Yn ddiweddar, mewn fferyllfa leol, gwelais rywun a oedd yn ymweld â’r ardal yn casglu dos brys o wrthfiotigau. Pan roddodd y fferyllydd y feddyginiaeth iddo, arhosodd yr ymwelydd am ychydig cyn gofyn sut i dalu. Gwenodd y fferyllydd yn garedig a rhoi gwybod iddo na chodir tâl am bresgripsiynau yng Nghymru. Dyma un o’r nifer o ffyrdd y mae cyfreithiau a pholisïau’n wahanol yng Nghymru!
Fodd bynnag, nid dim ond y rheini sy’n ymweld â Chymru sy’n anymwybodol o’r gwahaniaethau, ond dinasyddion Cymru eu hunain yn aml, yn enwedig plant a phobl ifanc. Dyma pam mae swydd yr Arweinydd Addysg ac Ymgysylltu wedi cael ei chreu yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant, Cymru. Mae’r swydd wedi cael ei hariannu gan Sefydliad Paul Hamlyn i ddatblygu dull gweithredu Cymru gyfan i ddarparu addysg gyfreithiol i bobl ifanc (11-17 oed) ar eu hawliau dynol a’r gyfraith fel y mae’n effeithio arnyn nhw yng Nghymru.
Ers 1999, mae Cymru wedi bod â’i Llywodraeth ei hun, Senedd Cymru. Llywodraeth ddatganoledig yw’r Senedd, sy’n gallu gwneud penderfyniadau mewn rhai meysydd fel iechyd, addysg a thrafnidiaeth. Ers iddi gael ei chreu, mae’r Senedd wedi gwneud newidiadau i’r gyfraith, ac mae llawer ohonynt wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â pham mae’r gyfraith yn wahanol yng Nghymru, a pham mae’n bwysig gwybod hyn, yn un o’n blogiau blaenorol!
Cynhaliwyd ymchwil gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn 2018, a ganfu fod y ddarpariaeth addysg gyfreithiol gyhoeddus yng Nghymru yn dameidiog, yn anghyson, ac nad yw’n canolbwyntio digon ar y cyd-destun Cymreig. Cynhaliodd yr Arweinydd Addysg ac Ymgysylltu sesiynau cwmpasu gyda phobl ifanc eleni, a gadarnhaodd fod hyn yn dal yn wir ac nad oedd llawer o bobl yn gwybod bod cyfreithiau’n wahanol yng Nghymru. Os nad yw plant yn gwybod beth yw eu hawliau cyfreithiol, sut gallan nhw eu harfer yn gywir?
Nod y rhaglen yw gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc i ganfod pa feysydd sy’n effeithio arnynt fwyaf ac i roi gwybodaeth berthnasol a chyfredol iddyn nhw am yr hyn y mae’r cyfreithiau’n ei ddweud. Meysydd fel cyfyngiadau oedran ar weithgareddau amrywiol, hawliau gweithio, hawliau os ydych chi mewn trwbl gyda’r gyfraith ac ati.
Efallai fod rhai plant wedi clywed drwy’r cyfryngau cymdeithasol am y ‘gwaharddiad smacio’ ond efallai nad ydyn nhw’n gwybod mai yng Nghymru y mae’r gyfraith hon wedi cael ei phasio, ac nad yw’n berthnasol yn Lloegr. (Roedd y gyfraith hon eisoes wedi cael ei phasio yn yr Alban ac yn Jersey.)
Mae pobl ifanc yn siŵr o fod wedi clywed sgyrsiau am newid terfynau cyflymder i 20mya ond efallai nad ydynt yn gwybod y rhesymau dros hyn na bod y newid wedi’i gyfyngu i Gymru. Meysydd fel hyn, yn ogystal â phlastig untro, prydau ysgol am ddim a gostwng yr oedran pleidleisio, yw’r math o feysydd y byddwn yn canolbwyntio arnynt dros y blynyddoedd nesaf.
Ein nod yw gwneud gwaith allgymorth a datblygu pecynnau adnoddau addysgol, i roi gwybodaeth i blant a phobl ifanc am y gwahanol gyfreithiau yng Nghymru sy’n effeithio arnynt. Bydd y pecynnau adnoddau yn cynnwys cynlluniau gwersi, gweithgareddau dosbarth, fideos a ffeithluniau. Drwy addysgu pobl ifanc am eu hawliau cyfreithiol, credwn y bydd hynny’n cael effaith gadarnhaol o ran pobl ifanc yn mwynhau ac yn defnyddio eu hawliau dynol yn eu bywydau bob dydd.
Cadwch lygad ar ein gwefan i gael gwybodaeth am y Rhaglen Addysg ac Ymgysylltu yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant, Cymru.
