Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith aruthrol, yng Nghymru, yn y DU, yn Ewrop ac ar draws y byd. Bu farw bron i 1.5 miliwn o bobl yn Ewrop oherwydd Covid-19 er bod yr ymchwil yn cadarnhau bod y marwolaethau ymhlith plant yn brin.[1] Er nad oes gymaint o farwolaethau wedi bod ymhlith plant oherwydd y feirws, bu’n rhaid iddynt ddioddef llawer iawn o gyfyngiadau ar eu hawliau wrth i lywodraethau ar draws Ewrop gyflwyno cyfreithiau a pholisïau mewn ymateb i’r pandemig.

Fe wnaethom ymchwil i effaith Mesurau Brys Covid-19 ar hawliau plant ar gyfer Rhwydwaith Ewropeaidd yr Ombwdsmyn Plant (ENOC)[2] a chyflwyno ein canfyddiadau mewn adroddiad o’r enw: Mapping the Impact of Emergency Measures introduced in Response to the Covid-19 Pandemic on Children’s Rights in ENOC Member States’. Mesurau Brys yw’r cyfreithiau a’r polisïau a gyflwynwyd gan lywodraethau i geisio atal Covid-19 rhag lledaenu. Mae ein hadroddiad yn trafod tystiolaeth a gyflwynwyd i ni gan aelodau o ENOC sy’n dangos sut y cafodd y Mesurau Brys effaith negyddol ar hawliau plant. Atgyfnerthwyd hyn gan yr ymchwil a wnaed gan blant a phobl ifanc ar gyfer ENOC.[3]

Mae’r dystiolaeth gan aelodau o ENOC ar draws Ewrop yn dangos bod llawer o lywodraethau wedi methu ag ystyried hawliau plant wrth gyflwyno Mesurau Brys. Ni ddefnyddiwyd hawliau plant fel canllaw i wneud penderfyniadau gyda phlant a / neu gynghorwyr arbenigol plant wedi eu heithrio i raddau helaeth o benderfyniadau’n ymwneud â’r Mesurau Brys. Dim ond lleiafrif o lywodraethau a wnaeth Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant, proses sy’n cael ei hargymell gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i sicrhau bod cyfreithiau a pholisïau’n parchu, gwarchod a darparu hawliau plant. Un o’r canfyddiadau mwyaf pryderus o’n hymchwil yw bod Mesurau Brys yn fwy tebygol o effeithio’n ddifrifol neu o wahaniaethu yn erbyn plant sydd eisoes yn cael eu hystyried i fod yn ‘fregus’, yn enwedig plant ag anghenion dysgu ychwanegol, plant anabl, plant gyda salwch meddwl, plant gyda phroblemau iechyd meddwl ysgafn i ganolig, plant mewn gofal, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, plant rhieni wedi ysgaru neu wahanu, a phlant yn y system cyfiawnder troseddol.

Roedd hawl plant i gyfarfod a dod at ei gilydd mewn grwpiau wedi’i gyfyngu gan Fesurau Brys gan olygu mai dim ond ar-lein y gallai llawer o blant gwrdd. Lleisiodd aelodau o ENOC bryderon nad oedd preifatrwydd neu ddiogelwch ar-lein plant yn cael ei warchod mewn rhai gwledydd, ac am yr effaith negyddol ar iechyd meddwl rhai plant.

Un o’r pryderon mwyaf oedd y dystiolaeth gan aelodau o ENOC yn awgrymu bod plant ar draws Ewrop yn wynebu mwy o risg o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso a’u hecsbloetio’n rhywiol o ganlyniad i’r Mesurau Brys. Clywsom mai’r rhesymau am hyn oedd bod llywodraethau’n cael trafferth cynnal gwasanaethau i adnabod ac amddiffyn plant sy’n cael eu cam-drin yn y cartref. Gyda’r rhan fwyaf o ysgolion wedi cau, nid oedd gan blant y lloches ddiogel i ddianc iddi, na’r un cyfle ychwaith i ofyn am help.

Dengys ein hymchwil hefyd fod y Mesurau Brys wedi methu â rhoi cymorth i rieni / gofalwyr a gwasanaethau gofal plant pan oedd y pandemig ar ei waethaf ac nad oedd rhai plant wedi gallu cael cyswllt â’r ddau riant os oeddent wedi ysgaru neu wahanu, neu gyda rhieni / gofalwyr oedd yn y carchar, neu mewn gwlad arall.

Mae’r dystiolaeth a welsom hefyd yn codi pryderon difrifol bod y Mesurau Brys wedi cael effaith negyddol ar iechyd a lles rhai plant, yn enwedig ar iechyd meddwl plant; iechyd corfforol plant, ac ar gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd yn gyffredinol; a diogelwch bwyd. Cyfeiriwyd at iechyd meddwl plant fel un o’r pryderon mwyaf oherwydd y cyfyngiadau ar symud o gwmpas, cael eu cyfyngu i’r cartref, methu â mynd i’r ysgol a gyda llai o gyfle i chwarae a chwrdd â ffrindiau. Cawsom hefyd fod y Mesurau Brys wedi effeithio’n andwyol ar hawl plant i addysg, chwarae a hamdden, gyda llai o fynediad at addysg ar bob lefel. Ac er bod rhai plant wedi gallu cael mynediad at ddysgu ar-lein, nid oedd pob llywodraeth yn gwbl barod i gefnogi hyn ar ddechrau’r pandemig. Daeth ‘bwlch digidol’ yn broblem oherwydd bod llawer o blant yn methu â chael mynediad at ddysgu ar-lein am wahanol resymau.

Mae materion eraill yn ein hadroddiad yn ymwneud ag effaith negyddol y Mesurau Brys ar wasanaethau i helpu plant i wella o gam-drin corfforol neu seicolegol, neu drawma; ar yr eu hawl i gael treial teg oherwydd yr oedi gydag achosion llys yn y system cyfiawnder ieuenctid; ac ar blant mewn sefydliadau a gollodd eu rhyddid heb reswm da.

Ar y cyfan dengys ein hymchwil fod y Mesurau Brys wedi eu cyflwyno gan lawer o lywodraethau Ewropeaidd heb barch iawn i blant na hawliau plant. Roedd llywodraethau ar draws Ewrop wedi ymateb yn bennaf i’r pandemig mewn ffyrdd a gafodd effaith negyddol ar hawliau plant.

Os ydych eisiau darllen mwy am ein hymchwil, mae crynodeb ar gael neu gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma: http://enoc.eu/wp-content/uploads/2021/10/Synthesis-Report-COVID-19-learning-for-the-future.pdf

Gallwch hefyd ddarllen ‘Datganiad Sefyllfa 2021’ ENOC yma: http://enoc.eu/?p=4262

Mae’r Datganiad Sefyllfa’n egluro pa gamau ym marn aelodau o ENOC y dylid eu cymryd i warchod hawliau plant os bydd llywodraethau yn Ewrop yn penderfynu gweithredu i ddelio â phandemig neu argyfwng cyhoeddus arall yn y dyfodol.

[1] Traciwr Covid-19 Byd-Eang Reuteurs, https://graphics.reuters.com/world-coronavirus-tracker-and-maps/. Bhopal S, Bagaria J, Olabi B, Bhopal R., ‘Children and young people remain at low risk of COVID-19 mortality’, Lancet Child Adolescent Health 2021; http://dx.doi.org/10.1016/S2352-4642(21)00066-3.

[2] ENOC http://enoc.eu

[3] ENYA Recommendations: Let’s Talk Young, Let ‘s Talk about the impact of COVID-19 on Children’s Rights (September 2021) http://enoc.eu/wp-content/uploads/2021/10/ENYA-Report-2021-COVID-19-learning-for-the-future.pdf