- Mae cyfyngiadau oedran ar brynu rhai pethau i’ch cadw’n ddiogel ac i ddiogelu eich iechyd
- Mae pobl sy’n gwerthu pethau i chi sydd â chyfyngiad oedran yn torri’r gyfraith
- Does dim rheswm cyfreithiol arall pam na chewch chi brynu pethau, a ddylech chi ddim cael eich trin yn annheg am unrhyw reswm
Mae eich hawliau’n bwysig er mwyn eich cadw’n ddiogel. Mae gan bobl eraill, plant eraill ac oedolion, hefyd hawliau i’w cadw’n ddiogel. Un ffordd mae’r llywodraeth yng Nghymru (ac yn y DU) yn ei defnyddio i gadw pawb yn ddiogel yw gosod cyfyngiadau ar werthu pethau sy’n gallu bod yn beryglus. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i chi fod wedi cyrraedd rhyw oed er mwyn gallu prynu rhai pethau, gan gynnwys pethau sy’n gallu bod yn beryglus i chi ac i’ch iechyd a’ch lles, a phethau y gallech eu defnyddio i niweidio pobl eraill.
Er bod cyfyngiadau oedran ar brynu rhai pethau, ddylech chi ddim cael eich trin yn annheg am unrhyw reswm wrth geisio prynu rhywbeth sydd heb gyfyngiad oedran.
Mae cyfyngiadau oedran ar rai pethau i ddiogelu eich iechyd a’ch lles, ac i gadw cymunedau’n ddiogel. Mae rhai nwyddau, fel sigaréts ac alcohol, yn cael eu cydnabod fel rhai sy’n niweidiol i iechyd pawb. Mae rhai, fel cyllyll a thân gwyllt, yn gallu amharu ar fywydau pobl eraill ac achosi niwed. Mae cyfreithiau sy’n golygu nad yw siopau’n cael gwerthu’r nwyddau hyn i bobl tan eu bod wedi cyrraedd oedran penodol. Weithiau, bydd cyfyngiadau eraill hefyd, yn ogystal â chyfyngiadau oedran.
Oes. Y bobl sy’n gwerthu’r nwyddau hyn sy’n gyfrifol fel arfer am ofyn beth yw oedran rhywun sydd eisiau prynu un o’r nwyddau hyn sydd â chyfyngiad oedran. Fe fyddan nhw’n torri’r gyfraith drwy eu gwerthu i chi.
Does dim rheswm cyfreithiol arall pam y dylech gael eich atal rhag prynu rhywbeth. Efallai y bydd gennych werthoedd traddodiadol neu werthoedd sy’n gysylltiedig â’ch diwylliant neu eich crefydd sy’n golygu na ddylech brynu rhai pethau, ond os nad oes cyfyngiad oedran arnynt, fydd y gyfraith yng Nghymru ddim yn eich atal rhag eu prynu.
Sigaréts Mae’n rhaid i chi fod yn 18 i brynu sigaréts yng Nghymru.
Anifeiliaid anwes Mae’n rhaid i chi fod yn 16 i brynu anifail anwes heb oedolyn.
Tocynnau loteri Chewch chi ddim prynu tocyn loteri tan eich bod yn 16
Tân gwyllt Mae’n rhaid i chi fod yn 18 i brynu’r rhan fwyaf o dân gwyllt
I gael gwybod am nwyddau a gwasanaethau eraill y mae’r gyfraith yn gosod cyfyngiadau oedran arnynt, ewch i’r adran ‘Pryd gaf i…?
Y bobl a’r sefydliadau sy’n gwerthu’r nwyddau hyn sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr eich bod yn ddigon hen i’w prynu. Os byddant yn gwerthu rhywbeth i chi nad ydych yn ddigon hen i’w brynu, fe fyddant yn torri’r gyfraith. Yr Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol fel arfer am wneud yn siŵr bod cyfyngiadau oedran cyfreithiol yn cael eu parchu. Mae’r cyfyngiad oedran fel arfer wedi’i nodi ar y nwyddau hyn, neu bydd arwyddion a gwybodaeth am gyfyngiadau oedran yn cael eu dangos ger y nwyddau yn lle bynnag y maent yn cael eu gwerthu.
Weithiau, bydd rhywun hŷn sy’n prynu rhywbeth ac yna’n ei roi i chi yn cyflawni trosedd.
Mae gennych hawl i gael gwybodaeth am yr hyn na chewch chi ei brynu, a pham na chewch chi ei brynu. Os oes perygl ynghlwm wrth unrhyw weithgaredd, mae’n rhaid i’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n darparu’r gwasanaeth ddweud yn glir iawn beth yw’r rheolau a’r peryglon. Os bydd sefydliad yn gadael i chi wneud rhywbeth pan nad yw’n glir na fyddai hynny’n briodol i rywun eich oedran chi, gallai fod yn torri’r gyfraith, a gallai gael ei erlyn. Hyd yn oed os nad yw’n cael ei erlyn am dorri’r gyfraith, gallai fod wedi bod yn esgeulus os byddwch chi’n brifo.
Gallwch gadw dogfen fel pasbort gyda chi i brofi eich oedran. Os nad ydych am gadw eich pasbort gyda chi, neu os nad oes gennych basbort, mae modd cael cerdyn profi oedran drwy gynllun PASS sy’n cadarnhau eich bod dros 18.
Er mai’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n darparu’r gwasanaeth sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr eich bod yn ddigon hen, os ydych chi’n esgus bod yn hŷn er mwyn prynu rhywbeth, efallai y byddwch yn torri’r gyfraith. Twyll yw defnyddio dogfen adnabod ffug i esgus eich bod yn hŷn er mwyn prynu rhywbeth. Gallai hynny olygu y byddwch mewn trafferth gyda’r heddlu.
Yn dibynnu beth sydd dan sylw, efallai y bydd rhywun yn mynd ag ef oddi arnoch. Os oes gennych alcohol mewn man cyhoeddus, gall rhywun fynd â hwnnw oddi arnoch. Os cewch eich chwilio am fod yr heddlu’n meddwl bod gennych rywbeth na ddylai fod gennych, fel arf, gall hwnnw hefyd gael ei gymryd oddi arnoch. Mewn rhai achosion, gallech fod mewn trafferth gyda’r heddlu.