Rhybudd cynnwys: anhwylderau bwyta

Mae llyfrau’r awdur Jacqueline Wilson yn adnabyddus am fynd i’r afael â phynciau anodd, ac nid yw Girls Under Pressure yn wahanol.

Mae wedi’i ysgrifennu o safbwynt Ellie, merch yn ei harddegau sy’n brwydro cryn dipyn gyda’r ffordd mae’n edrych. Mae hi’n cymharu ei hun â’i ffrindiau gorau, Magda a Nadine. Mae Ellie’n meddwl eu bod yn llawer tlysach (ond yn bwysicach, yn llawer teneuach) na hi. Mae’r teimladau hyn yn peri i Ellie ddechrau ar ddeiet eithafol, sy’n cynnwys peidio â bwyta’r rhan fwyaf o’i phrydau ac weithiau’n gorfodi ei hun i fod yn sâl.

Mae Ellie hefyd yn dod ar draws Zoe, merch arall o’i hysgol sy’n dioddef o anhwylder bwyta. Mae Zoe yn ddifrifol anorecsig, sy’n golygu ei bod yn gorfod mynd i’r ysbyty yn y pen draw am ei bod wedi colli cymaint o bwysau.

Dydy anhwylderau bwyta, fel y rhai sy’n effeithio ar Ellie a Zoe, ddim mor anghyffredin ag yr hoffem feddwl. Amcangyfrifir bod 1.6 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef o’r math hwn o salwch, sy’n aml yn datblygu yn ystod cyfnod yr arddegau. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod cymorth ar gael i bobl sy’n cael trafferth gydag anhwylder bwyta, a bod yr hawl i gael y cymorth hwn yn cael ei diogelu gan y gyfraith.

Yr Hawl i Iechyd Gwasanaethau Iechyd

Mae hawl plentyn neu berson ifanc i gael gwasanaethau iechyd yn cael ei gydnabod yn glir mewn cyfraith ryngwladol.

Mae’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Diwylliannol a Chymdeithasol (ICECSR) yn nodi’r hawl i iechyd, sy’n cynnwys rhwymedigaeth ar lywodraethau i hyrwyddo system iechyd fel bod pawb yn gallu cael gafael ar gymorth meddygol os oes ei angen arnyn nhw. Mae Erthygl 24 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn datgan bod gan bob plentyn hawl i’r ‘iechyd gorau posibl’ a dylai’r llywodraeth gefnogi hyn drwy ddarparu gofal iechyd o ansawdd da.

Er bod llawer ohonom yn meddwl am ‘iechyd’ fel rhywbeth sy’n ymwneud yn bennaf â’n llesiant corfforol, mae’r hawl i iechyd hefyd yn ymestyn i ddiogelu llesiant meddyliol. Cydnabyddir yn glir gan Swyddfa Cenhedloedd Unedig yr Uchel Gomisiynydd dros Hawliau Dynol ‘nad oes iechyd heb iechyd meddwl’, a bod ‘iechyd meddwl da yn golygu llawer mwy na diffyg nam meddyliol’.

Mae hyn yn golygu, os ydych chi’n cael eich hun yn dioddef o anhwylder bwyta, bod gennych hawl gyfreithiol i allu cael help i’w drin. Mae Zoe yn cael y cymorth hwn drwy gael triniaeth yn yr ysbyty yn y pen draw, ond mae hon yn sefyllfa eithafol. Yn ymarferol, byddai hyn hefyd yn cynnwys mathau o driniaeth fel mynediad at feddyg teulu i drafod eich sefyllfa a therapi arbenigol neu gwnsela os oes angen.

Hawl i Driniaeth mewn Canolfan Gadw ac Adolygu Gofal

Mae’r ICECSR hefyd yn cwmpasu’r hawl i gael eich trin ag urddas tra byddwch mewn canolfan gadw. Mae hyn yn golygu, os yw unigolyn yn cael ei gadw i gael triniaeth fel y gellir ei drin am anhwylder bwyta (neu gyflwr iechyd meddwl arall), bod ganddo hawl i gael ei drin yn barchus.

Yn ogystal, mae Erthygl 25 CCUHP yn nodi’r hawl i adolygiad o driniaeth mewn gofal. Os yw plentyn wedi’i leoli oddi cartref i gael gofal neu amddiffyniad, mae ganddo hawl i gael ei driniaeth yn rheolaidd, yn ogystal â’r ffordd y mae’n derbyn gofal a’i amgylchiadau ehangach. Felly, os caiff unigolyn ei dderbyn i’r ysbyty i gael triniaeth, mae ganddo hawl i gael ei adolygu er mwyn sicrhau ei les a’i amddiffyniad ei hun.

Dy Hawliau

Fel y gwelwch, rhoddir ystyriaeth ddifrifol i hawliau cyfreithiol plant, hyd yn oed os ydyn nhw’n dioddef o anhwylder bwyta neu broblem iechyd meddwl arall, felly cofiwch ofyn am help i chi neu i rywun annwyl i chi os ydych chi’n meddwl bod angen hynny.

Ac os ydych chi’n awyddus i wybod mwy am y cymeriadau sy’n y llyfr, neu i gael sicrwydd bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn teimlo’n ansicr, byddwn yn argymell y gyfres Girls gan Jacqueline Wilson yn fawr iawn!

Gair am yr Awdur

Cynghorydd Cyfreithiol yw Rhiannon Smith sydd wedi graddio’n ddiweddar o Ysgol y Gyfraith Hilary Rodham Clinton Prifysgol Abertawe, Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn hawliau plant a chyfraith hawliau dynol yn fwy cyffredinol, ac mae’n gobeithio dilyn gyrfa yn y maes hwn.