Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreitha Strategol ac Eiriolaeth Polisi Hawliau Plant, Canolfan Gyfreithiol y Plant

Gwnaed penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar brydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau heb roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mewn geiriau eraill, ni wnaeth Llywodraeth Cymru ystyried yr effaith ar hawliau plant yn briodol pan benderfynodd ddod â darpariaeth prydau ysgol am ddim i ben yn ystod y gwyliau ysgol. Ni roddodd Llywodraeth Cymru ystyriaeth briodol chwaith i sut y byddai’r penderfyniad yn effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig, fel pobl anabl neu leiafrifoedd ethnig.

Yn dilyn her gyfreithiol gan y Prosiect Cyfraith Gyhoeddus, datganodd yr Uchel Lys fod penderfyniad munud olaf Llywodraeth Cymru i atal prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau ysgol fis Mehefin diwethaf yn anghyfreithlon. Dadleuodd y Prosiect Cyfraith Gyhoeddus yn llwyddiannus fod Gweinidogion Cymru wedi torri Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a Deddf Cydraddoldeb 2010. (Gallwch ddarllen mwy am yr achos yma)

Mae hwn yn achos nodedig – gan mai dyma’r tro cyntaf i’r llys ddatgan bod Gweinidogion Cymru wedi gweithredu’n groes i’w dyletswydd o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), ers ei gyflwyno yn 2011. Cefais y fraint o allu cefnogi’r Prosiect Cyfraith Gyhoeddus ar yr achos hwn – maent yn aelodau gweithgar o’n Grŵp Ymgyfreitha Strategol Hawliau Plant Cymru Gyfan. Mae cymaint i’w ddweud am ffeithiau’r achos hwn, ond yn y blog hwn, canolbwyntiaf ar fethiant Llywodraeth Cymru i roi sylw dyledus i’r CCUHP ac i gynnal Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant (AEHP) ar benderfyniad cyllidebol pwysig sydd wedi cael effaith negyddol ar rai o blant tlotaf Cymru.

Gwneud penderfyniadau heb ddadansoddiad cadarn o’r effaith ar hawliau plant

Methodd Llywodraeth Cymru â dilyn trefniadau a nodwyd yn ei Chynllun Plant ei hun sy’n gofyn am AEHP ar benderfyniadau sy’n effeithio ar hawliau plant. Pe bai hyn wedi cael ei wneud yn iawn, byddai wedi helpu Gweinidogion Cymru i roi sylw dyledus i hawliau plant wrth wneud eu penderfyniad.

Mae’n amlwg (o gyfraith cydraddoldeb) y dylid cynnal AEHP mewn ffordd sy’n sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau’r llywodraeth ‘yn ystyried gyda sylwedd a manylder a meddwl agored’ sut y bydd eu penderfyniad yn effeithio ar yr ystod lawn o hawliau plant. Mae’r broses hefyd i fod i gael ei llywio gan dystiolaeth a gasglwyd o ymgynghoriad ystyrlon â phlant y gallai penderfyniad effeithio arnynt.

Dywed Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn [‘y Pwyllgor’] y dylai ‘AEHPau fod yn rhan o bob cam o’r broses gyllidebol ac y dylent ategu ymdrechion monitro a gwerthuso eraill.’ Mae’r Pwyllgor hefyd yn ei gwneud yn ‘glir, ar adegau o argyfwng economaidd, na ellir ond ystyried mesurau anflaengar ar ôl asesu’r holl opsiynau eraill ac mai plant ddylai fod yr olaf i gael eu heffeithio, yn enwedig plant mewn sefyllfaoedd bregus’. Yn fwyaf diweddar, yn Arsylwadau Terfynol y Pwyllgor i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn 2023, argymhellwyd y dylai AEHP fod yn orfodol.

Yn anffodus mae ymchwil yng Nghymru wedi dangos diffyg cysondeb o ran cymhwyso AEHPau gan Lywodraeth Cymru, a phan mae AEHP yn cael ei gymhwyso mae’n aml yn rhy hwyr yn y broses benderfynu i wneud unrhyw wahaniaeth i benderfyniadau polisi neu gyllidebol. Gwnaeth Pwyllgor Addysg Plant a Phobl Ifanc y Senedd, mewn ymchwiliad cenedlaethol ar hawliau plant, ailbwysleisio’r pryderon hyn ac, yn fwyaf diweddar, cafodd methiant i ymgymryd ag AEHPau neu benderfyniad i’w cynnal yn rhy hwyr yn y broses o wneud penderfyniadau ei adrodd gan y Comisiynydd Plant blaenorol, yr Athro Sally Holland, mewn tystiolaeth i Ymchwiliad Covid y DU, gan fyfyrio ar sut arweiniodd hyn at rai penderfyniadau, yn ystod y pandemig, a gafodd effaith negyddol ar blant a’u hawliau.

Mae’r achos Prydau Ysgol am Ddim yn ystod y Gwyliau yn cyflwyno tystiolaeth bellach o batrwm lle mae Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau heb ddadansoddiad cadarn ac ystyriol o effaith penderfyniad ar hawliau plant. Mae’r canfyddiadau hyn yn siomedig gan fod ymchwil wedi cadarnhau, lle mae AEHP yn cael ei gymhwyso’n iawn, ei fod yn arwain at sylw manylach i’r CCUHP mewn polisi a chanlyniadau gwell sy’n adlewyrchu hawliau plant. Mae hefyd yn destun pryder gan ei fod yn awgrymu y gwnaed y penderfyniad heb unrhyw atebolrwydd i’r plant dan sylw nac ystyriaeth o sut i liniaru’r effaith negyddol ar eu bywydau.

 

Diffyg tryloywder mewn gwariant ar blant

O ran y penderfyniad i roi terfyn ar Brydau Ysgol am Ddim yn ystod y gwyliau, methodd Llywodraeth Cymru â chynnal Asesiad Effaith Integredig a oedd yn cwmpasu AEHP. Yn yr achos hwn dim ond ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud y cynhaliwyd Asesiad Effaith Integredig (a oedd yn cynnwys AEHP), a dim ond pan oedd y Prosiect Cyfraith Gyhoeddus eisoes wedi cychwyn eu her gyfreithiol. Yn sgil hyn, daeth asesiad effaith integredig Llywodraeth Cymru i’r casgliad fod effaith negyddol ar blant a’u hawliau, ond yna aeth Gweinidogion yn eu blaenau i benderfynu bod diffyg adnoddau’n golygu na fyddai’r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn cael ei hadfer.

Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau, pe bai prydau ysgol am ddim yn parhau yn ystod y gwyliau, y byddai hyn yn arwain at doriadau sylweddol mewn cyllidebau addysg eraill. O ganlyniad i fethiant Llywodraeth Cymru i gynnal AEHP ar ei chyllideb gyffredinol, nid oes ystyriaeth dryloyw a dystiolaethir o’r penderfyniad hwn i’w gweld ym mhenderfyniadau cyllidebol cyffredinol Llywodraeth Cymru.

Mae’r penderfyniad i dynnu darpariaeth prydau ysgol am ddim yn ôl yn peri pryder, oherwydd adroddodd pediatregwyr, pan wnaed y penderfyniad, y byddai’n cael effaith ar iechyd hirdymor plant:

‘Bob dydd, rydyn ni’n gweld effaith newyn a diffyg maeth yn ein gwaith fel pediatregwyr. Nid yw’n anarferol i ni ofalu am blant nad oes ganddynt ddigon i’w fwyta neu nad oes ganddynt fynediad at bryd sylweddol y tu allan i’r hyn a ddarperir yn yr ysgol. Mae maeth da wrth wraidd iechyd, lles a datblygiad plant a phobl ifanc. Hebddo, mae canlyniadau iechyd plant yn gwaethygu, a chyda hynny eu cyfleoedd mewn bywyd.’ (Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru 2023).

Ar ben hynny, fel y nododd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn ddiweddar, mae yna ddiffyg tryloywder ynghylch gwariant ar blant, sy’n ‘codi heriau sylweddol o ran nodi’r hyn sy’n cael ei wario a monitro canlyniadau i blant.’ Mewn cenedl sy’n ceisio parchu a chyflawni hawliau plant, dylid cyfleu tystiolaeth yn gyhoeddus i gadarnhau – neu beidio – a yw plant yn cael cyfran deg a chymesur o’r deisen gyllidebol. Dylai fod ystyriaeth gytbwys a thryloyw o’r hyn sy’n cael – neu ddim yn cael – ei wario ar blant ochr yn ochr â phenderfyniadau gwariant eraill.

Yn anffodus, yr hyn sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yw bod gwasanaethau oedolion yn aml yn cael blaenoriaeth ac felly hefyd ddyraniad gwariant mwy sylweddol. Mae’r pwynt hwn wedi’i wneud yn ddiweddar iawn mewn perthynas ag iechyd plant, gyda Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru yn rhannu tystiolaeth bod plant yn aros yn anghymesur o hirach nag oedolion am wasanaethau iechyd ac yn dadlau bod gwariant wedi’i ogwyddo yn erbyn yr ifanc. Yn yr un modd, nodwyd y broblem hon gan Mind Cymru mewn adroddiad cynharach bod plant yn aros yn hirach am wasanaethau iechyd meddwl. Fel y meddai Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd:

‘Ein barn ni yw, pan fo pwrs y wlad yn dynn, yn fwy nag erioed, mae’n rhaid i ni fod yn drylwyr wrth sicrhau nad yw hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu cysgodi gan y sefyllfa yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol oedolion. Nid ydym yn derbyn rhesymeg Llywodraeth Cymru nad oes angen cynnal AEHP ar wahân (ar Gyllideb Llywodraeth Cymru).’

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, fel llawer o sefydliadau yn y sector plant yng Nghymru, wedi bod yn galw am AEHP ar gyllideb Llywodraeth Cymru fel y gallwn ddeall a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif i ddangos ei bod yn gwario ‘hyd eithaf yr adnoddau sydd ar gael’ ar gyflawni hawliau plant yng Nghymru (Erthygl 4 CCUHP). Fodd bynnag, mae’r alwad am AEHP ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei gwrthod dro ar ôl tro.

 

Meddyliau terfynol

Mae Llywodraeth Cymru yn cyfleu’n rheolaidd ei bod yn hyrwyddo hawliau plant ac yn cofleidio Dull o Weithredu Hawliau Plant. Fodd bynnag, mae camau cyfreithiol y Prosiect Cyfraith Gyhoeddus ar y penderfyniad prydau ysgol am ddim yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn methu ag ystyried effaith penderfyniadau cyllidebol ar hawliau plant.

Gobeithiwn y bydd yr her gyfreithiol yn cymell Llywodraeth Cymru i ystyried hawliau plant yn llawn ac yn gynhwysfawr yn ei holl benderfyniadau. Mae’r penderfyniad bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’n anghyfreithlon yn arwyddocaol a bydd yn sicr yn creu llwybr ar gyfer heriau cyfreithiol pellach os bydd Llywodraeth Cymru yn methu â gwneud hynny.