*Sylwer bod y rhan hon o’r wefan yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd*
Rhan o’n rôl yw craffu ar gynigion gan Lywodraethau Cymru a’r DU ac ymgynghoriadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac ymateb i ymgynghoriadau lle’r ydym yn teimlo bod hawliau plant yn fater o bwys. Nid ydym yn ymateb i bob ymgynghoriad sy’n effeithio ar blant, ond lle mae gennym dystiolaeth neu ddealltwriaeth arbennig i’w cynnig ar sail ein gwaith, byddwn yn gwneud hynny.