- A chithau’n blentyn/person ifanc yng Nghymru, mae eich hawliau’n cynnwys yr hawl i fod yn rhan o benderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanoch. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i wneud plant yn rhan ganolog o bopeth mae’n ei wneud
- Mae gwahanol ffyrdd o sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghymru. Mae’n dibynnu a ydych eisiau datrys rhywbeth i chi eich hun, neu a oes rhywbeth rydych eisiau ei newid sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru.
- Y man cychwyn er mwyn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yw deall beth yw eich hawliau a gwybod am y cyfreithiau sy’n gallu eich helpu i sicrhau eich hawliau.
Mae llawer o adegau yn eich bywyd pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau amdanoch. Efallai eich bod yn meddwl nad oes gennych lais, ond mewn gwirionedd mae eich bywyd yn llawn dewisiadau a phenderfyniadau sydd ar gael i chi.
I ddechrau, efallai y bydd y penderfyniadau y mae gennych reolaeth drostynt yn benderfyniadau am ‘bethau bach’ bywyd. Wrth i chi dyfu i fyny, cewch wneud mwy a mwy o benderfyniadau drosoch eich hun. Mae’r rhain yn cynnwys penderfyniadau ynghylch gyda phwy rydych yn byw, ac ymhle, ble rydych yn mynd i’r ysgol, ac unrhyw driniaeth feddygol sydd ei hangen arnoch.
Os oes raid i oedolyn wneud penderfyniad amdanoch, mae Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhoi hawl i chi i sicrhau bod eich barn yn cael ei hystyried pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud. Po hynaf ydych chi, po fwyaf o gyfle y dylech ei gael i gael eich clywed ac i wneud penderfyniadau.
Mae gwybod beth yw eich hawliau’n un peth – mae arfer eich hawliau a gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich clywed ac y gallwch wneud rhywbeth os nad ydych yn cael eich trin yn iawn yn fater arall. Yn dibynnu ar yr hyn y mae angen i chi wneud rhywbeth yn ei gylch, mae gwahanol fecanweithiau i’ch helpu i wneud yr hyn y mae angen i chi ei wneud.
Efallai na wnaeth pobl wrando arnoch pan oedd penderfyniad yn cael ei wneud amdanoch. Efallai eich bod wedi cael eich trin yn wael gan rywun a’ch bod eisiau unioni pethau. Efallai eich bod eisiau cael dweud eich dweud ynghylch gyda phwy rydych yn byw os yw eich rhieni wedi gwahanu. Efallai eich bod wedi sylwi ar rywbeth rydych chi eisiau ei newid i bawb. Beth bynnag sydd gennych i’w ddweud, mae angen i chi wybod beth y gallwch ei wneud i arfer eich hawliau.
Weithiau rydym yn defnyddio’r gair ‘cyfranogiad’ i ddisgrifio bod yn rhan o benderfyniadau sy’n effeithio arnoch. Mae hyn yn cynnwys pan fyddwch yn cymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio nid yn unig arnoch chi ond hefyd ar bobl ifanc eraill yng Nghymru (a thu hwnt). Mae Llywodraeth Cymru wedi creu’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru i sicrhau y gall plant a phobl ifanc fod yn rhan o’r penderfyniadau ‘mawr’ hyn. Cafodd y Safonau Cyfranogiad hyn eu diweddaru ym mis Tachwedd 2017.
Os yw sefydliad yn bwriadu eich cynnwys wrth wneud penderfyniadau neu ofyn am eich barn, mae’n rhaid iddo sicrhau ei fod yn glynu at y 7 safon isod:
Gwybodaeth – fe ddylai gwybodaeth sy’n cael ei rhoi i blant a phobl ifanc fod o ansawdd da, yn glir ac yn hygyrch; fe ddylech wybod pwy fydd yn gwrando arnoch a pha wahaniaeth y gallai eich cyfraniad ei wneud.
Eich dewis chi – fe ddylech gael digon o gymorth ac amser i ddewis a ydych am gymryd rhan.
Dim gwahaniaethu – fe ddylai oedolion herio gwahaniaethu a chynnig ystod o gyfleoedd a chymorth i fodloni anghenion plant a phobl ifanc.
Parch – fe ddylai pobl wrando ar eich safbwyntiau, eich syniadau a’ch barn a’u cymryd o ddifrif; fe ddylai oedolion weithio gyda chi ar yr hyn rydych chi’n dweud sy’n bwysig a rhoi gwerth ar eich cyfraniad.
Fe ddylech gael rhywbeth allan o’r profiad – fe ddylech fwynhau’r profiad o gymryd rhan, o weithio gydag eraill mewn ffordd gadarnhaol a chael cyfle i wneud gwahaniaeth.
Adborth – fe ddylech wybod sut mae pobl wedi gwrando ar eich syniadau a pha wahaniaeth mae eich safbwyntiau wedi’i wneud.
Gweithio’n well i chi – fe ddylai oedolion weithio gyda phlant a phobl ifanc a dysgu sut i wneud pethau’n well; fe ddylent sicrhau bod safbwyntiau plant a phobl ifanc yn gwneud gwahaniaeth i’r ffordd y mae oedolion yn cynllunio ac yn gwneud penderfyniadau.
BOD YN RHAN O BENDERFYNIADAU AMDANOCH CHI FEL UNIGOLYN
Os oes rhywbeth yn digwydd i chi – efallai eich bod yn ei chael yn anodd cael yr help sydd ei angen arnoch yn yr ysgol, neu efallai fod eich rhieni’n gwahanu a’ch bod yn teimlo eich bod yn cael eich gadael allan o’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud, neu efallai eich bod mewn trafferth gyda’r heddlu ond nad ydych yn cael eich trin yn iawn – fe ddylech allu sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Os nad ydych yn gwybod beth i’w wneud, gall hynny wneud i chi deimlo hyd yn oed yn waeth am yr hyn sy’n digwydd.
Mae eich hawl i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed ac i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau’n berthnasol ym mhob sefyllfa sy’n ymwneud â sefydliad cyhoeddus – eich ysgol, y gwasanaethau cymdeithasol, y llysoedd, yr heddlu, neu bobl sy’n eich trin yn yr ysbyty, ymhlith eraill.
Rydym wedi llunio rhestr o benderfyniadau y byddwch efallai am fod yn rhan ohonynt, ac esboniad o sut i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Pan fydd eich rhieni’n gwahanu
Mae gennych hawl i gael gofal gan eich rhieni, a hawl i beidio â chael eich gwahanu oddi wrth eich rhieni heb reswm da. Os yw eich rhieni’n gwahanu, efallai y bydd modd iddyn nhw siarad â chi a chytuno ymhlith ei gilydd ble y byddwch yn byw a sut y byddwch yn cadw cyswllt â’r ddau riant. Hyd yn oed os na fyddant yn gallu cytuno, mae’n bosib y byddant yn gallu trafod drwy eu cyfreithwyr a dod i ryw fath o gytundeb. Os na fyddant yn gallu cytuno, efallai y bydd yn rhaid iddynt fynd i’r llys, lle y bydd barnwr yn penderfynu gyda phwy y dylech fyw.
CAFCASS CYMRU yw’r sefydliad a fydd yn eich helpu i leisio eich barn wrth i’r penderfyniadau hyn gael eu gwneud, os oes angen help arnoch i wneud hynny. Byddwch yn cwrdd â Chynghorydd Llys Teulu a fydd yn gwrando arnoch ac yn ysgrifennu adroddiad i’w ystyried gan y barnwr sy’n ymdrin â’r achos. Mae’n rhaid i’r barnwr wneud y penderfyniad sydd er ‘budd pennaf’ i chi. Fydd neb yn gofyn i chi ddewis rhwng eich mam a’ch tad, ond fe ofynnir i chi beth hoffech chi ei weld yn digwydd. Dyw hynny ddim yn golygu mai dyna fydd yn digwydd, ond mae’n rhaid i’r barnwr ystyried eich barn.
Fydd dim rhaid i chi fynd i’r llys a siarad yn uniongyrchol â’r barnwr fel arfer, ond os ydych chi’n teimlo’n gryf am hyn, cewch ofyn i’r Cynghorydd Llys Teulu a gewch chi wneud hynny. Gallech hefyd ysgrifennu’n uniongyrchol at y barnwr i esbonio eich teimladau.
Os yw’r llys wedi gwneud gorchymyn ynglŷn â ble y dylech fyw, neu os yw eich rhieni wedi dod i gytundeb a’ch bod eisiau ei newid, gallwch gysylltu â CAFCASS CYMRU i gael help. Efallai y byddwch am wneud hyn os yw’r rhiant rydych yn byw gydag ef neu hi yn symud i fyw yn rhywle arall a’ch bod eisiau aros yn agos at eich ffrindiau a’ch rhiant arall.
Os nad yw eich rhieni’n gallu gofalu amdanoch yn iawn, neu os oes perygl i chi gael niwed os arhoswch chi gyda’ch rhieni, efallai y bydd yr awdurdod lleol am ymchwilio ac agor ‘achos gofal’. Bydd achos gofal yn penderfynu a ddylai rhywun arall ofalu amdanoch. Bydd CAFCASS CYMRU yn rhan o’r broses hon, er mwyn gwneud yn siŵr bod eich safbwyntiau’n cael eu clywed yn iawn pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch a allwch chi ddal i fyw gyda’ch rhieni neu a oes angen i chi fyw gyda rhywun arall.
Mae’n rhaid i’ch Awdurdod Lleol asesu eich anghenion os yw’n meddwl efallai fod angen gofal a chymorth arnoch yn ogystal â’r gofal a gewch gan eich rhieni, neu yn lle hynny. Fe ddylech fod yn rhan o’r broses hon.
Os ydych yn 16 neu’n 17, cewch wrthod cael yr asesiad hwn. Cewch hefyd wrthod yr asesiad os ydych o dan 16 a bod yr awdurdod lleol yn fodlon eich bod yn deall goblygiadau’r penderfyniad.
Os yw’r asesiad yn dangos bod gennych anghenion, fe ddylai’r awdurdod lleol eich cynnwys chi a’ch rhieni wrth lunio cynllun gofal a chymorth.
Os ydych yn ofalwr i rywun arall gartref, un o’ch rhieni efallai neu frawd neu chwaer, mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol edrych ar eich anghenion chithau hefyd. Os ydych yn ofalwr fe ddylech gael eich cynnwys yn yr asesiad o anghenion.
Os ydych yn 16 neu’n 17, cewch wrthod cael yr asesiad hwn. Cewch hefyd wrthod os ydych o dan 16 a bod yr awdurdod lleol yn fodlon eich bod yn deall goblygiadau’r penderfyniad i wrthod.
Penderfyniadau am ble rydych yn mynd i’r ysgol
Mae eich rhieni’n gyfrifol amdanoch tra byddwch yn tyfu i fyny. Mae gennych hawl i gael addysg ac mae’n rhaid i’ch rhieni wneud yn siŵr eich bod yn cael addysg. Mae’n debyg mai nhw fydd yn penderfynu i ba ysgol gynradd yr ewch chi, neu efallai y byddant yn penderfynu eich dysgu gartref.
O ran ysgol uwchradd, mae’n bosib y byddwch yn rhan o’r broses benderfynu. Os ydych yn anghytuno â’ch rhieni ynghylch i ba ysgol y dylech fynd, bydd angen i chi drafod hynny â’ch rhieni i gael gweld a allwch eu darbwyllo i newid eu meddwl. Gallai fod yn dda o beth i chi ofyn i oedolyn arall eich cynorthwyo os oes angen.
Os yw eich rhieni eisiau eich dysgu gartref ond eich bod chi eisiau mynd i’r ysgol, bydd angen i chi drafod hyn â’ch rhieni i weld a oes modd datrys y mater. Unwaith eto, gallai fod yn dda o beth i chi ofyn i oedolyn arall eich cynorthwyo.
Penderfyniadau am eich addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
Os oes gennych anghenion addysgol arbennig a bod eich ysgol neu eich awdurdod addysg lleol wedi gwneud penderfyniad am eich addysg nad ydych yn cytuno ag ef, cewch apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru (a elwir hefyd yn Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru).
Mae eich rhieni’n cael gwneud hyn hefyd, ond os nad ydyn nhw eisiau gwneud hynny, neu os oes rheswm pam eich bod eisiau cyflwyno’r apêl eich hun, fe gewch wneud hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Tribiwnlys Addysg Cymru. Cewch ddewis ‘cyfaill achos’ i’ch helpu wrth gyflwyno eich apêl.
Cael eich trin yn annheg yn yr ysgol oherwydd anabledd
Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich trin yn annheg yn yr ysgol am fod gennych anabledd, neu os ydych yn meddwl bod gan yr ysgol reol sy’n annheg i ddisgyblion anabl (nid dim ond chi), cewch fynd at Dribiwnlys Addysg Cymru. Mae eich rhieni’n cael gwneud hyn hefyd, ond os nad ydyn nhw eisiau gwneud hyn, neu os oes rheswm pam eich bod eisiau gwneud hyn drosoch eich hun, fe gewch wneud hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Tribiwnlys Addysg Cymru. Cewch ddewis ‘cyfaill achos’ i’ch helpu wrth gyflwyno eich achos.
Gwahardd
Os yw’r pennaeth yn ystyried eich gwahardd o’r ysgol, fe ddylech gael cyfle i gyflwyno eich ochr chi o’r stori. Os bydd y pennaeth yn eich gwahardd, bydd Pwyllgor Disgyblaeth yr ysgol yn cwrdd i drafod eich gwaharddiad, ac fe ddylech gael cyfle i fynd i’r cyfarfod a dweud eich dweud. Fe ddylai hyn ddigwydd hyd yn oed os yw’r pwyllgor disgyblu’n cwrdd ar ôl i’r gwaharddiad ddod i ben a chithau’n ôl yn yr ysgol (dim ond ar gyfer gwaharddiadau byr y dylai hyn ddigwydd). Gallech hefyd leisio eich barn yn ysgrifenedig neu mewn rhyw ffordd arall os na allwch fynd i’r cyfarfod. Cewch fynd â ffrind neu hyd yn oed gynrychiolydd cyfreithiol gyda chi i’r cyfarfod. Os ewch chi i’r cyfarfod heb eich rhiant/gofalwr, fe ddylai’r Awdurdod Lleol geisio dod o hyd i rywun i’ch helpu. Mae’n rhaid i’r Pwyllgor Disgyblu ystyried eich barn.
Penderfyniadau am sut y mae’r ysgol yn cael ei rhedeg
Bydd gan eich ysgol gyngor ysgol sydd yno i gynrychioli eich barn fel disgybl am bethau sy’n effeithio ar yr ysgol gyfan (neu grwpiau o fyfyrwyr). Os ydych eisiau siarad am rywbeth, gallwch ofyn i’ch cynrychiolydd ar y cyngor ysgol godi’r mater mewn cyfarfod. Gallech hefyd siarad ag un o’ch athrawon os oes rhywbeth yr hoffech ei newid yn yr ysgol a fydd yn effeithio ar yr holl disgyblion.
Cwynion am yr ysgol
Mae’n rhaid i bob ysgol gael trefn gwyno. Mae hynny’n golygu y cewch wneud cwyn os ydych yn anhapus am rywbeth nad ydych yn gallu ei ddatrys fel arall. Fe ddylech allu gwneud cwyn am eich ysgol os ydych am wneud hynny, hyd yn oed os yw eich rhieni wedi cyflwyno’u cwyn eu hunain.
Prentisiaethau
Os oes rhywbeth yn eich pryderu ynglŷn â’ch prentisiaeth ac nad ydych yn gallu datrys y mater yn anffurfiol gyda’ch rheolwr neu drwy siarad â’r adran Adnoddau Dynol yn y gwaith, efallai y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio trefn gwyno’r busnes dan sylw i godi’r mater yn ffurfiol. Os yw eich problem yn gysylltiedig â’ch hawliau cyflogaeth, efallai y bydd ACAS yn gallu helpu, neu eich Undeb Llafur, os ydych yn aelod o un.
Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am Brentisiaethau, felly os na allwch ddatrys y mater, gallech gysylltu â nhw.
Os ydych yn 16 neu’n hŷn, neu os yw eich meddyg yn meddwl eich bod yn ddigon hen i ddeall yr hyn sy’n digwydd, yr hyn y mae’r driniaeth feddygol sy’n cael ei hawgrymu’n ei olygu, a beth allai’r canlyniadau fod os penderfynwch beidio â bwrw ymlaen, cewch wneud eich penderfyniadau eich hun am driniaeth feddygol.
Os ydych o dan 16 a bod y meddyg yn meddwl nad oes gennych ddigon o ddealltwriaeth, gall ofyn am gydsyniad eich rhieni i fwrw ymlaen – fydd y meddyg ddim yn cael gweithredu ar sail yr hyn rydych chi’n ei ddweud.
CYMRYD RHAN YN Y PENDERFYNIADAU MAWR!
Mae’n bwysig iawn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eich bywyd bob dydd. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn deall bod gennych lais yn y penderfyniadau mawr sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru. Gall penderfyniadau yng Nghymru ddigwydd ar lefel y Deyrnas Unedig, oherwydd mae llawer o’r cyfreithiau sy’n berthnasol i Gymru’n dal i gael eu gwneud yn y Senedd yn San Steffan. Ond yn sgil datganoli mae mwy a mwy o benderfyniadau ynglŷn â bywyd yng Nghymru’n cael eu gwneud yng Nghaerdydd. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r Cynulliad Cenedlaethol i wneud penderfyniadau ynglŷn â’r gyfraith yng Nghymru. Mae rhai penderfyniadau’n cael eu gwneud gan awdurdodau lleol hefyd.
Mae pawb yng Nghymru’n cael ei gynrychioli yn Senedd y DU, ac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, gan rywun sydd wedi’i ethol i wneud y swydd. Bydd gennych AS (Aelod Seneddol) sy’n eich cynrychioli yn Senedd y DU, ac AC (Aelod Cynulliad) sy’n eich cynrychioli yn y Cynulliad Cenedlaethol. Does dim ots os na wnaethoch chi bleidleisio drostyn nhw, neu na os wnaeth eich rhieni bleidleisio drostyn nhw. Os ydych chi’n byw yn y rhan o Gymru y maen nhw’n gyfrifol amdani, mae’n ddyletswydd arnyn nhw i’ch cynrychioli.
Mae hynny’n golygu, os ydych yn poeni am rywbeth, y gallwch ofyn i’ch AS neu AC (neu’r ddau!) eich helpu.
Cewch wybod pwy yw eich AS yma
Cewch wybod pwy yw eich AC yma
Dechrau deiseb
Os ydych yn meddwl y dylai rhywbeth gael ei newid yng Nghymru, gallwch ddechrau deiseb i ofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol neu Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth ynglŷn â’r peth. Mae’n rhaid i’r ddeiseb fod ynghylch rhywbeth y mae gan Lywodraeth Cymru rym i’w newid.
Os yw eich deiseb yn cael ei derbyn ac os oes digon o bobl wedi ei llofnodi, bydd y Pwyllgor Deisebau’n ei hystyried. Os bydd mwy na 5,000 o lofnodion ar eich deiseb, bydd yn cael ei hystyried ar gyfer dadl lawn yn y Cynulliad. Ond hyd yn oed os mai dim ond 50 o bobl sydd wedi llofnodi’r ddeiseb, bydd y Pwyllgor Deisebau’n edrych arni a gall benderfynu cymryd camau pellach. Gallai hynny gynnwys gofyn am fwy o dystiolaeth neu wahodd pobl i drafod y mater sydd dan sylw yn eich deiseb. Gall y Pwyllgor Deisebau gynnal ymchwiliad byr i’r mater rydych wedi’i godi yn eich deiseb, neu ofyn i bwyllgor arall edrych arno.
Chewch chi ddim gofyn am ddeiseb ynghylch penderfyniad gan awdurdod lleol rydych yn anghytuno ag ef. Chewch chi ddim cyflwyno deiseb i Lywodraeth Cymru am rywbeth y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano – ond mae proses debyg ar gyfer deisebau i Lywodraeth y DU.
Ym mis Tachwedd 2018, cynhelir yr etholiadau cyntaf i Senedd Ieuenctid Cymru. Gall pobl ifanc rhwng 11 a 18 sefyll yn yr etholiadau, a gall plant a phobl ifanc rhwng yr oedrannau hyn gofrestru i bleidleisio.
Bydd aelodau’r Senedd Ieuenctid yn eu swyddi am 2 flynedd, yn cynrychioli naill ai eu ‘hetholaeth’ – lle bynnag maen nhw’n byw yng Nghymru – neu grŵp cyfranogi a ddewisir i sicrhau bod y Senedd Ieuenctid yn cynrychioli holl blant a phobl ifanc Cymru, o bob cefndir ac o bob cymuned.
Bydd y Senedd Ieuenctid yn gallu bwydo i mewn i’r broses o wneud penderfyniadau yn y Cynulliad Cenedlaethol ar faterion penodol. Bydd y Senedd Ieuenctid yn gallu ymdrin ag unrhyw ‘fater datganoledig’ – sef rhywbeth y mae gan y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru rym i’w newid. Mae’r rhestr hon o faterion datganoledig yn cynnwys pethau fel iechyd, addysg, a’r system ofal – sydd i gyd yn bethau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.
A chithau’n berson ifanc yng Nghymru, mae gennych lais yn yr hyn sy’n digwydd os manteisiwch ar y cyfle i bleidleisio dros eich aelod o’r Senedd Ieuenctid yn yr etholiadau. Os oes rhywbeth yn effeithio arnoch, gallwch godi hynny gyda’ch Aelod o’r Senedd Ieuenctid (yn ogystal â gyda’ch AC lleol).
Mae Senedd Ieuenctid y DU yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 11 a 18 gael eu hethol a chymryd rhan mewn trafodaethau a dadleuon i sicrhau newid yn y DU. Mae 369 o aelodau etholedig yn Senedd Ieuenctid y DU ac mae pob rhan o’r DU yn cael ei chynrychioli – gan gynnwys Cymru.
Cewch wybod mwy am Senedd Ieuenctid y DU yma.
Efallai y bydd Cyngor Ieuenctid Lleol yn eich ardal chi. Mae Cynghorau Ieuenctid yn cael eu sefydlu a’u rhedeg gan bobl ifanc ac i bobl ifanc o dan 25 er mwyn iddynt gael llais yn yr hyn sy’n digwydd yn lleol (yn hytrach nag yn genedlaethol – dyna yw swyddogaeth Senedd Ieuenctid Cymru). Gall cynghorau ieuenctid lleol feithrin cyswllt â chynghorau ieuenctid mewn ardaloedd eraill drwy Gyngor Ieuenctid Prydain.
CWYNO AM Y FFORDD RYDYCH WEDI CAEL EICH TRIN
Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n rhan o’r ‘awdurdod lleol’ lle rydych yn byw, fod yn rhan o lawer o benderfyniadau amdanoch, er enghraifft os na all eich rhieni ofalu amdanoch yn iawn. Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol gael trefn gwyno. Mae gennych 12 mis i wneud cwyn. Mae hynny’n golygu naill ai 12 mis o’r adeg pan oedd gennych broblem, neu 12 mis o’r dyddiad pan gawsoch wybod bod gennych broblem.
Cewch wybod pa un yw eich awdurdod lleol chi yma.
Cewch wneud cwyn os dylai’r awdurdod lleol fod wedi gwneud rhywbeth i’ch helpu neu i’ch diogelu ac nad yw wedi gwneud hynny, neu os ydych yn anhapus â’r hyn sydd wedi digwydd.
Os nad ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i wneud cwyn, cewch ofyn i gynrychiolydd eich helpu.
Byddwch yn cyflwyno cwyn i’r Swyddog Cwynion yn y lle cyntaf. Cynhelir ymchwiliad ffurfiol a byddwch yn cael ateb ar ôl yr ymchwiliad. Os nad ydych yn hapus â’r ateb i’ch cwyn, cewch gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Os oes raid i chi fynd i’r llys a’ch bod yn cael eich dedfrydu i dreulio amser mewn Llety Cadw Ieuenctid, bydd y Gwasanaeth Cadw Ieuenctid yn penderfynu pa fath o lety sydd fwyaf addas i chi (Sefydliad Troseddwyr Ifanc, Cartref Diogel i Blant neu Ganolfan Hyfforddi Ddiogel). Os nad ydych yn cytuno â’r hyn sydd wedi’i benderfynu ynghylch ble y dylech fynd, cewch ofyn i’r penderfyniad gael ei adolygu.
Weithiau, bydd pethau’n digwydd i chi a fydd yn golygu y cewch ddwyn achos cyfreithiol, er enghraifft:
- os cawsoch eich anafu mewn damwain lle roedd rhywun arall ar fai
- pan fo’r gwasanaethau cymdeithasol yn penderfynu y dylech dderbyn gofal pan na ddylai hynny fod wedi digwydd
- os ydych wedi cael eich trin yn wael gan yr heddlu
- os ydych wedi cael eich gwahardd o’r ysgol ar gam
Gan amlaf, os ydych o dan 18, bydd yn rhaid i chi ddwyn achos drwy oedolyn – sef eich ‘cyfaill cyfreitha’ (‘cyfreitha’ yw’r broses o fynd i’r llys). Gall eich cyfaill cyfreitha fod yn rhiant neu’n warcheidwad neu’n aelod arall o’r teulu neu’n ffrind (ond mae’n rhaid iddyn nhw fod dros 18). Gall hefyd fod yn gyfreithiwr. Os nad ydych yn adnabod neb a all fod yn gyfaill cyfreitha i chi, fe all y Cyfreithiwr Swyddogol wneud hyn i chi.
Sefydlwyd swyddogaeth gyhoeddus y Cyfreithiwr Swyddogol i ofalu am fuddiannau pobl ifanc (o dan 18) ac oedolion nad oes ganddynt alluedd meddyliol i gymryd rhan mewn achosion cyfreithiol, ac nad oes neb arall i wneud hynny drostynt. Mae’r Cyfreithiwr Swyddogol yn gweithredu fel ‘cyfaill cyfreitha’ i’ch helpu i ddwyn eich achos cyfreithiol. Does gan y Cyfreithiwr Swyddogol ddim grym i’ch cynrychioli y tu allan i gyfundrefn y llysoedd.
AC OS NAD YW FY LLAIS YN CAEL EI GLYWED…
Os ydych yn ei chael yn anodd sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed er gwaetha’r gweithdrefnau sydd ar waith, neu os oes penderfyniad yn cael ei wneud amdanoch ac nad oes ffordd i chi gael dweud eich dweud, gallwch gysylltu â Chomisiynydd Plant Cymru.