Mae gan Arsyllfa a Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru gysylltiadau ag ymchwilwyr ac ymgyrchwyr hawliau plant mewn nifer o wledydd ar draws y byd, gan gynnwys UDA. Yr haf hwn, cafodd ein gwaith ei gynrychioli mewn cynhadledd ryngwladol fawr a gynhaliwyd ar-lein ac ar draws parthau amser dros 3 diwrnod 22 – 24 Mehefin 2022. Cafodd y gynhadledd ei threfnu a’i chynnal gan un o gydweithwyr yr Arsyllfa yr Athro Yvonne Vissing, Prifysgol Talaith Salem, ac roedd wedi croesawu pobl o amrywiaeth o ddisgyblaethau a chefndiroedd i gyfnewid profiadau, canfyddiadau ymchwil a safbwyntiau sy’n berthnasol i hawliau plant yn UDA.

Mae’n hysbys iawn mai’r Unol Daleithiau yw’r unig wlad yn y byd i beidio â chadarnhau CCUHP, er bod yr Unol Daleithiau wedi cyfrannu’n helaeth at y gwaith o ddrafftio’r Confensiwn yn ystod y 10 mlynedd a dreuliwyd yn negodi’r Confensiwn rhwng 1979 a 1989. Heddiw, mae hi’n fwy annhebygol nag erioed y caiff ei gadarnhau, yn rhannol oherwydd gwrthwynebiad dwfn y rheini sydd o’r farn anghywir bod y Confensiwn yn fygythiad i rieni yn eu bywyd teuluol preifat.

Er hynny, ceir llawer o enghreifftiau o ymdrechion i ddefnyddio CCUHP ar lefelau llywodraethu ac ymgyrchu ar draws llywodraeth yr Unol Daleithiau. Roedd y gynhadledd yn trafod sut mae deddfwrfeydd taleithiau, awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol a grwpiau dan arweiniad pobl ifanc yn UDA yn mynd ati mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar hawliau plant i ddelio â materion fel newid hinsawdd, ymgysylltu democrataidd, rheoli gynnau, cam-drin plant, tlodi, digartrefedd, anghydraddoldebau ac addysg hawliau dynol.

Mae’r defnydd hwn o CCUHP mewn cyfraith a pholisi ar lefelau ‘Talaith is-genedl’ yn cyd-fynd yn gryf â’r hyn sydd wedi digwydd yn y Deyrnas Unedig, lle’r oedd Cymru yn gyntaf, ac yna’r Alban, wedi defnyddio pwerau llywodraethau datganoledig i integreiddio gofynion CCUHP yn gyflymach na Llywodraeth y DU. Cafodd profiadau Cymru a’r Alban eu rhannu yn y gynhadledd. Dangoswyd fideo am yr Arsyllfa, a gallwch nawr weld y fideo hwn ar dudalennau gwe’r Arsyllfa yma: https://www.swansea.ac.uk/cy/y-gyfraith/arsyllfa/amdanom-ni/

Rhywbeth a gynhyrchwyd drwy’r gynhadledd yw Llyfrgell Adnoddau, Rhwydweithio a Dysgu Hawliau Dynol Plant, gan gynnwys fideos a chyflwyniadau a rannwyd yn y gynhadledd a llawer mwy. Mae’n cynnwys llawer o ddeunyddiau addysgol, dolenni gwe ac awgrymiadau ar gyfer darllen. Bwriedir iddo fod yn adnodd byw ac mae’r Athro Vissing yn croesawu awgrymiadau ar gyfer rhagor o gyfraniadau.

 

Blog gan yr Athro Jane Williams