- Ddylech chi ddim cael eich trin yn annheg wrth siopa neu ddefnyddio gwasanaethau
- Mae busnesau a sefydliadau’n cael eich trin yn wahanol os ydych chi o dan 18, ond heblaw am hynny mae’n rhaid iddyn nhw eich trin yr un fath â phawb arall
- Os ydych yn cael eich trin yn annheg, fe allwch gwyno
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud na ddylai neb wahaniaethu yn eich erbyn, fel plentyn, am unrhyw reswm. Mae hynny’n golygu na ddylech gael eich trin yn wahanol nac yn annheg. Yng Nghymru, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud bod hyn yn berthnasol i wasanaethau y gallech fod eisiau neu angen eu defnyddio, er y gallwch gael eich trin yn wahanol oherwydd eich oedran os ydych chi o dan 18. Mae hynny’n golygu efallai na fyddwch yn cael prynu rhywbeth neu wneud rhywbeth oherwydd eich oedran – ond ddylech chi ddim cael eich trin yn wahanol am unrhyw reswm arall.
Mae siopau a sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau’n cael dweud na chewch chi ddim gwneud rhywbeth oherwydd eich oed. Mae rhai siopau’n cyfyngu nifer y plant sy’n cael mynd i mewn ar yr un pryd. Mae rhai lleoedd yn dweud nad yw plant yn cael mynd yno o gwbl. Mae’r gyfraith yn dweud bod hynny’n iawn.
Mae’n rhaid i siopau sy’n gwerthu pethau sydd â chyfyngiad oedran fel sigaréts ac alcohol beidio â’u gwerthu i rywun sydd ddim yn ddigon hen. Mae hyn yn golygu eich bod yn cael eich trin yn wahanol i bobl sy’n hŷn na’r isafswm oedran, ond maen nhw’n cael gwneud hyn.
Gan amlaf, fydd dim ots ai bachgen neu ferch ydych chi na beth yw eich hil neu grefydd – fe ddylech gael prynu pethau a chael gwasanaethau yn union fel pawb arall.
Weithiau, mae sefydliadau’n cael bod yn gyfyngedig i un grŵp penodol o bobl. Maen nhw’n cael gwneud hyn os mai’r nod yw helpu grŵp o bobl sydd â’r un ‘nodweddion’ (bod yn fachgen neu’n ferch, neu o grefydd neu hil penodol), ac sydd o dan anfantais oherwydd hynny. Bydd y grwpiau neu’r sefydliadau hyn wedi’u sefydlu er mwyn annog y grŵp yma o bobl a’u helpu i leihau’r anfantais. Dyna pam mai dim ond merched sy’n cael ymuno â mudiad y Geidiau yng Nghymru, er bod merched a bechgyn yn cael ymuno â’r Sgowtiaid.
Ddylech chi ddim cael eich atal rhag gwneud rhywbeth am nad ydych yn siarad Cymraeg. Mae rhai sefydliadau yng Nghymru’n cynnal eu gweithgareddau’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn hybu defnydd o’r Gymraeg. Mae hynny’n golygu efallai y bydd yn fwy anodd i chi ddeall beth sy’n digwydd, ond ddylech chi ddim cael eich atal rhag cymryd rhan.
Ddylai sefydliad sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd neu i un grŵp o’r cyhoedd ddim gwahaniaethu yn eich erbyn (eich trin yn wahanol ac yn annheg) oherwydd anabledd. Mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau feddwl yn gyffredinol hefyd am sicrhau bod eu busnes neu wasanaeth ar gael i bawb – ac nid dim ond aros nes bod rhywun ag anabledd eisiau defnyddio’u gwasanaeth.
Mae’n rhaid i bob busnes neu sefydliad sy’n darparu gwasanaeth rydych chi eisiau ei ddefnyddio wneud popeth o fewn rheswm i wneud yn siŵr eich bod yn gallu defnyddio’u gwasanaeth. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt feddwl ymlaen llaw am y mathau o anableddau sydd gan bobl, a sut y gallant wneud pethau’n haws iddynt. Gallai hyn gynnwys pethau fel gwneud yn siŵr ei bod yn hawdd i bobl mewn cadeiriau olwyn ddefnyddio mynedfeydd, neu osod arwyddion braille. Mae’r hyn sy’n ‘rhesymol’ yn dibynnu ar yr hyn y mae hynny’n ei olygu, beth yw’r gost a pha mor fawr yw’r sefydliad. Gallai fod yn rhesymol i sefydliad llai sydd â llai o arian wneud llai na sefydliad mwy sydd â mwy o arian.
Mae rhai cyfyngiadau oedran cyfreithiol sy’n golygu na chewch chi brynu rhai pethau neu wneud rhai pethau tan eich bod wedi cyrraedd rhyw oed. Mae’r cyfyngiadau hyn yn cael eu gosod er mwyn eich diogelu. Fe allai pethau eraill nad oes cyfyngiadau cyfreithiol arnynt fod yn niweidiol i chi, yn enwedig os ydych yn ifanc, neu os oes gennych gyflwr penodol.
Mae’n iawn gosod cyfyngiadau ar bethau ar sail oedran – felly pe byddai sefydliad yn dweud nad yw am gynnig ei wasanaethau i chi os ydych chi o dan rhyw oedran, byddai hynny’n dderbyniol.
Os yw sefydliad yn dweud na chewch chi wneud rhywbeth oherwydd bod gennych anabledd, ac y byddai’n beryglus i chi, gallai hynny gyfrif fel gwahaniaethu. Fe ddylech chi (neu pwy bynnag sy’n gofalu amdanoch) gael gwybod beth yw’r peryglon a phenderfynu a ydych am fwrw ymlaen ai peidio. Felly, er enghraifft, os yw sioe’n defnyddio’r math o oleuadau a allai fod yn broblem os oes epilepsi arnoch, fe ddylai’r theatr ddweud yn glir y bydd yn defnyddio’r math yma o oleuadau. Fe ddylai’r busnes neu’r sefydliad fod wedi edrych ar yr hyn y mae’n ei wneud a gwneud addasiadau i’w gwneud yn haws i bobl ag anableddau.
Does dim rhaid i sefydliad roi’r gorau i gynnig gwasanaeth neu weithgaredd penodol am na allwch chi gymryd rhan ynddo. Mae’n rhaid iddo weld a yw’n gallu gwneud addasiadau er mwyn i chi allu cymryd rhan. Fydd hyn ddim bob amser yn bosib, neu efallai y bydd yn rhy ddrud i’r sefydliad wneud y newidiadau angenrheidiol, ond mae’n rhaid iddo weld a fyddai’n gallu gwneud newidiadau a gwneud unrhyw newidiadau sy’n ‘rhesymol’.
Na fydd! Y busnes sy’n gyfrifol am dalu am y newidiadau y mae’n rhaid iddo’u gwneud.
Gallwch gwyno wrth y sefydliad sydd wedi eich trin yn annheg. Fy ddylai ymchwilio i’ch cwyn. Os yw’n cytuno eich bod wedi cael eich trin yn annheg, efallai y bydd yn ymddiheuro, ac efallai y bydd yn gwneud newidiadau at y dyfodol fel na fyddwch chi na neb arall yn cael eich trin yn annheg eto.
Os nad ydych eisiau cwyno wrth y sefydliad, neu os ydych chi wedi cwyno ac yn anhapus â’r ateb a gawsoch, efallai y byddwch eisiau dwyn achos llys am wahaniaethu. Gall hyn deimlo fel cam mawr i’w gymryd, ond mae cymorth ar gael gan sefydliadau fel y Gwasanaeth Cymorth a Chynghor ar Gydraddoldeb.