Stopio, Arestio, Cyfweld, Cyhuddo

Yn ôl adroddiad gan y BBC, cafodd 9,000 o blant a phobl ifanc eu stopio a’u chwilio gan yr heddlu yng Nghymru ym mis Tachwedd 2019. Plentyn 7 oed oedd yr ieuengaf. Mae dadleuon o blaid ac yn erbyn rhoi’r pŵer i’r heddlu eich stopio yn y stryd, naill ai i ofyn beth rydych yn ei wneud a’ch gadael yn rhydd, neu i’ch stopio a’ch chwilio am gyffuriau neu arfau. Mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth mae’r gyfraith yn ei ddweud am stopio a chwilio a beth all ddigwydd i chi, gan gynnwys os byddwch yn cael eich tywys i orsaf heddlu neu’n cael eich arestio.

Rydym wedi creu taflen ffeithiau am bwerau’r heddlu o ran ‘stopio a chwilio’ a ‘stopio a darparu manylion’. Mae’r daflen ffeithiau hefyd yn edrych ar beth fydd yn digwydd os byddwch yn cael eich arestio a sut dylech gael eich trin mewn gorsaf heddlu. Mae’r daflen ffeithiau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

image of policemen