Fe alli di ddod o hyd i wybodaeth gyffredinol am y gyfraith mewn sawl lle, gan gynnwys y rhyngrwyd. Os oes gen ti gwestiwn penodol am y ffordd mae’r gyfraith yn effeithio arnat ti, neu'n effeithio ar rywbeth sydd wedi digwydd i ti neu rywbeth rwyt ti wedi’i wneud, dylet ti geisio siarad â chyfreithiwr sydd â phrofiad yn y math o gyfraith sy'n berthnasol. Er enghraifft, os oes rhywbeth wedi digwydd i ti yn yr ysgol, dylet ti ddewis cyfreithiwr sydd â phrofiad mewn cyfraith addysg. Hefyd, mae yna elusennau sy’n gallu dy helpu di a rhoi cyngor i ti ar faterion cyfreithiol. Mae'n bosib y bydd y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn gallu helpu hefyd.
PRID GAF Y...?
GARTREF
Cewch newid eich enw’n swyddogol pan fyddwch yn 16.
Os ydych chi eisiau defnyddio enw gwahanol gyda’ch ffrindiau, cewch wneud hynny unrhyw bryd. Os ydych chi eisiau newid eich enw (eich enw cyntaf, eich cyfenw, neu’r ddau) yn swyddogol, fel bod yr enw newydd rydych chi wedi’i ddewis i’w weld ar bethau fel eich pasbort, bydd angen dogfen gyfreithiol o’r enw ‘gweithred newid enw’ arnoch.
Cewch wybod mwy am newid eich enw yma.
Does dim isafswm oedran cyfreithiol ar gyfer gwarchod i rywun arall. Mae’n rhaid i rieni neu ofalwyr y plentyn rydych yn ei warchod fod yn fodlon eich bod yn ddigon hen i gadw eu plentyn yn ddiogel. Mae angen i’ch rhieni neu’ch gofalwyr chithau fod yn fodlon eich bod yn ddigon hen i gael eich gadael ar eich pen eich hun i ofalu am blentyn arall.
TEITHIO
Cewch wneud cais am eich pasbort eich hun pan fyddwch yn 16.
Os nad oes gennych eisoes basbort plentyn, cewch wneud cais am eich pasbort oedolyn cyntaf pan fyddwch yn 16 (neu hyd at 3 wythnos cyn eich pen-blwydd yn 16). Os oes gennych basbort plentyn, cewch barhau i’w ddefnyddio hyd nes y daw i ben. Yna byddwch yn gwneud cais am basbort oedolyn pan fyddwch yn adnewyddu eich pasbort.
Cewch wybod mwy am wneud cais am basbort yma.
Does dim isafswm oedran cyfreithiol o ran pryd y cewch fynd ar ei gwyliau heb eich rhieni. Bydd yn dibynnu i ble rydych chi eisiau mynd a ble rydych chi eisiau aros a’r rheolau sydd yno. Os ydych eisiau mynd dramor, bydd angen pasbort arnoch, a bydd yn dibynnu ar reolau’r cwmni awyrennau neu’r cwmni fferi ynglŷn â theithio ar eich pen eich hun – gyda chaniatâd eich rhieni neu hebddo.
Cewch deithio heb sedd plentyn yn y car pan fyddwch yn 12 (neu’n 135cm o daldra). Pan fyddwch wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio sedd plentyn, mae’n rhaid i chi wisgo gwregys diogelwch.
Chi sy’n gyfrifol am wisgo gwregys diogelwch pan fyddwch yn 14.
Cewch ddechrau gyrru car pan fyddwch yn 17.
BLE RYDW I'N BYW
Cewch symud oddi cartref heb ganiatâd eich rhieni neu ofalwyr pan fyddwch yn 16.
ADDYSG
Cewch fynd i’r ysgol o’r mis Medi ar ôl eich pen-blwydd yn 4 oed. Eich rhieni fydd yn penderfynu i ba ysgol y dylech fynd – a hyd yn oed a fyddwch yn mynd i’r ysgol neu’n cael eich addysg gartref.
Cewch wybod mwy am addysg a dewis ysgol yma.
GWAITH
Cewch gael swydd yn gwneud gwaith ysgafn am ychydig oriau’r wythnos pan fyddwch yn 13. Mae rheolau arbennig ar gyfer mynd i weithio ym myd teledu neu’r theatr a chithau o dan 13. Cewch wybod mwy am pryd y cewch weithio yma.
Cewch adael yr ysgol a gweithio’n llawn amser pan gyrhaeddwch oedran gadael yr ysgol, ond fe fydd rhai cyfyngiadau o hyd ar faint o oriau y cewch weithio, y math o waith y cewch ei wneud, a faint y gallwch ddisgwyl cael eich talu hyd nes y byddwch yn 18.
Os ydych yn gofalu am rywun neu os oes gennych anabledd, efallai y cewch dderbyn rhyw fath o fudd-dal neu gymorth ariannol beth bynnag yw eich oedran.
Os oes gennych fabi, cewch hawlio budd-dal plant beth bynnag yw eich oedran.
Pan fyddwch yn 16, cewch hawlio Lwfans Cynnal Addysg os ydych yn dal mewn addysg.
Efallai y byddwch yn gallu cael budd-daliadau eraill fel Lwfans Chwilio am Waith pan fyddwch yn 16.
Cewch berfformio ar lwyfan, ar y teledu neu weithio fel model beth bynnag yw eich oedran, ond mae angen trwydded ar y sawl sy’n eich cyflogi.
PERTHNASOEDD
16 yw’r ‘oedran cydsynio’ yng Nghymru. Dyma pryd y mae’r gyfraith yn ystyried eich bod yn ddigon hen i gytuno o’ch gwirfodd i gael rhyw (sy’n cynnwys cyffwrdd rhywiol), gyda dyn neu fenyw. Cofiwch mai dim ond os ydych eisiau gwneud hynny y dylech gael rhyw, ac os ydych yn teimlo’n barod i wneud hynny.
Dim ond os ydych mewn perthynas â rhywun o’r un rhyw y cewch gael partneriaeth sifil.
Yr un yw’r rheolau ag ar gyfer priodi – felly cewch bartneriaeth sifil os ydych yn 16 neu’n hŷn ac yn rhydd i gael partneriaeth sifil, ond mae’n rhaid i’ch rhieni gytuno os ydych o dan 18.
AR-LEIN
Does dim oedran cyfreithiol ar hyn o bryd ar gyfer cael cyfrif cyfryngau cymdeithasol, ond mae gan y gwahanol lwyfannau (Facebook, Instagram, Snapchat, Twitter ac ati) i gyd eu rheolau eu hunain ynghylch pryd y cewch agor cyfrif gyda nhw.
SIOPAU A GWASANAETHAU
Chewch chi ddim prynu alcohol os ydych o dan 18.
Os ydych yn 16 neu’n 17, fe gewch yfed alcohol (cwrw, gwin neu seidr) gyda bwyd mewn tafarn neu fwyty sy’n gwerthu alcohol, os mai oedolyn sy’n ei brynu i chi.
Cewch yfed alcohol yn eich cartref neu ar safle preifat arall os ydych rhwng 5 ac 16.
Dyw plant o dan 5 ddim yn cael yfed alcohol.
Mae’n rhaid i chi fod yn 18 i brynu sigaréts.
Mae’n rhaid i chi fod yn 18 i brynu ail-lenwad nwy i leitar neu unrhyw sylweddau y gellir eu ffroeni megis toddyddion y mae’r siopwr yn meddwl y gallech eu defnyddio i benfeddwi.
Cewch brynu paent chwistrell aerosol pan fyddwch yn 16.
Mae’n rhaid i chi fod yn 18 i gael tatŵ heblaw bod rheswm meddygol dros gael un.
Mae’n rhaid i chi fod yn 16 i brynu tocyn loteri.
Chewch chi ddim trwydded masnachu ar y stryd hyd nes eich bod yn 18.
Mae gan y rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu gyfrifon i blant, ond mae’n debyg y bydd angen caniatâd oedolyn arnoch hyd nes eich bod yn 18.
Cewch gael cyfrif banc yn eich enw eich hun o adeg eich geni ar yr amod y gall rhywun fel rhiant fod yn gyfrifol am redeg y cyfrif ar eich rhan. Wrth i chi dyfu’n hŷn bydd modd i chi gael mwy o reolaeth dros eich cyfrif banc – bydd gan bob banc ei reolau ei hun, ond fel rheol cewch ddechrau rhoi arian mewn cyfrif pan fyddwch rhwng 8 a 12; pan fyddwch yn 13 efallai y bydd modd i chi gael cerdyn i gael arian o’r peiriant twll yn y wal. Yn dibynnu ym mha fanc rydych yn agor cyfrif, efallai y cewch lyfr sieciau pan fyddwch tua 16. Chewch chi ddim gorddrafft hyd nes y byddwch yn 18.
Chewch chi ddim cerdyn credyd hyd nes eich bod yn 18.
Cewch brynu Bondiau Premiwm ac agor Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) pan fyddwch yn 16.
Mae tystysgrif ar bob ffilm yn dweud pa mor hen y mae’n rhaid i chi fod i weld y ffilm:
U – gall unrhyw un weld y ffilm
PG – fe ddylai fod yn iawn i unrhyw un dros 8 oed, ond dylai rhieni gael gwybod a yw’r ffilm yn briodol i’w plentyn
12 – mae’n rhaid i chi fod yn 12 i weld y ffilm
12A – cewch weld y ffilm os ydych o dan 12 os oes oedolyn gyda chi
15 – mae’n rhaid i chi fod yn 15 i weld y ffilm
18 – mae’n rhaid i chi fod yn 18 i weld y ffilm
Chewch chi ddim ond prynu tân gwyllt yng nghategorïau 2 a 3 os ydych yn 18 neu’n hŷn. Chaiff neb, hyd yn oed oedolion, brynu tân gwyllt categori 4 heblaw eu bod yn ‘broffesiynol’ ac wedi’u hyfforddi i drin a thrafod tân gwyllt.
Dim ond ar adegau penodol o’r flwyddyn y cewch brynu tân gwyllt heblaw eich bod yn mynd at werthwr tân gwyllt trwyddedig.
Fel arfer cewch danio tân gwyllt rhwng 7am ac 11pm. Ar noson tân gwyllt cewch danio tân gwyllt tan ganol nos ac ar Nos Galan, Diwali a’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd cewch eu tanio tan 1am.
Mae’n rhaid i chi fod yn 18 i brynu’r rhan fwyaf o gyllyll a drylliau. Bydd angen trwydded arnoch hefyd i brynu dryll.
Cewch brynu eich anifail anwes eich hun pan fyddwch yn 16.
Cewch brynu ffôn symudol talu-wrth-fynd beth bynnag yw eich oedran. Chewch chi ddim prynu ffôn symudol ar gontract hyd nes eich bod yn 18 – ond fe all rhiant neu ofalwr brynu ffôn a threfnu contract i chi.
Mae’n rhaid i chi fod yn 18 cyn prynu tŷ yn eich enw eich hun.
IECHYD A LLES
Cewch weld meddyg ar eich pen eich hun beth bynnag yw eich oedran. Efallai na fyddwch yn cael gwneud penderfyniadau am eich triniaeth hyd nes eich bod yn 16.
Cewch wneud eich penderfyniadau eich hun am eich triniaeth feddygol pan fyddwch yn 16. Efallai y cewch wneud penderfyniadau am eich triniaeth feddygol os ydych o dan 16 ac yn deall yr hyn y mae’n ei olygu.
Cewch roi gwaed pan fyddwch yn 18.
Pan fyddwch yn 18, cewch ‘optio allan’ o’r cynllun rhoi organau yng Nghymru.
Cewch brynu condomau beth bynnag yw eich oedran – neu eu cael am ddim o rai clinigau iechyd rhywiol neu drwy gynllun Cerdyn C yng Nghymru. Efallai y bydd yn rhaid i chi weld meddyg neu nyrs mewn clinig iechyd rhywiol i gael rhai mathau eraill o ddulliau atal cenhedlu, ond cewch wybodaeth a chyngor am atal cenhedlu beth bynnag yw eich oed. Os yw’r meddyg neu’r nyrs yn cytuno eich bod yn ddigon aeddfed, gall roi dull atal cenhedlu i chi fel y bilsen, neu fewnblaniadau, heb ddweud wrth eich rhieni.
Cewch wybod mwy yma.
Cewch fynd i glinig iechyd rhywiol beth bynnag yw eich oedran a siarad â meddyg neu nyrs am unrhyw broblemau sydd gennych neu gael cyngor. Os ydych dros 16, fydd dim angen i’ch rhieni fod gyda chi. Os ydych o dan 16, ac eisiau cael dulliau atal cenhedlu neu gael archwiliad neu rywbeth arall, efallai y bydd angen caniatâd eich rhiant neu ofalwr arnoch os nad yw’r meddyg neu’r nyrs yn siŵr eich bod yn deall digon am yr hyn sy’n digwydd.