Mae’r Ganolfan Gyfreithiol y Plant yn wasanaeth draws-Gymru dwyieithog sydd yn darparu gwybodaeth a mynediad at gyngor cyfreithiol ar gyfer plant a phobl ifanc.
Ein prif anelau yw:
- Darparu Cyngor cyfreithiol a gwasnaeth gwybodaeth ar gyfer plant a phobl ifanc;
- Darparu hyfforddiant ac addysg am y gyfraith a sut y mae yn effeithio plant a phobl ifanc;
- Cynnal ymchwil, dadeansoddi data ac ymchwil werthuso i newid a gwella’r gyfraith, polisiau ac ymarferion mewn perthynas â plant a phobl ifanc.
Rydym hefyd yn:
- Cynnig hyfforddiant a help arall i ysgolion, grwpiau cymunedol a phobl proffesiynol
- Trefnu cynhadleddau, gweithdai a seminarau
- Cefnogi rhwydweithiau sydd yn helpu rhannu gwybodaeth am hawliau dynol plant a phobl ifanc.
Rydym wedi ein lleoli yn Ysgol Gyfreithiol Hilary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, gyda Clinic Gyfreithiol Abertawe. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddarparu gwasanaethau arloesol o safon a hyrwyddo hawliau dynol plant a phobl ifanc.
O ble y daethom
Tyfodd Canolfan Gyfreithiol y Plant o waith yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant. Mae’r Arsyllfa’n gweithio i wreiddio hawliau drwy newid sefydliadol a strategol, ac i ddod o hyd i ddulliau o rymuso plant i wneud gwaith ymchwil, a monitro’r cytundeb hawliau dynol rhyngwladol. Ond er gwaethaf ei fframwaith polisi a deddfwriaethol blaengar, Cymru oedd yr unig un o wledydd y DU nad oedd ganddi ganolfan gyfreithiol plant!
Yn 2016, gyda chymorth Sefydliad Paul Hamlyn a thrwy gydweithredu â nifer o bobl a sefydliadau, lansiwyd Canolfan Gyfreithiol y Plant. Ers hynny mae’r Ganolfan wedi llwyddo i sicrhau nifer o grantiau a rhoddion i ddatblygu agweddau ar ei gwaith ac i wneud gwaith datblygu busnes yn gyffredinol. Cawsom gefnogaeth Sefydliad Addysg y Gyfraith a Rhwydwaith Ymchwil Addysg y Gyfraith, ac mae Prifysgol Abertawe’n parhau i’n cefnogi.
Pam rydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud
Er gwaethaf ymrwymiad Cymru i hawliau dynol plant – ac mae cymeradwyo Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn tystio i hynny – nid oes digon o wybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i’r cyhoedd, ac yn enwedig i blant a phobl ifanc, ynglŷn â’r gyfraith yng Nghymru. Dangosodd ymchwil gan sefydliadau ieuenctid a chymdeithas sifil ar gyfer archwiliadau cyfnodol o Wladwriaethau sy’n Bartïon o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn mai prin yw gwybodaeth plant a phobl ifanc am y gyfraith a’i bod yn anodd iddynt gael gwybodaeth amdani.
Yn ogystal, canfu ein harolwg cipolwg yn 2016 nad oedd 106 o blith 150 o bobl ifanc 11-18 oed yn meddwl eu bod yn cael digon o gyfleoedd i ddysgu am y gyfraith, a bod pobl ifanc fwyaf tebygol o droi at y we neu at eu rhieni i gael cyngor cyfreithiol. Ni ddywedodd yr un o’r ymatebwyr y byddent yn mynd at gyfreithiwr!
Clywsom hefyd gan sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau eirioli, llinellau cymorth neu fathau eraill o gymorth i blant, fel Comisiynydd Plant Cymru, Meic, y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) a Tros Gynnal Plant, fod diffyg gwybodaeth a chyngor cyfreithiol yn broblem. A dywedodd cyfreithwyr wrth eu gwaith wrthym eu bod yn barod i helpu. Felly, rydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud am reswm syml iawn: rydym wedi gweld angen, rydym wedi dod o hyd i bobl sy’n awyddus i weithio gyda’i gilydd i fodloni’r angen hwnnw, ac rydym wedi gweld ffordd o ddechrau gwireddu hynny.
