Polisi Preifatrwydd

Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn brosiect yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe ac mae’n gweithredu fel gwasanaeth gwybodaeth ar-lein sy’n darparu gwybodaeth am y gyfraith yng Nghymru a sut mae’n effeithio ar blant a phobl ifanc ac yn berthnasol iddynt. O 2022 ymlaen, bydd Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru hefyd yn darparu gwasanaethau cynghori cychwynnol i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.

Mewn amgylchiadau lle mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn gyfrifol am gasglu a phrosesu data personol, gan gynnwys data sydd wedi’i ddiffinio fel data sensitif gan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) (UE) 2016/679, Prifysgol Abertawe yw’r rheolydd data ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau cyfranogwyr yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.  Mae gan Brifysgol Abertawe Swyddog Diogelu data y gellir cysylltu ag ef drwy https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/amdanom-ni/cydymffurfiaeth/diogelu-data/

Rydym yn cymryd y gwaith o gasglu, storio a defnyddio data personol o ddifrif. Yn y ddogfen hon, fe welwch esboniad o pam rydym yn casglu data unigol ar gyfer Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, sut rydym yn ei brosesu a’r camau rydym yn eu cymryd i sicrhau diogelwch data ar bob cam.

Mae’r holl ddata a gesglir drwy Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn cael ei brosesu a’i gadw yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

 

Pa fath o wybodaeth ydyn ni’n ei chasglu?

Gwybodaeth Bersonol

Rydym yn casglu’r darnau canlynol o wybodaeth gan unigolion sydd â diddordeb ac sy’n cofrestru i dderbyn cylchlythyrau a gwybodaeth arall drwy e-bost o’n rhestr bostio:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Ym mha ystod oedran ydych chi’n perthyn (dan 18 oed; 18-25; dros 25)
  • Beth yw eich diddordeb yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant (fel person ifanc, fel rhiant/gofalwr, fel rhywun sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, fel gweithiwr proffesiynol cyfreithiol, neu fel rhywun sydd â diddordeb yn unig).

Rydym yn casglu’r darnau canlynol o wybodaeth gan y rheini sy’n gofyn am gyngor cychwynnol;

    • Teitl
    • Enw
    • Cyfeiriad
    • Manylion cyswllt
    • Ai ymholiad amdanoch chi eich hun neu rywun arall yw hwn?
    • Perthynas â’r person h.y. rhiant, gwarcheidwad ayb
    • Oed y plentyn

Beth yw’r broblem

 

Cwcis

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth gyffredinol am ymwelwyr â’n gwefan gan ddefnyddio cwcis. Nid yw’r wybodaeth hon yn nodi pwy ydych chi fel unigolyn. Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n eistedd ar eich porwr (cwcis dros dro) ac ar eich gyriant caled (cwcis parhaol) ac sy’n eich adnabod chi fel ‘defnyddiwr unigryw’. Rydyn ni’n defnyddio cwcis i olrhain ymweliadau â’r wefan, pa dudalennau mae ymwelwyr yn mynd iddynt, a pha mor hir maen nhw’n aros ar y wefan, ac ar dudalennau unigol. Nid yw cwcis yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch.

Bydd cwcis dros dro yn cael eu dileu’n awtomatig pan fyddwch chi’n gadael ein gwefan; bydd cwcis parhaol yn aros yn eu lle nes byddwch chi’n eu dileu neu pan fyddant yn dod i ben. Gallwch rwystro cwcis o Ganolfan Gyfreithiol y Plant drwy ddilyn y cyfarwyddiadau o’ch porwr gwe.

 

Gwefannau Trydydd Parti

Pan fyddwn yn cysylltu â gwefannau eraill, gan gynnwys Blackbaud a ddefnyddir gennym i brosesu rhoddion ariannol i Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, ni allwn warantu eu bod yn gweithredu’r un polisi preifatrwydd ag sydd gennym yng Nghanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, ac ni allwn gael ein dal yn gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau eraill. Os ydych chi’n poeni am breifatrwydd y wefan rydych chi’n ymweld â hi, edrychwch ar eu datganiad preifatrwydd.

 

Caniatâd

Nid ydym yn prosesu unrhyw ddata heb ganiatâd penodol. Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, gofynnir i chi roi eich caniatâd i dderbyn negeseuon e-bost gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant. Hefyd, pan fyddwch yn mynd i unrhyw sesiwn gynghori gychwynnol, gofynnir i chi lofnodi i roi eich caniatâd.

Mae gennych chi’r hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd a gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost at https://childrenslegalcentre.wales/cy/hafan/.

 

Pam rydym yn casglu data unigol a sut rydym yn ei ddefnyddio

Rydym yn casglu data am unigolion at ddibenion darparu gwybodaeth a chyngor cyfreithiol ac yn anfon cylchlythyrau perthnasol a phriodol ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bartïon sydd â diddordeb am waith Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru.

 

Sut mae data’n cael ei brosesu

Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn casglu enwau a chyfeiriadau e-bost drwy ymholiadau ar-lein ac ar e-bost. Mae’r data wedi’i ddiogelu gan gyfrinair a dim ond at ddibenion paratoi ac anfon gwybodaeth, cyngor a chylchlythyrau y gall aelodau awdurdodedig o staff gael gafael arno.

 

Am ba hyd fydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y byddwch yn dymuno aros ar ein rhestr bostio. Gallwch ddad-danysgrifio o’n rhestr bostio ar unrhyw adeg.

Pan fydd data personol yn cael ei gadw mewn perthynas ag achos cynghori cychwynnol, byddwn yn storio cofnodion cleientiaid sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol yn ddiogel am gyfnod o ddim llai na chwe blynedd ar ôl y dyddiad y caiff eich llythyr cyngor ei anfon, oni bai fod gofyniad penodol i ddinistrio’r wybodaeth cyn y cyfnod hwnnw, neu gadw’r wybodaeth yn hwy.

 

Rhannu eich data

Ni ddatgelir manylion cyswllt i unrhyw drydydd parti ac eithrio:

  • lle rydych chi wedi gofyn yn benodol i’r wybodaeth bersonol gael ei rhannu â thrydydd parti a enwir, neu wedi cydsynio i hynny;
  • lle mae’n ofynnol datgelu data personol yn ôl y gyfraith a lle nad yw datgelu o’r fath wedi’i warchod gan fraint gyfreithiol broffesiynol ac nad oes angen cael caniatâd yn gyntaf;
  • lle bo partïon yn cynnal archwiliadau neu wiriadau ansawdd ar ein hymarfer. Mae’n ofynnol i’r partïon hyn gadw cyfrinachedd mewn perthynas â’ch achos;
  • os yw’n ofynnol gan ein rheoleiddwyr, yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr neu Fwrdd Safonau’r Bar;

lle bo’n ofynnol o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002 sy’n gosod dyletswydd ar gyfreithwyr i roi gwybod i’r awdurdodau am wybodaeth benodol, lle mae’n ymddangos, er enghraifft, fod rhai asedau yn eich achos chi wedi deillio o drosedd. Os bydd yn rhaid inni wneud adroddiad, efallai na fyddwn yn gallu dweud wrthych ein bod wedi gwneud hynny.

Diogelwch eich gwybodaeth

Mae deddfwriaeth diogelu data yn mynnu ein bod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y bydd eich cyfrinachedd yn cael ei barchu, ac y bydd pob cam priodol yn cael ei gymryd i atal mynediad a datgelu heb awdurdod. Dim ond aelodau o staff sydd angen mynediad at rannau perthnasol neu’r holl wybodaeth sydd gennych chi fydd yn cael eu hawdurdodi i wneud hynny. Bydd gwybodaeth amdanoch chi ar ffurf electronig yn amodol ar gyfrinair a chyfyngiadau diogelwch eraill.

Efallai y bydd rhywfaint o waith prosesu’n cael ei wneud ar ran y Brifysgol gan sefydliad sydd wedi’i gontractio at y diben hwnnw. Bydd sefydliadau sy’n prosesu data personol ar ran y Brifysgol yn rhwym wrth rwymedigaeth i brosesu data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Hawl mynediad

Mae gennych chi hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Os ydych chi eisiau adolygu, gwirio, cywiro neu wneud cais i ddileu eich gwybodaeth bersonol, gwrthwynebu prosesu eich data personol, neu ofyn i ni drosglwyddo copi o’ch gwybodaeth bersonol i barti arall, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data yn dataprotection@swansea.ac.uk

Ble i Fynd os Ydych Chi Eisiau Rhagor o Wybodaeth am Eich Hawliau neu i wneud Cwyn

Mae Canllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn rheoleiddio materion preifatrwydd a diogelu data yn y DU. Maent yn sicrhau bod llawer o wybodaeth ar gael ar eu gwefan ac maent yn sicrhau bod manylion cofrestredig pob rheolydd data fel ni ar gael yn gyhoeddus.

Gallwch gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth unrhyw bryd am y ffordd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth. Fodd bynnag, gobeithiwn y byddech yn ystyried codi unrhyw fater neu gŵyn sydd gennych gyda ni yn gyntaf. Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau glas i ddatrys unrhyw broblemau sydd gennych.

 

Wedi’i greu: Mehefin 2022