Ymwadiad

Defnyddio’r wybodaeth ar ein Gwefan

Ymwadiad

Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth gywir a chyfredol am y gyfraith sy’n berthnasol i bobl ifanc yng Nghymru, ac am y ffordd mae’r gyfraith yn effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru.

Gall yr wybodaeth ar y wefan hon helpu i ateb cwestiynau cyffredinol am y gyfraith, neu eich helpu i ddeall rhywbeth sydd wedi digwydd i chi, neu sydd yn digwydd i chi, ond dim ond ar lefel gyffredinol y bydd y wefan yn gwneud hynny. Ni ddylech ystyried yr wybodaeth ar y wefan hon fel cyngor cyfreithiol ynghylch y ffordd mae’r gyfraith yn berthnasol i chi a’ch sefyllfa benodol. Os oes angen cyngor cyfreithiol arnoch, dylech siarad â chynghorydd cyfreithiol cymwys a fydd yn gallu deall y sefyllfa a rhoi cyngor penodol i chi ar y ffordd mae’r gyfraith yn berthnasol i chi.

Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i sicrhau bod yr wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfredol. Fodd bynnag, gall y gyfraith newid yn gyflym felly mae’n bosib na allwn ni ddiweddaru’r wefan yn syth. Mae hwn yn rheswm arall pam y dylech bob amser sicrhau eich bod yn cael cyngor cyfreithiol gan gynghorydd cyfreithiol cymwys.

Ni all Canolfan Gyfreithiol y Plant dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw wallau neu fylchau sydd yn y cynnwys ar y wefan.

Ni all Canolfan Gyfreithiol y Plant fod yn atebol am unrhyw ddifrod neu golled y byddwch yn ei ddioddef o ganlyniad i ddefnyddio, neu fethu defnyddio, cynnwys ar y wefan hon. Ni fydd y Ganolfan yn atebol am unrhyw gamau rydych chi’n eu cymryd na phenderfyniadau rydych chi’n eu gwneud ar sail y cynnwys ar y wefan.

Pan fyddwn ni’n cynnwys dolen i wefannau eraill, ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw gynnwys sydd ar y gwefannau eraill hynny. Ni fyddwn ni’n gyfrifol chwaith am unrhyw golled neu ddifrod y byddwch yn ei ddioddef o ganlyniad i fynd ar y gwefannau hynny, neu o ganlyniad i ddibynnu ar gynnwys sydd wedi’i ddarparu ar unrhyw un o’r gwefannau hynny.

Hawlfraint

Mae’r holl gynnwys gwreiddiol ar y wefan hon, gan gynnwys testun, logos a delweddau, yn eiddo i Ganolfan Gyfreithiol y Plant.

  • Cewch gopïo gwybodaeth oddi ar y wefan hon i ddisg caled lleol ar gyfer eich defnydd personol
  • Cewch ddyfynnu o’r wefan hon, er enghraifft mewn llythyr, neu mewn prosiect neu waith cartref, cyn belled â’ch bod yn nodi eich bod yn dyfynnu o wefan Canolfan Gyfreithiol y Plant ac yn cynnwys ein url.

Cewch gynnwys dolen i’n gwefan ar eich gwefan eich hun neu ar wefan arall heb ein caniatâd, ar yr amod nad ydych yn datgan nac yn awgrymu ein bod ni’n gysylltiedig â’r wefan nac yn ei chymeradwyo. Os ydych chi am siarad â ni am gysylltiad neu gymeradwyaeth o’r fath, mae croeso i chi gysylltu â ni: childrenslegalcentre@swansea.ac.uk.

Mae’r logos ar y wefan, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, dyluniad y darn jig-so, yn eiddo i Ganolfan Gyfreithiol y Plant. Ni ddylid ei gopïo na’i ddefnyddio ar gyfer defnydd masnachol personol heb ganiatâd ysgrifenedig penodol gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant.

Graddau daearyddol

Mae’r wefan hon yn rhoi sylw penodol i faterion cyfreithiol yng Nghymru. Ni fydd y gyfraith yng Nghymru bob amser yr un fath â’r gyfraith yn Lloegr, yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon. Os oes angen gwybodaeth arnoch am y gyfraith sy’n berthnasol i’r rhannau hynny o’r Deyrnas Unedig, bydd rhaid i chi chwilio yn rhywle arall.

Diwygiadau

Cadwn yr hawl i addasu neu ddiwygio unrhyw gynnwys ar y wefan hon unrhyw bryd a heb roi rhybudd. Hefyd, gallwn dynnu’r wefan yn ôl unrhyw bryd.

Diogelwch y Wefan

Er ein bod ni wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod ein gwefan yn ddi-dor ac yn rhydd o unrhyw wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, a bod y wefan yn rhydd o feirysau ac unrhyw broblemau cyfrifiaduro maleisus, ni allwn ni sicrhau hynny. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod i’ch cyfrifiadur neu i’ch data o ganlyniad i ddefnyddio ein gwefan, ac rydyn ni bob amser yn eich cynghori i fuddsoddi mewn meddalwedd amddiffyn a diogelu ar y rhyngrwyd.

Cwcis

Rydyn ni’n defnyddio cwcis i weld pwy sy’n mynd ar ein gwefan ac i gadw cofnod o’r tudalennau maen nhw’n mynd arnyn nhw a pha mor hir maen nhw’n aros arnyn nhw. Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn gwella cynnwys y wefan. Gallwch rwystro cwcis trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar eich porwr gwe, ond gall hyn effeithio ar eich defnydd o’r wefan. I gael rhagor o wybodaeth am gwcis a’r ffordd rydyn ni’n eu defnyddio, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.