Cyflwyniad
Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru yn datblygu dull gweithredu ar gyfer Cymru gyfan er mwyn grymuso pobl ifanc drwy addysg gyfreithiol am hawliau dynol. Mewn prosiect wedi’i ariannu gan Sefydliad Paul Hamlyn, mae Arweinydd Addysg ac Ymgysylltu Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, Rhian Howells, yn gweithio gyda phlant er mwyn cynllunio a threialu sesiynau rhyngweithiol i blant a phobl ifanc 11–17 oed. Bydd y prosiect yn gwneud cyfraniad hanfodol, gan gefnogi pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru sy’n rhagweld y bydd plant yn datblygu drwy eu haddysg fel:
- dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau;
- cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
- dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd;
- unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Y cam cyntaf, a gynhaliwyd gan Rhian yn ystod 2023 – 24, oedd gweithio gyda phlant sy’n agosáu at drosglwyddo i’r ysgol uwchradd er mwyn nodi materion y byddent yn hoffi dysgu rhagor amdanynt. Yr ail gam yw nodi pa adnoddau sydd ar gael yn barod am y materion hyn. Â chymorth Sarah Howe, myfyrwraig ail flwyddyn sy’n astudio’r gyfraith, yn cael ei chefnogi gan Raglen Interniaeth â Thâl Prifysgol Abertawe, mae’r cam hwn bellach wedi’i gwblhau. Mae’r canfyddiadau i’w gweld isod ym mlog Sarah.
Blog Sarah
Cynhaliodd Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru adolygiad yn ddiweddar o’r adnoddau addysg gyfreithiol sydd ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghymru a ledled y DU. Y diben oedd canfod pa adnoddau cyfreithiol sy’n bodoli’n barod a nodi unrhyw fylchau. Roedd y prosiect yn ymwneud â chasglu adnoddau ar bynciau amrywiol sy’n bwysig i blant yng Nghymru: troseddau cyllyll, fepio, secstio, iechyd meddwl, tlodi, perthnasoedd, perthnasoedd teuluol a hunaniaeth. Roedd yr adnoddau a ganfuwyd wedi’u paratoi gan sefydliadau amrywiol ac roeddent wedi’u targedu tuag at nifer o gynulleidfaoedd, gan gynnwys addysgwyr, rhieni a phlant. Yn ychwanegol at hyn, mae nifer o wahanol fathau o adnoddau, megis cynlluniau gwersi, blogiau a chanllawiau. Maent hefyd yn amrywio o ran y gwledydd y maent yn berthnasol iddynt, gan fod rhai’n berthnasol i’r DU yn gyffredinol, neu’n canolbwyntio ar Loegr neu’r Alban yn unig, ond mae 54% yn berthnasol i Gymru yn benodol. Yn gyffredinol, mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu trosolwg o’r adnoddau sydd ar gael a’r bylchau mewn meysydd penodol.
8 Prif Bwnc
Fel y nodwyd yn gynharach, roedd yr adnoddau a gasglwyd yn canolbwyntio ar 8 prif bwnc: troseddau cyllyll, fepio, secstio, iechyd meddwl, tlodi, perthnasoedd, perthnasoedd teuluol a hunaniaeth. Yn ystod gweithgaredd peilot â disgyblion Blwyddyn 6 ar gyfer y prosiect, trafododd ein Harweinydd Addysg ac Ymgysylltu, Rhian Howells, y materion pwysicaf i bobl ifanc ym marn y myfyrwyr. Cyfeiriodd bron bob un ohonynt at fepio, a chyfeiriodd nifer at arfau, iechyd meddwl a gwisg ysgol. Defnyddiodd Rhian y syniadau a gynhyrchwyd gan y myfyrwyr, a materion sy’n berthnasol i gyfraith plant, i greu pecyn o gardiau ‘Materion’. Yn ystod gweithgaredd ‘graddio diemwnt’ mewn grwpiau o 3 neu 4, dewisodd y plant eu naw prif fater o’r pecyn o gardiau, yna defnyddiwyd y rhain i benderfynu pa bynciau i ganolbwyntio arnynt yn ystod y prosiect. Drwy ganolbwyntio ar y pynciau hyn gellir sicrhau mai’r materion cyfreithiol sy’n bwysig i blant yw’r rhai sy’n cael eu trafod yn y dosbarth.
Diben yr adnoddau
Mae’r adnoddau a gasglwyd yn amrywio o ran y gynulleidfa a dargedwyd a’r math o adnodd. Mae’r casgliad yn caniatáu i addysgwyr, rhieni a phobl eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gael mynediad at wybodaeth a chynlluniau gwersi i gefnogi addysg gyfreithiol i bobl ifanc. Felly, yn hytrach na chwilio am adnoddau addysg gyfreithiol am fater brys ar y rhyngrwyd, mae’r casgliad yn darparu adnoddau hawdd cael gafael arnynt ar faterion cyfreithiol sy’n bwysig i blant a phobl ifanc.
Mae’r rhan fwyaf o’r adnoddau’n targedu addysgwyr, ond mae tua chwarter yr adnoddau’n targedu’r cyhoedd yn gyffredinol. Yn ogystal, os ydym yn cyfuno cynlluniau gwersi, pecynnau cymorth ac adnoddau addysgu, maent yn ffurfio bron i hanner y mathau o adnoddau a ganfuwyd yn ystod y gweithgaredd cwmpasu. Ar ben hyn, mae ychydig yn fwy na hanner yr adnoddau’n ymwneud yn benodol â Chymru, ond mae 30% yn ymwneud yn gyffredinol â’r DU. Er hyn, gall fod yn fuddiol i edrych ar adnoddau sy’n gymwys i Loegr a’r Alban, oherwydd gallent ddarparu syniadau ar gyfer cynlluniau gwersi, cyn belled eu bod yn cael eu haddasu i ddilyn cwricwlwm Cymru. Yn gyffredinol, bwriadwyd i’r adnoddau hyn helpu addysgwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc wrth addysgu plant ynglŷn â materion cyfreithiol sy’n bwysig iddynt hwy.
Bylchau yn yr adnoddau a symud ymlaen
Mae’r prosiect hwn wedi dangos pa adnoddau addysg gyfreithiol sydd ar gael yn barod i blant a phobl ifanc. O ganlyniad, mae hefyd wedi amlygu’r bylchau yn yr adnoddau sydd ar gael. Drwy edrych yn benodol ar y prif bynciau, gwelwyd bod mwy o adnoddau ar gael ar gyfer rhai na’i gilydd. Mae llawer o’r adnoddau sy’n bodoli’n barod yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a fepio, ond nid oes cynifer o adnoddau ar berthnasoedd teuluol neu hunaniaeth. Yn ychwanegol at hyn, mae rhai pynciau’n cynnig mwy o adnoddau addysgol na’i gilydd.
Er nad oedd llawer o adnoddau’n bodoli’n barod ar berthnasoedd teuluol neu hunaniaeth, roedd y mwyafrif helaeth o’r rhai a ganfuwyd wedi’u targedu tuag at addysgwyr gan eu bod yn cynnwys adnoddau addysgu a chynlluniau gwersi. Yn ogystal, roedd tua hanner yr adnoddau yn targedu Cymru yn benodol, ac roedd gweddill yr adnoddau’n targedu’r DU yn gyffredinol. Mae gan y ddau faes hyn sail gref o adnoddau ar gyfer addysgwyr.
Mae troseddau cyllyll yn cynrychioli 9% o’r adnoddau a ganfuwyd drwy’r gweithgaredd cwmpasu. Yn wahanol i bynciau perthnasoedd teuluol neu hunaniaeth, roedd amrywiaeth sylweddol o ran y math o adnodd a’r gynulleidfa a dargedwyd. Roedd y rhan fwyaf o’r adnoddau a ganfuwyd yn flogiau, yn cael eu dilyn gan gynlluniau gwersi, adroddiadau, canllawiau, erthyglau, a chasgliadau o adnoddau. Roedd hyn yn golygu, er bod y rhan fwyaf o’r adnoddau’n targedu addysgwyr, bod llawer hefyd yn targedu’r cyhoedd yn gyffredinol. Felly, gallai fod yn fuddiol yn y dyfodol i ddatblygu cynlluniau gwersi er mwyn addysgu pobl ifanc am y gyfraith sy’n ymwneud â throseddau cyllyll.
Y pwnc a oedd â’r nifer mwyaf o adnoddau a oedd yn berthnasol i Gymru, yn gymesur, oedd secstio, a hynny o bell ffordd. Yn ogystal, roedd y rhan fwyaf o’r adnoddau wedi’u targedu tuag at addysgwyr. Er hyn, roedd y mathau o adnoddau’n amrywio’n fawr, gan eu bod yn cynnwys rhywfaint o ganllawiau a chyfarwyddyd, yn ogystal â chynlluniau gwersi ac adnoddau addysgu. Gall yr amrywiaeth gynorthwyo addysgwyr wrth addysgu myfyrwyr am secstio, oherwydd gallant ddeall beth mae Llywodraeth Cymru wedi ei reoleiddio ar gyfer addysgu am y pwnc yn yr ystafell ddosbarth.
Mae amrywiaeth eang o adnoddau ar gael am dlodi, â llawer o adnoddau addysgu, adroddiadau a chanllawiau. Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf o’r adnoddau wedi’u targedu tuag at addysgwyr yng Nghymru. Mae’r adnoddau sydd ar gael yn barod yn darparu trosolwg cryf o reoliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar ymdrin â thlodi plant, yn ogystal â sut i addysgu am dlodi yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r adnoddau am berthnasoedd yn berthnasol i Gymru gan mwyaf ac yn targedu addysgwyr. Adnoddau addysgu yw’r rhan fwyaf o’r adnoddau, ond mae llawer o daflenni a chanllawiau ar gael hefyd. Yn gyffredinol, mae’r adnoddau am y pwnc hwn yn trafod pob agwedd, ond gellid creu cynlluniau gwersi penodol er mwyn cynorthwyo addysgwyr yn y dyfodol.
Fepio oedd y pwnc â’r nifer lleiaf o adnoddau a oedd yn berthnasol i Gymru yn benodol, ac roedd y rhan fwyaf o’r adnoddau’n berthnasol i Loegr. Er hyn, roedd y rhan fwyaf o’r adnoddau’n targedu addysgwyr, ac yn cynnwys cynlluniau gwersi, adnoddau addysgu a phecynnau cymorth. Mae’n bwysig sicrhau bod mwy o adnoddau’n berthnasol i Gymru yn y dyfodol fel bod modd eu defnyddio mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru.
Roedd llawer o adnoddau ar gael a oedd yn canolbwyntio ar iechyd meddwl. Roedd y rhan fwyaf yn berthnasol i Gymru a’r DU yn gyffredinol. Yn ogystal, roeddent yn targedu addysgwyr yn bennaf. Er hyn, casgliadau o adnoddau oedd y rhan fwyaf o’r adnoddau addysg iechyd meddwl, ac nid oeddent yn cynnwys cynlluniau gwersi. Byddai o gymorth yn y dyfodol pe gellid datblygu cynlluniau gwersi ar reoliadau iechyd meddwl yng Nghymru ar gyfer plant.
Bydd y trydydd cam, a chamau eraill ar ôl hynny, yn cynnwys datblygu adnoddau, treialu, gwerthuso a lledaenu gwybodaeth. Cadwch eich llygaid ar agor!
Hoffai CLCW fynegi ei gwerthfawrogiad i Sefydliad Paul Hamlyn, Prifysgol Abertawe, a Sarah ei hun. Mae gwaith Sarah wedi cynhyrchu cronfa ddata y gellir chwilota drwyddi, ac mae’n ein galluogi i nodi bylchau ac ymateb yn effeithiol i’r materion a godwyd gan y plant sydd o fewn cwmpas y prosiect.
Os hoffech wybod rhagor am y prosiect neu wneud sylwadau ynglŷn â’r canfyddiadau a nodir isod, cysylltwch â childrenslegalcentre@swansea.ac.uk