Tlodi Bwyd Plant

Yr Hawl i Fwyd

Mae gan bawb yr hawl i gael digon o fwyd, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Mae hwn yn hawl ddynol a warantir gan Erthygl 11 o’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol ac yn hawl a warantir i blant gan Erthygl 27 o’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn . Dylech chi (os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun), neu dylai eich teulu allu cael gafael ar fwyd a chael digon o arian i brynu digon o fwyd.[1]

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gwarantu bod gan blant yr hawl i fwyd digonol, fel y gallant ddatblygu yn y ffordd orau bosibl. Dylai’r llywodraeth sicrhau eich bod chi (os ydych yn byw ar eich pen eich hun) neu eich teulu yn gallu fforddio prynu bwyd fel nad ydych yn llwgu.

Dylai bwyd fod yn fforddiadwy i bawb. Os ydych yn byw ar eich pen eich hun, dylech allu cael deiet digonol – un sy’n diwallu eich anghenion maethol – heb effeithio ar eich anghenion sylfaenol eraill fel, er enghraifft, talu rhent, neu dalu am deithio i’r gwaith, neu brynu meddyginiaethau os oes eu hangen arnoch. Os ydych yn byw gyda’ch teulu, dylai eich teulu allu fforddio bwyd digonol heb effeithio ar allu eich rhieni neu ofalwyr i dalu treuliau angenrheidiol eraill y cartref.

Mae’r hawl i fwyd yn bwysig i hawliau eraill, fel yr hawl i iechyd. Mae hefyd yn bwysig iawn i’r hawl i addysg. Os ydych chi’n llwglyd, gallai hyn ei gwneud hi’n anodd i chi ganolbwyntio mewn gwersi.

 

[1] Y Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol – Sylw Cyffredinol rhif 12, Hawl i Fwyd

Sut alla i gael gwybod mwy am yr hawl i fwyd?

Mae gwahanol leoedd y gallwch gael gwybod am yr hawl i fwyd.

Mae Siarter Plant Hawl i Fwyd  gan y Sefydliad Bwyd yn nodi sut y gellir sicrhau eich hawl i fwyd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawl i fwyd yn y DU yma:

https://www.childrensright2food.co.uk/

Darllenwch y Siarter wrth gwasgu ar y llun uchod (PDF)

Tlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd

Mae gan y llywodraeth gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hawl i fwyd yn cael ei chyflawni. Mae hyn yn cynnwys Llywodraeth Cymru yma yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn digwydd yn ymarferol.

Ledled y DU, mae mwy a mwy o bobl yn cael eu gwthio i’r hyn a elwir yn ‘dlodi bwyd’ neu’n ‘ansicrwydd bwyd’, sy’n golygu na allant fforddio prynu bwyd. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc, a theuluoedd â phlant. Mae hyn yn golygu nad oes digon o fwyd fforddiadwy, maethlon ar gael i lawer o bobl ifanc, plant na’u teuluoedd.

Mae pandemig Covid-19 wedi gwneud pethau’n waeth. Canfu arolwg  gan y Sefydliad Bwyd fod 14% o deuluoedd y DU sydd â phlant wedi profi ansicrwydd bwyd ers mis Mawrth 2020.

Dylech gael mynediad at fwyd, p’un a ydych yn byw ar eich pen eich hun neu gyda’ch teulu a dylech chi neu’ch rhieni/gofalwyr allu fforddio bwyd a gallu diwallu anghenion sylfaenol eraill fel gwresogi eich cartref.

Nid yw hyn yn wir am lawer o deuluoedd yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid yw llawer o blant a phobl ifanc yn cael eu hawl i gael bwyd. Mae pethau fel ‘mesurau llymder’ (polisïau’r llywodraeth i dorri gwariant cyhoeddus), diwygio lles (newidiadau llywodraeth y DU i gymorth lles i’r tlotaf mewn cymdeithas), cyflogau isel ac amodau gwaith ansicr wedi gwthio mwy a mwy o bobl i dlodi bwyd yn y DU.

 

Fayeth – Rhieni’n ddi-waith

Mae teuluoedd ar incwm isel ac sy’n cael budd-daliadau, mewn perygl arbennig o ddisgyn i grafangau tlodi bwyd neu ansicrwydd bwyd. Gall pobl anabl fod yn arbennig o agored i ansicrwydd bwyd.

 

Mae’r defnydd o fanciau bwyd wedi cynyddu’n aruthrol ers 2012. Sefydliadau elusennol yw banciau bwyd sy’n darparu bwyd, ac weithiau cyflenwadau hylendid ac ymolchi sylfaenol eraill, i bobl mewn angen yn rhad ac am ddim. Teuluoedd â phlant yw dros hanner y rhai sy’n defnyddio banciau bwyd.[1]

Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n un o’r sefydliadau sy’n rhedeg banciau bwyd a pharseli:

  • Mae 1 o bob 6 o bobl sy’n cael eu cyfeirio at fanciau bwyd mewn gwaith.
  • Bu cynnydd o 5,146 y cant yn y parseli bwyd i rai mewn argyfwng a ddosbarthwyd rhwng 2008 a 2018.
  • Rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020, dosbarthwyd 70,393 o becynnau bwyd i rai mewn argyfwng yn ystod y pandemig.

 

[1] Sefydliad Ymchwil Economi Wleidyddol Sheffield

Beth ddylai Llywodraeth Cymru ei wneud am dlodi bwyd?

Yng Nghymru, mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi’i wneud yn rhan o gyfraith Cymru (nid yw hyn yn wir am y DU gyfan).

Yn 2011 pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a elwir bellach yn ‘Senedd Cymru’ neu’n ‘Senedd’) gyfraith o’r enw Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru). Cyfeirir ato’n aml fel ‘y Mesur’. Mae hon yn gyfraith bwysig sy’n cyflwyno rhywbeth a elwir yn ddyletswydd ‘sylw dyledus’.

Mae’r ddyletswydd ‘sylw dyledus’ yn golygu bod yn rhaid i Weinidogion yn Llywodraeth Cymru feddwl am hawliau plant pan fyddant yn datblygu unrhyw gyfreithiau neu bolisïau ar gyfer Cymru. Pryd bynnag y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynnig ar gyfer cyfraith i Senedd Cymru ei chymeradwyo, neu pan fydd am gyflwyno polisi newydd a fydd yn effeithio ar blant, rhaid iddi gynnal rhywbeth o’r enw Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant (CRIA). Bydd yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yn egluro a fydd y gyfraith newydd yn effeithio ar hawliau plant, ac ym mha ffyrdd. Un o’r materion y bydd angen i Weinidogion feddwl amdano pan fyddant yn paratoi Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yw sut y bydd unrhyw gyfraith neu bolisi newydd yn effeithio ar yr hawl i fwyd. 

Beth sy’n cael ei wneud i helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd?

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Prydau Ysgol am Ddim

Fayeth – Stigma Prydau Ysgol am Ddim

Os ydych chi yn yr ysgol amser llawn, gan gynnwys y chweched dosbarth, a’ch bod yn derbyn taliadau nawdd cymdeithasol, neu os yw eich rhieni neu ofalwyr yn eu derbyn ar eich rhan, efallai y bydd gennych hawl i gael pryd ysgol am ddim.

Gallwch chi, neu eich rhieni neu ofalwyr, wneud cais am brydau ysgol am ddim. Gall perthynas neu weithiwr cymorth neu rywun o’r Cyngor ar Bopeth hefyd wneud cais ar eich rhan. Gellir gwneud hyn drwy gasglu ffurflen o’ch ysgol neu siarad â’ch cyngor lleol. Dylai rhif cyswllt ar gyfer eich cyngor lleol fod ar gael ar wefan y cyngor, neu gallwch gael hwn gan y Cyngor ar Bopeth.

Dylai eich ysgol sicrhau bod ganddi ddigon o ffurflenni, a staff sydd ar gael sy’n deall y cynnydd fel y gallant eich helpu chi neu’ch rhiant/gofalwr i wneud cais am brydau ysgol am ddim.

Efallai y bydd eich cyngor lleol yn cysylltu â’ch rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr i ofyn a ydynt am wneud cais am brydau ysgol am ddim i chi.

Os ydych chi’n mynd i’r ysgol yng Nghymru ac yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, dylech gael cinio yn ystod gwyliau’r ysgol hyd at y Pasg 2021.

Yn ystod y pandemig, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion ddarparu cinio i ddisgyblion sydd fel arfer yn cael prydau ysgol am ddim.

Gall eich ysgol neu’ch cyngor lleol roi talebau i chi neu’ch teulu ar gyfer archfarchnadoedd lleol, rhoi’r arian i’ch rhiant neu warcheidwad i brynu eich cinio, neu drefnu i barseli bwyd gael eu danfon i’ch cartref. Dylai’r bwyd a ddarperir fod mor iach a maethlon â phosibl.  Gwerth y talebau bwyd yw £3.90 y plentyn, y dydd, neu gellir gwneud taliadau uniongyrchol o £19.50 fel y gall teuluoedd brynu bwyd eu hunain.

I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar: Canllawiau diwygiedig ar gyfer ysgolion Cymru: helpu plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim

 

Pa ddull y mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi’i gymryd:

Awdurdod Lleol Dull
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Taliadau banc
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Parsel bwyd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Parsel bwyd
Cyngor Sir Caerfyrddin  
Cyngor Sir Ceredigion Cynllun talebau neu daliadau banc
Dinas a Sir Abertawe Taliadau banc neu barsel bwyd
Cyngor Dinas Caerdydd Cynllun e-dalebau a thaliadau banc
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Taliadau banc
Cyngor Sir Ddinbych Taliadau banc
Cyngor Sir y Fflint Taliadau banc
Cyngor Gwynedd Taliadau banc
Cyngor Sir Ynys Môn Taliadau banc
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Parsel bwyd
Cyngor Sir Fynwy  
Cyngor Castell-nedd Port Talbot Taliadau banc
Cyngor Dinas Casnewydd Cynllun talebau
Cyngor Sir Penfro Taliadau banc
Cyngor Sir Powys Taliad banc a chynllun talebau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Taliadau banc
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Taliadau banc
Cyngor Bro Morgannwg Cynllun talebau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam  

 

Y Cynllun Brecwast am Ddim

Os ydych chi’n mynd i’r ysgol gynradd yng Nghymru a gynhelir gan awdurdod lleol, dylai brecwast fod ar gael yn rhad ac am ddim yn yr ysgol. Yn ôl Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, dylid darparu’r brecwast cyn dechrau’r diwrnod ysgol fel bod gennych chi ddigon o amser i ddewis eich brecwast, ei fwyta heb ruthro ac yna dechrau eich gweithgareddau ysgol arferol.

Dylai eich rhiant neu warcheidwad ofyn i’r ysgol  am frecwast am ddim fel y gallwch ei dderbyn.

Rhaglen Cychwyn Iach

Os ydych chi’n feichiog ac o dan 18 oed, gallwch fod yn gymwys ar gyfer rhaglen Cychwyn Iach Llywodraeth Cymru hyd yn oed os nad ydych yn derbyn unrhyw gymorthdaliadau eraill. Mae’r rhaglen Cychwyn Iach yn darparu talebau i helpu i brynu bwyd.

Os yw eich mam yn feichiog neu os oes ganddi blentyn o dan bedair oed, a bod eich teulu’n cael cymhorthdal incwm, credyd cynhwysol, credyd treth plant neu gymorthdaliadau eraill, mae’n bosibl cael talebau am ddim bob wythnos i’w gwario ar laeth, ffrwythau a llysiau ffres, sych a rhai mewn tun, a llaeth fformiwla babanod. Gallwch hefyd gael fitaminau am ddim.

Gallwch wneud cais ar-lein yma:

Neu, e-bostiwch y ffurflen gais

Gallwch ddefnyddio’r talebau Cychwyn Iach mewn unrhyw siop gofrestredig fel archfarchnadoedd, siopau cornel a fferyllfeydd. Dewch o hyd i siop gofrestredig yn eich ardal chi:

Darpariaeth Gwyliau

Mae clybiau gwyliau ar gael mewn gwahanol ardaloedd lleol sy’n darparu bwyd, gweithgareddau hwyliog a chymorth i deuluoedd. Caiff rhai o’r rhain eu darparu gan fanciau bwyd, megis banc bwyd Blaenau Gwent.

Yn ystod gwyliau’r ysgol, pan nad yw Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd a Phrydau Ysgol am Ddim ar gael, mae rhai teuluoedd yn ei chael hi’n anodd fforddio neu gael gafael ar fwyd sy’n darparu deiet iach. Efallai y bydd plant yn teimlo’n ynysig neu heb fynediad at wahanol weithgareddau.

Mae’r-’ ‘Rhaglen Bwyd a Hwyl  Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP)’  yn darparu addysg bwyd a maeth, gweithgarwch corfforol, gwersi cyfoethogi a phrydau iach i blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn ystod gwyliau haf yr ysgol. Efallai y bydd y rhain ar gael yn eich ysgol.

Banciau Bwyd

Ymddiriedolaeth Trussell

Mae Ymddiriedolaeth Trussell yn rhedeg banciau bwyd ledled y DU. Rhaid i bobl sydd am ddefnyddio banc bwyd gael eu hatgyfeirio gan weithiwr proffesiynol neu sefydliad fel canolfannau plant, cymdeithasau tai, gweithwyr iechyd a chymdeithasol, a Chyngor ar Bopeth.

Bydd pobl sy’n cael eu hatgyfeirio yn cael taleb bwyd y gellir ei chyfnewid yn eu banc bwyd agosaf am barsel bwyd i rai mewn argyfwng. Rhaid i’r rhain gynnwys o leiaf dri diwrnod o fwyd sy’n gytbwys o ran maeth.

I gael atgyfeiriad, gallwch chi neu’ch rhiant ffonio Cyngor ar Bopeth am gymorth ar 0808 2082138. Mae’n gyfrinachol, yn rhad ac am ddim ac ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm. Gallwch hefyd siarad â’ch Cyngor ar Bopeth lleol –  chwiliwch am eich cyngor ar bopeth lleol.

Gallwch chi neu’ch rhiant gysylltu â’ch banc bwyd agosaf hefyd. Gallant egluro sut i gael taleb. Dod o hyd i fanc bwyd yn eich ardal chi.

Efallai y bydd y cyngor lleol yn gallu dweud wrthych chi neu’ch rhiant sut i gael atgyfeiriad i fanc bwyd.  Dod o hyd i’ch awdurdod lleol.

Banciau bwyd annibynnol

Mae’r rhain yn bodoli ledled Cymru mewn mannau fel canolfannau cymunedol a mannau addoli crefyddol, ac nid oes angen atgyfeiriadau arnynt bob amser. Defnyddiwch y map hwn i ddod o hyd i fanc bwyd annibynnol yn eich ardal.

Cymorth i gymunedau BAME

Gall Llinell Gymorth BAME Cymru – EYST gynnig cyngor a’ch cyfeirio at sefydliadau a gwasanaethau perthnasol a darparu gwybodaeth mewn amrywiaeth o ieithoedd cymunedol ynghylch defnyddio banciau bwyd neu gymorth arall i’r rhai o gymunedau Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig sy’n profi tlodi bwyd, gan gynnwys Arabeg, Bengali, Mandarin, Hindi ac Wrdw:

Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.30am – 2.30pm

Ffoniwch: 0300 2225720

Testun: 07537 432416

Cydlynwyr Ardal Leol

Os ydych yn byw yn Abertawe, efallai y byddwch chi a’ch teulu yn gallu siarad â Chydlynydd Ardal Leol pan fydd gennych broblem. Nid oes meini prawf cymhwysedd nac asesiad a gallant eich helpu i gael gafael ar gymorth a gwasanaethau. Gallwch gael rhagor o fanylion cyswllt yma.

“Roedd angen eitemau babanod ar un teulu, fel cewynnau, bwyd a llaeth yn ogystal ag eitemau glanhau ac eitemau cartref. Cysylltodd swyddog lles yr ysgol â Chydlynydd Ardal Leol am gymorth gan nad yw’r eitemau yma bob amser yn cael eu darparu mewn banciau bwyd. Roedd y gymuned yn gallu darparu nifer fawr o eitemau ac roedd archfarchnad hefyd yn helpu i ddarparu cynhyrchion glanhau a chynnyrch cartref”

Teuluoedd mewn tlodi bwyd – Covid -19 Hafod, Glandŵr, Plasmarl a Rhodfa’r Parc

Digwyddiad Tlodi Bwyd Plant yng Nghymru

Fel rhan o’n prosiect ar dlodi bwyd plant, ar 19 Mai 2021, cynhaliodd Canolfan Gyfreithiol y Plant yng Nghymru ddigwyddiad ar-lein i hyrwyddo ymwybyddiaeth a thrafodaeth ar sut i fynd i’r afael â’r mater hwn.

Siaradwyr:

Professor Simon Hoffman, Observatory on the Human Rights of Children

Katie Palmer, Food Sense Wales

Beth Rhodes, Young Food Ambassador for the Children’s Right 2 Food Campaign

Ellie Harwood, Child Poverty Action Group

 

Y Prif Bwyntiau:

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Gwella sut rydym yn mesur effaith a chynnydd
  • Mae angen cynllun cyflawni clir a strategaeth gyffredinol i fynd i’r afael â thlodi bwyd plant yng Nghymru.
  • Symud at ddull sy’n seiliedig ar dargedau ac sy’n unol â hawliau.
  • Sefydlu dangosyddion cynnydd manylach sy’n ystyried lleisiau plant ac sy’n gallu cofnodi profiadau go iawn.
Dod â phlant yn rhan o drafodaethau a gwneud penderfyniadau
  • Y ffordd orau o ddeall y materion sy’n ymwneud â thlodi bwyd plant yw siarad â phlant a phobl ifanc.
  • Mae’r materion yn gymhleth iawn a dylai’r ymatebion ddechrau o safbwynt y plentyn.
  • Dylai plant a phobl ifanc fod yn rhan o faterion sy’n effeithio arnynt gyda chanlyniadau pendant yn deillio o’u cyfranogiad, a all fod yn allweddol o ran ymgysylltu ystyrlon.
  • Mae ymgysylltu effeithiol yn gostus ac yn ddwys o ran llafur, ac mae angen adnoddau penodol ychwanegol.
  • Gweithio gyda Senedd yr Ifanc.
Ystyried hawliau plant mewn penderfyniadau polisi
  • Mae polisi’n galw am wneud penderfyniadau ar draws sectorau.
  • Dim ond rhan o’r darlun o ran lleihau tlodi yw darpariaeth mewn ysgolion.
  • Mae’n bosibl na fydd Gweinidogion yn sylweddoli sut mae tlodi bwyd plant yn berthnasol i’w gwaith.
  • Dylid cael gweinidog gyda thlodi bwyd plant yn ei bortffolio.
  • Dylid defnyddio asesiadau effaith i gyflwyno’r broses o feddwl am fynd i’r afael â thlodi bwyd plant i’r broses o wneud penderfyniadau polisi.
  • Dylid mynd i’r afael â thlodi bwyd plant fel rhan o’r gwaith o bennu amcanion ar gyfer gwaith o dan ddeddfwriaeth Cenedlaethau’r Dyfodol?
  • Mae angen gwneud cysylltiad clir rhwng bwyd a’r agenda newid yn yr hinsawdd/amgylcheddol
Prydau ysgol am ddim
  • Mae llawer o blant yn profi tlodi ond nid ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
  • Dylid cynyddu’r sgôp ar gyfer bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
  • Mae stigma’n dal i fodoli ynghylch prydau ysgol am ddim.
  • Dylai plant a phobl ifanc sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim allu dewis o’r un fwydlen â’u cyfoedion, bwyta cinio yn yr un mannau â’u cyfoedion sy’n dod â phecyn bwyd gyda nhw, a chael dewis ynghylch sut a phryd i wario lwfans prydau bwyd.
  • Dylai plant deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u grymuso: byddai camau fel y rhai uchod yn helpu i sicrhau urddas plant a phobl ifanc.
Incwm Sylfaenol Cyffredinol
  • Bydd yn ddiddorol gweld sut mae Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn cyfrannu at fynd i’r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd.
  • Prin yw’r dystiolaeth bod Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn helpu i leihau tlodi mor effeithiol â gwella mynediad at hawliau nawdd cymdeithasol presennol, er enghraifft.
  • Mae gan ddull gweithredu cyffredinol fel Incwm Sylfaenol Cyffredinol y potensial i waethygu anghydraddoldeb ac anfantais i bobl sydd ag anghenion gwahanol.