Datganiad Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant:

Ymateb Llywodraeth Cymru i Ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd – Gwasanaethau i Blant sydd wedi bod mewn Gofal: archwilio diwygio radical.

Gorchmynion Amddifadu o Ryddid

Argymhelliad 20 Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd: Mae’r Pwyllgor yn argymell: Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar unwaith i ddadansoddi’r defnydd o Orchmynion Amddifadu o Ryddid ledled Cymru am y 24 mis diwethaf, yn ôl awdurdod lleol sydd â chyfrifoldeb dros y plentyn, oedran y plentyn a hyd y gorchymyn, a dylid ei gyhoeddi erbyn mis Rhagfyr 2023 fan bellaf. Dylai Llywodraeth Cymru a’r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi ar y cyd, erbyn mis Rhagfyr 2023 fan bellaf, gynllun gweithredu sy’n nodi sut y byddant yn lleihau’r defnydd o Orchmynion Amddifadu o Ryddid yng Nghymru. Rhaid i’r cynllun gweithredu gynnwys amserlenni a dyraniadau cyllid clir.

Ymateb: Derbyn yn rhannol: Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad o’r defnydd o Orchmynion Amddifadu o Ryddid ledled Cymru am y 24 mis diwethaf, wedi’u dadansoddi yn ôl yr awdurdod lleol sydd â chyfrifoldeb dros y plentyn, oedran y plentyn a hyd y gorchymyn.  Bydd canlyniadau’r dadansoddiad hwn yn bwydo i Raglen Trawsnewid Gwasanaethau Plant Llywodraeth Cymru.

Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal dadansoddiad o’r defnydd o Orchmynion Amddifadu o Ryddid ledled Cymru.

 

Er ein bod yn nodi y bydd canlyniadau’r dadansoddiad hwn yn bwydo i mewn i Raglen Drawsnewid Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Plant, credwn nad oes digon o frys i’r ymateb hwn, ac na fydd yn mynd i’r afael ag anghenion uniongyrchol plant agored iawn i niwed ag anghenion cymhleth sy’n wynebu Gorchmynion Amddifadu o Ryddid yng Nghymru. Fel y nodwyd yn Astudiaeth Fyd-eang y Cenhedloedd Unedig ar Amddifadu o Ryddid:

Mae plant sy’n cael eu hamddifadu o’u rhyddid yn parhau’n grŵp anweledig sy’n cael ei anghofio mewn cymdeithas, er gwaethaf tystiolaeth gynyddol o ymyriadau eraill ar hawliau dynol y plant hyn.

Ac fel y nododd yr Anrhydeddus Meistr Ustus Francis, Barnwr Cyswllt Is-adran Teuluoedd Cymru, wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd fel rhan o’r Ymchwiliad i Blant mewn Gofal:

Ac rwy’n credu, o’m rhan i, yn gwneud y gwaith rydw i wedi bod yn ei wneud yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mai dyma’r pwynt argyfwng unigol mwyaf. Mae’n wirioneddol ddifrifol. Dydych chi ddim yn rhoi rhywun dan orchymyn amddifadu o ryddid oni bai eich bod wirioneddol ym mhen eithaf helynt, ac rwy’n credu ei bod yn broblem ddychrynllyd.

Byddem yn disgwyl i Lywodraeth Cymru a Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ymateb â mwy o frys i argyfwng sy’n ymwneud ag ymyrryd â hawliau plant.

 

Rydym yn argymell y dylid datblygu cynllun gweithredu brys er mwyn sicrhau nad yw unrhyw blentyn yn cael ei amddifadu o’i ryddid y tu allan i’r fframwaith statudol a bod Gweinidogion yn rhoi sylw dyledus i hawliau’r plentyn dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2011 a bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu rhwymedigaethau yn briodol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Ôl-nodiadau:

Tystiolaeth a Gyflwynir gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru a’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant i Ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd – Gwasanaethau i Blant sydd wedi bod mewn Gofal: archwilio diwygio radical. Mynediad yma.

Adroddiad Ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd – Gwasanaethau i Blant sydd wedi bod mewn Gofal: archwilio diwygio radical. Mynediad yma.

Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd – Gwasanaethau i Blant sydd wedi bod mewn Gofal: archwilio diwygio radical. Mynediad yma.

I weld tystiolaeth fanwl o effaith negyddol Gorchmynion Amddifadu o Ryddid ar Blant ac adolygiad o ddyfarniadau a gyhoeddwyd gweler yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Arsyllfa Teuluoedd Nuffield. Mynediad yma.