Gwisg ysgol

  • Eich ysgol fydd yn penderfynu a yw am gael gwisg ysgol ai peidio
  • Mae angen cynnwys y disgyblion wrth wneud unrhyw newidiadau i’r wisg ysgol
  • Mae’n rhaid i’ch ysgol ofalu bod y wisg y mae’n ei dewis yn addas i holl ddisgyblion yr ysgol

Does dim rhaid cael gwisg ysgol, ond mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn dewis cael un. Os oes gan eich ysgol wisg ysgol, mae’n debyg y bydd rheolau’r ysgol yn dweud bod yn rhaid i chi ei gwisgo tra byddwch yn yr ysgol neu wrth gynrychioli’r ysgol, er enghraifft mewn gweithgareddau chwaraeon neu gerddoriaeth.  Mae’n rhaid i’ch ysgol ofalu ei bod yn dewis gwisg sy’n addas i holl ddisgyblion yr ysgol, a dylai siarad â’r disgyblion cyn cyflwyno gwisg ysgol neu wneud newidiadau i’r wisg rydych eisoes yn ei gwisgo.