- Mae gennych hawliau os cewch eich trin yn wahanol ac yn annheg wrth geisio prynu rhywbeth
- Mae gennych hawliau os prynwch chi rywbeth sy’n wahanol i’r hyn roeddech chi’n ei ddisgwyl
- Fe ddylech deimlo’ch bod yn gallu cwyno os yw rhywbeth yn wahanol i’r hyn roeddech chi’n ei ddisgwyl
Pan fyddwch yn prynu rhywbeth rydych yn ‘ddefnyddiwr’ beth bynnag yw eich oed. Gallwch ddisgwyl y bydd y pethau rydych yn eu prynu’n gwneud yr hyn maen nhw i fod i’w wneud, ac na fyddant wedi’u difrodi nac wedi torri. Os ydych chi wedi prynu rhywbeth sy’n wahanol i’r disgwyl, fel arfer byddwch yn cael ei ddychwelyd a chael eich arian yn ôl – mae eich hawliau defnyddiwr yn dweud sut y bydd hyn yn digwydd.
Os cewch eich trin yn wahanol neu’n annheg wrth geisio prynu rhywbeth, gallai hynny gyfrif fel gwahaniaethu, a gallai fod yn erbyn y gyfraith.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn eich gwarchod tan eich bod yn 18. Mae’n gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich trin yn iawn, a’ch bod yn cael eich diogelu rhag niwed. Mae eich hawliau o dan y Confensiwn yn ymwneud yn bennaf â’r ffordd y cewch eich trin gan gyrff cyhoeddus fel y llywodraeth, yr heddlu ac awdurdodau lleol. Yng Nghymru, dyma o ble y daw eich hawl i beidio â chael eich trin yn wahanol ac yn annheg gan rywun sy’n gwerthu pethau rydych chi eisiau eu prynu. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud rheolau sy’n golygu na ddylech gael eich trin yn wahanol ac yn annheg oherwydd eich rhyw neu hil neu grefydd. Mae’r rhain yn berthnasol pan fyddwch yn prynu pethau, neu’n defnyddio gwasanaethau, felly ddylech chi ddim cael eich trin yn wahanol.
Mae gennych hawl i gael eich diogelu rhag niwed hefyd – felly mae cyfreithiau sy’n golygu na chewch chi brynu rhywbeth oherwydd y byddai’n beryglus i chi.
Mae hawliau defnyddwyr yn hawliau sydd gan bawb sy’n prynu rhywbeth yng Nghymru. Mae’r hawliau hyn yn sicrhau y gallwch gael eich arian yn ôl os prynwch chi rywbeth sy’n torri neu sydd ddim yn gwneud yr hyn y mae i fod i’w wneud. Dyw’r hawliau hyn ddim yn dod o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ond maent yn bwysig oherwydd eu bod yn golygu na ddylai neb gymryd mantais arnoch am eich bod yn iau.
Yn y rhan hon o’r wefan rydym yn trafod