Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreitha Strategol ac Eiriol Polisi ym maes Hawliau Plant, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru ac Aelod o Grŵp Monitro CCUHP Cymru
Pan fydd Gwladwriaeth, fel y DU, yn llofnodi ac yna’n cadarnhau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), mae’n ysgwyddo rhwymedigaethau dan gyfraith ryngwladol i weithredu’r hawliau y mae CCUHP yn eu gwarantu i blant (dan 18 oed), ac i sefydlu strwythurau a mecanweithiau effeithiol i weithredu’r hawliau hynny. Mae gweithredu’n golygu ei bod yn ofynnol i Wladwriaethau gymryd camau gwahanol i sicrhau bod yr holl hawliau yn CCUHP yn cael eu gwireddu ar gyfer pob plentyn yn eu hawdurdodaeth, neu mewn geiriau eraill, i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael eu hawliau wedi’u gwarantu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (gweler erthygl 4 o CCUHP). Cyfeirir at y camau hyn fel Mesurau Gweithredu Cyffredinol CCUHP. Ceir ystod eang o fesurau, gan gynnwys ymgorffori CCUHP yn llawn mewn cyfraith ddomestig, datblygu strwythurau arbennig ar gyfer monitro, cydlynu, hyfforddi ac ati a sicrhau bod hawliau plant yn cael eu hintegreiddio i bob penderfyniad gan y llywodraeth, y senedd a’r farnwriaeth.
Mae Sylwadau Cyffredinol Rhif 5 y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn yn esbonio’r Mesurau Gweithredu Cyffredinol. Yn ddiweddar, cyflwynais y Mesurau hyn ar ran Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn y Weminar Sefyllfa Hawliau Plant. [i] Mae’r blog hwn yn canolbwyntio ar myfyrdodau mewn perthynas â Mesurau Gweithredu Cyffredinol yng nghyd-destun Cymru.
Ymgorffori CCUHP yn anuniongyrchol a newid deddfwriaethol ar hawliau plant yng Nghymru
Mae’n bwysig cydnabod bod Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU o ran ymgorffori CCUHP, o fewn terfynau’r pwerau a roddir i’r Senedd (Senedd Cymru) drwy ddatganoli. Cyflawnwyd hyn drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. (‘Mesur Hawliau’) sy’n gosod dyletswydd gyfreithiol ar holl Weinidogion Llywodraeth Cymru i roi sylw dyledus i CCUHP yn eu holl swyddogaethau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd, fel rhan o’i ‘Chynllun Plant’ wedi ymrwymo i gynnal asesiadau o’r effaith ar hawliau plant yng nghyswllt pob polisi a deddfwriaeth arfaethedig.
Rydym hefyd wedi gweld y ddyletswydd i roi sylw dyledus i CCUHP, a gyflwynwyd mewn deddfwriaeth sectoraidd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, Addysg a’r Tribiwnlys (Cymru) 2018, sydd wedi cyflwyno sylw dyledus i ddyletswydd CCUHP, ar wneuthurwyr penderfyniadau sy’n gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol ac addysg anghenion dysgu ychwanegol. Mae deddfwriaeth Cymru hefyd yn gosod dyletswydd ar gyrff llywodraethu a phenaethiaid i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o CCUHP a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau drwy Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Croesewir yn fawr hefyd, ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu ymroddedig, fod deddfwriaeth Cymru wedi dileu’r amddiffyniad o ‘gosb resymol’ sy’n caniatáu i rieni a gofalwyr eraill gyflawni ymosodiad cyffredin ar blant dan gochl cosb. Mae’r rhain i gyd yn llwyddiannau amlwg o ran hyrwyddo hawliau plant yn ein cenedl fach. Mae’r enillion hyn i’w dathlu ac maent yn dystiolaeth o wahaniaeth clir yn y dull gweithredu o ran hawliau plant rhwng y llywodraeth yng Nghymru, a Llywodraeth y DU.
Dull Llywodraeth y DU o ymdrin â hawliau dynol
Mae amrywiaeth mewn hawliau plant yn cael ei adlewyrchu yn y gwahanol ddulliau gweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, o ran hawliau dynol yn ehangach. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson wrth fynegi ei phryderon ynghylch cynnig Llywodraeth y DU i ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998 (HRA 1998). Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru, ochr yn ochr â sefydliadau hawliau plant eraill yn y DU, hefyd wedi bod yn chwyrn yn eu gwrthwynebiad i ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol. Gan gyfathrebu, ymhlith pryderon eraill, y bydd Bil Hawliau’r DU a gynigir gan Lywodraeth y DU yn tanseilio cyffredinolrwydd hawliau dynol ac yn gwanhau gallu pobl (gan gynnwys plant) i orfodi eu hawliau dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Rydym hefyd wedi gweld pryderon clir ynghylch atchweliad ar hawliau dynol a fynegwyd mewn perthynas â Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau’r DU 2022, a pharhad yr amgylchedd gelyniaethus tuag at geiswyr lloches. Roedd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu y darpariaethau niferus yn y Ddeddf Ffiniau, gan gydnabod eu bod wedi torri confensiynau rhyngwladol. Ceir pryder hefyd yn fewnol ac yn rhyngwladol ynghylch y cyhoeddiad diweddar am Fesur Mewnfudo Anghyfreithlon y DU y mae Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth y DU hyd yn oed yn cydnabod, ar wyneb y Bil, y bydd yn anghydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.[ii]
Hefyd, mae Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 wedi creu troseddau newydd ac wedi cryfhau pwerau arestio’r heddlu mewn ffyrdd sy’n mynd i’r afael â hawliau protest ac sy’n gwahaniaethu yn erbyn ffordd o fyw Sipsiwn a Theithwyr. Cafodd y darpariaethau hyn yn y ddeddfwriaeth eu gwrthwynebu gan Lywodraeth Cymru.
Ar ben hynny, o ran cyfiawnder ieuenctid, mae gwrthwynebiad parhaus i godi oedran cyfrifoldeb troseddol o, 10 oed, sef un o’r isaf yng Ngorllewin Ewrop. Yn gyffredinol, yn fy marn i, mae polisi Llywodraeth y DU yn mynd yn groes i hawliau dynol a hawliau plant yn gyson.
Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau dynol
Gwnaeth ymchwil i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol a chydraddoldeb, a gynhaliwyd gan brifysgolion Abertawe a Bangor ar ran Llywodraeth Cymru yn 2021, dros 40 o argymhellion i wella a chryfhau hawliau dynol a chydraddoldeb yng nghyd-destun Cymru. Un o’r argymhellion oedd cyflwyno Bil Hawliau Dynol i Gymru, er mwyn ymgorffori mwy o gytundebau hawliau dynol yn uniongyrchol yng nghyfraith Cymru.
Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei hysgogi’n rhannol gan safbwynt Llywodraeth y DU ar ddiwygio Deddf Hawliau Dynol 1998, ac mae wedi cyhoeddi ymrwymiad i ystyried opsiynau deddfwriaethol ar gyfer Bil Hawliau Dynol i Gymru. Gofynnwyd i Weithgor Opsiynau Deddfwriaethol ystyried y dull gorau o ymgorffori cytundebau hawliau dynol rhyngwladol. Mae hyn i’w groesawu’n fawr, yn ogystal â chryfder parhaus y gefnogaeth i hawliau dynol a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru.
- Sylw dyledus a dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant
Mae’r ddyletswydd ‘sylw dyledus’ dan y ‘Mesur Hawliau’ a deddfwriaeth arall, yn sicr wedi dangos y potensial i gefnogi gwreiddio hawliau plant mewn datblygu polisi drwy fynnu bod llunwyr penderfyniadau perthnasol yn rhoi sylw i CCUHP. Ar ben hynny, mae’r Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant ar gyfer cyrff cyhoeddus, a ddatblygwyd gan yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant, ac a fabwysiadwyd gan y Comisiynydd Plant a Llywodraeth Cymru, yn cynnig canllawiau egwyddorol i gyrff cyhoeddus ar sut i droi hawliau plant yn ymarfer. Roedd gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ddiddordeb mawr mewn dysgu mwy am y dull arloesol o ymdrin â hawliau plant yng Nghymru pan gyfarfu â dirprwyaeth y Cyrff Anllywodraethol yn Genefa yn ddiweddar (fel rhagarweiniad i archwilio’r DU).
- Asesiadau o’r effaith ar hawliau plant
Fel enghraifft o arloesi, roedd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn hefyd yn ymddiddori’n fawr yn y defnydd o Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant yng Nghymru fel rhan o Gynllun Plant Llywodraeth Cymru. Mae Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yn allweddol i wreiddio CCUHP fel rhan o’r Dull Gweithredu ar Hawliau Plant ar gyfer datblygu polisïau. Fodd bynnag, mae gwendidau yn y ffordd y mae Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yn cael ei roi ar waith, gan gynnwys: ei fod rhy hwyr yn y broses bolisi i wneud unrhyw wahaniaeth i allbwn polisi, diffyg arbenigedd perthnasol ar hawliau plant gan swyddogion sy’n ymgymryd â’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant; a methiant i gymhwyso’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yn briodol i rai polisïau hollbwysig sy’n effeithio ar blant. Mae hyn hefyd wedi cynnwys methu â chynnal Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, pryder a godwyd yn gyson gan randdeiliaid Cyrff Anllywodraethol ac a ategwyd gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, ond a wrthodwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.
Gyda’m cydweithwyr yng Ngrŵp Monitro CCUHP Cymru, hoffem weld Asesiad manwl o’r Effaith ar Hawliau Plant ar gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddir, ac sy’n cynnwys asesiad o’r adnoddau sydd ar gael i weithredu polisi yn unol â CCUHP. Rydym hefyd yn argymell bod Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yn ofyniad cyfreithiol gorfodol ar holl ganghennau Llywodraeth Cymru (yn hytrach na bod yn ofynnol o dan Gynllun Plant), a bod digon o adnoddau ac arbenigedd ar gael i gyflawni Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant effeithiol. Y rheswm am hyn yw bod ymchwil wedi cadarnhau, lle mae’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yn cael ei weithredu’n briodol, ei fod yn arwain at roi mwy o sylw i CCUHP, mewn polisi a chanlyniadau gwell sy’n adlewyrchu hawliau plant.
- Gwneud plant yn flaenoriaeth ac atebolrwydd a monitro tryloyw
Unwaith eto, yr ydym yn pryderu nad yw’r Gweinidog a benodwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n goruchwylio hawliau plant, wedi’i enwi’n Weinidog dros Blant, ac yr wyf yn siomedig ynghylch y tîm cymharol fach o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am weithredu CCUHP. Mae hyn yn effeithio ar amlygrwydd a blaenoriaethau plant a hawliau plant wrth lunio polisïau. Ar ben hynny, o ran cydlynu, er bod gennym gynllun gweithredu cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant, mae diffyg dangosyddion hawliau plant perthnasol nac ymrwymiad clir i gyflawni hawliau cyfreithiol fel a nodir yn CCUHP, mae diffyg data perthnasol hefyd ar ganlyniadau hawliau plant na chyllidebau wedi’u costio i gefnogi’r cynllun, ac nid oes llawer o dystiolaeth o gyfranogiad plant yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau cyflawni.
Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am gynllun gweithredu cenedlaethol sy’n mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed yn y Sylwadau Terfynol sydd ar y gweill gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Yr hyn yr ydym hefyd am ei weld yng Nghymru yw monitro ac atebolrwydd tryloyw. Er enghraifft, rydym yn croesawu’n fawr, o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 mae dyletswydd ar gyrff llywodraethu a phenaethiaid i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o CCUHP, ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi strategaeth codi ymwybyddiaeth o CCUHP. Fodd bynnag, hoffem i gyrff llywodraethu a Llywodraeth Cymru adrodd yn rheolaidd ar gynnydd ar y gofynion a’r strategaethau hyn er mwyn i ni allu monitro effaith a phwyso am gynnydd pellach dros blant.
- Ymgorffori CCUHP yn llawn ac yn uniongyrchol
Yn olaf, mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru wedi bod yn glir yn ein galwadau am gydnabyddiaeth effeithiol o hawliau plant yng nghyfraith Cymru. Yn hyn o beth, rydym yn cydnabod bod rhoi sylw dyledus i CCUHP wedi helpu i ddatblygu ymrwymiad i wreiddio hawliau plant yng Nghymru… OND fel enghraifft o ymgorffori anuniongyrchol, nid yw wedi gwneud fawr ddim i wella atebolrwydd cyfreithiol dros hawliau plant, gan nad yw CCUHP yn cael ei orfodi’n uniongyrchol mewn llysoedd barn ac nid yw’n rhoi rhwymedi cyfreithiol i blentyn sy’n ddioddefwr unrhyw achos o dorri CCUHP gan awdurdodau perthnasol. O ganlyniad, rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu a chyflymu camau i roi CCUHP ar waith ymhellach yng nghyfraith Cymru, gan gynnwys drwy ei wneud yn orfodadwy gan lys neu dribiwnlys.
[i] I weld Adroddiad Grŵp Monitro CCUHP Cymru, ewch yma.
[ii] I gael gwybodaeth fanwl gan Gymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Mewnfudo ar Ail Ddarlleniad y Mesur Mewnfudo Anghyfreithlon, ewch yma.