Dydw i ddim yn cael gwneud rhywbeth

  • Mae eich hawliau’n eich diogelu rhag pethau sy’n niweidio eich iechyd a’ch datblygiad
  • Mae cyfyngiadau oedran ar rai gweithgareddau i’ch diogelu rhag niwed
  • Er efallai fod cyfyngiadau oedran ar rai pethau, ddylech chi ddim cael eich trin yn annheg fel arall

 Tan eich bod yn 18, mae gennych hawliau i wneud yn siŵr eich bod yn gallu tyfu a datblygu’n iach. Ddylech chi ddim dod i gysylltiad â dim byd a allai niweidio eich datblygiad. Gall hynny gynnwys pethau y gallwch eu gweld, eu clywed a’u gwneud yn ogystal â’r pethau y gallwch eu prynu i’w defnyddio. Er y bydd y rhesymau penodol pam na chewch chi wneud rhywbeth tan rhyw oedran yn dibynnu ar y gweithgaredd neu’r gwasanaeth dan sylw, mae cyfyngiadau oedran yn cael eu gosod i’ch diogelu rhag niwed, ac weithiau i ddiogelu pobl eraill hefyd.

Dyw pob cyfyngiad oedran ddim wedi’i osod am fod cyfraith yn dweud bod yn rhaid gwneud hynny, ond efallai y bydd rhesymau eraill pam na chewch chi wneud rhywbeth tan eich bod yn ddigon hen. Gall busnesau a sefydliadau gyfyngu’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig i blant ar sail oedran, ond yn gyffredinol, dydyn nhw ddim yn cael eich trin yn annheg am unrhyw reswm arall.