/ipec/Informationresources/WCMS_181875/lang–en/index.htm