Nid dyma roeddwn i ei eisiau

  • Mae gennych yr un hawliau wrth brynu rhywbeth â phawb arall yng Nghymru sydd wedi prynu rhywbeth neu wedi defnyddio gwasanaeth
  • Dyw’r ‘hawliau defnyddiwr’ hyn ddim yn dod o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ond maen nhw’n dal i fod yn bwysig
  • Gan amlaf, does dim ots ai mewn siop neu ar-lein y gwnaethoch chi brynu rhywbeth – mae gennych hawliau o hyd

Efallai eich bod yn meddwl nad oes gennych ‘hawliau’ o ran yr hyn rydych yn ei brynu yn y siopau. Nid ‘hawliau’ o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yw’r rhain, ond maen nhw’n rhan bwysig o sut y dylech gael eich trin. ‘Hawliau defnyddiwr’ yw eich hawliau wrth brynu pethau. Maen nhw yno i’ch diogelu os ydych yn prynu rhywbeth sydd â nam arno, neu hyd yn oed os penderfynwch nad ydych ei eisiau. Er bod modd i chi fel arfer ddychwelyd yr eitem, mae cyfyngiadau amser ar hynny.

Os ydych yn meddwl bod y peth rydych chi wedi’i brynu neu’r gwasanaeth rydych wedi talu amdano’n wahanol i’r hyn roeddech yn ei ddisgwyl, a hynny am reswm sy’n gysylltiedig â chi – oherwydd eich rhyw neu eich hil neu am fod gennych anabledd – mae’n bosib bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn. Mae hynny’n dod o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig.