- Mae eich hawliau pan ydych o dan 18 yn ymwneud â’ch diogelu er mwyn i chi gael tyfu a datblygu’n iach
- Mae gennych hawl i breifatrwydd, ond mae llawer o’r hyn rydych yn ei wneud mewn perthynas yn dibynnu ar yr hyn mae’r gyfraith – a’ch rhieni – yn ei ddweud hyd nes eich bod yn 18
- Os ydych yn cael eich gorfodi i fod mewn perthynas, neu i wneud rhywbeth dydych chi ddim eisiau ei wneud, fe ddylech gael eich diogelu
Mae cael perthynas gyda’ch cariad yn beth arbennig iawn. Os ydych o dan 18, ac eisiau perthynas o ddifrif gyda rhywun, efallai y byddwch yn teimlo bod yr hawliau sydd yno i’ch diogelu chi’n gwneud pethau’n anodd i chi. Mae gennych hawl i breifatrwydd, ond mae eich hawliau plentyn yn golygu bod yn rhaid i’ch rhieni (neu’r bobl sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch) ofalu amdanoch a rhoi arweiniad i chi hyd nes eich bod yn 18. Mae hyn yn golygu efallai y bydd yn rhaid i chi gael caniatâd eich rhieni i wneud rhai o’r pethau rydych eisiau eu gwneud – ac mae hefyd yn golygu efallai yn byddwch mewn trafferth am wneud rhai pethau os ydych dan oed.
Mae’n gyfreithlon cael rhyw os ydych chi’n 16. Os ydych o dan 16 (ond dros 12) a bod eich partner tua’r un oed, byddwch yn torri’r gyfraith, ond yr heddlu fydd yn penderfynu a ydyn nhw am gymryd camau os byddan nhw’n dod i wybod beth sy’n digwydd. Efallai y bydd yr heddlu’n penderfynu peidio â chymryd camau, ond efallai y bydd eich rhieni’n ddig neu’n anhapus ac yn pryderu eich bod yn cael rhyw mor ifanc. Cewch wybod mwy ar ein tudalen rhyw a chydsynio.
Ddylech chi ddim ond cael rhyw gyda rhywun os mai dyna rydych chi ei eisiau – felly os ydych yn poeni neu ddim yn siŵr, fe ddylech ddweud na, a pheidio â theimlo dan bwysau i wneud dim. Cewch wybod mwy am hyn yma.
Mae’n rhaid i chi fod yn ofalus iawn a gwneud yn siŵr bod y person arall eisiau cael rhyw gyda chi. Chewch chi ddim cymryd yn ganiataol fod rhywun sydd wedi cytuno i gael rhyw gyda chi o’r blaen eisiau cael rhyw gyda chi bob tro rydych chi eisiau gwneud hynny. Os byddwch yn cael rhyw gyda rhywun sydd ddim eisiau cael rhyw gyda chi, yna fe allech gael eich arestio am dreisio.
Hyd yn oed os ydych chi’ch dau eisiau cael rhyw, os oes un ohonoch o dan 13, fe allai’r un sy’n hŷn fod mewn trafferth difrifol pe byddech yn cael rhyw.
Os ydych yn bwriadu cael rhyw, fe ddylech ddefnyddio dulliau atal cenhedlu os nad ydych eisiau mynd yn feichiog. Gallwch brynu condomau mewn fferyllfa neu archfarchnad. Mewn rhai rhannau o Gymru gallwch gael condomau am ddim gan ddefnyddio Cerdyn C. Gallwch ofyn i feddyg neu nyrs neu fynd i glinig iechyd rhywiol i gael cyngor a gwybodaeth am ryw ac atal cenhedlu heb i’ch rhieni gael gwybod. Os yw’r meddyg yn hapus eich bod yn deall yr holl oblygiadau, gall roi mathau eraill o ddulliau atal cenhedlu i chi fel y bilsen neu fewnblaniadau heb i’ch rhieni gael gwybod. Mae’n werth gwybod bod condomau’n gallu eich atal rhag dal heintiau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol yn ogystal â’ch atal rhag beichiogi.
Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y bydd eich partner yn gallu dod i fyw gyda chi yn eich cartref, neu efallai y gallech chi fynd i fyw gyda’ch partner.
Cewch adael cartref pan fyddwch yn 16 gyda chaniatâd eich rhieni. Os ydych chi’ch dau neu ddwy dros 16 ac os yw eich mam neu’ch tad neu pwy bynnag sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch yn cytuno, fe ddylai hynny fod yn iawn. Os ydych chi’ch dau neu ddwy o dan 18, ac eisiau rhentu eich lle eich hun, bydd angen i’r landlord ofyn i oedolyn lofnodi’r cytundeb rhent ac efallai ofyn i oedolyn warantu’r taliadau rhent.
Os oes un ohonoch yn 18 neu’n hŷn, bydd ef neu hi’n cael llofnodi’r cytundeb rhent.
Os oes un ohonoch yn 16 neu’n 17 a ddim yn gallu byw gartref oherwydd rhywbeth sydd wedi digwydd, ac os oes perygl i chi fod yn ddigartref, fe ddylai’r awdurdod lleol eich helpu i gael hyd i rywle i fyw.
Os ydych yn symud i mewn gyda’ch gilydd, does dim rhaid i chi wneud dim byd swyddogol heblaw dweud wrth bobl fel y banc (os oes gennych gyfrif banc), y cyngor a’r asiantaeth budd-daliadau os ydych yn cael budd-daliadau, eich bod wedi symud, a beth yw eich cyfeiriad newydd. Os ydych yn y coleg neu’r brifysgol, dylech roi gwybod iddynt beth yw eich cyfeiriad newydd. Dylech ddweud wrth eich meddyg a’ch deintydd (os oes gennych un) hefyd. Efallai y bydd symud i fyw yn rhywle arall yn effeithio ar eich budd-daliadau, felly cofiwch holi am hyn cyn symud allan. Fe gewch ffurflen rywbryd i’ch ychwanegu at y gofrestr etholiadol. Mae angen i chi lenwi’r ffurflen hon er mwyn cael pleidleisio mewn etholiadau.
Ar hyn o bryd, yng Nghymru, does dim statws arbennig i’ch perthynas os ydych yn cyd-fyw heb briodi neu mewn partneriaeth sifil. Efallai na fyddwch eisiau meddwl am bethau fel marw, ond os bydd eich partner yn marw a chithau ddim yn briod, fydd gennych chi ddim hawl i gael dim byd heblaw bod eich partner wedi gwneud ewyllys sy’n eich cynnwys.
Does dim llawer y gallwch ei wneud heblaw bod gennych gytundeb cyfreithiol – cytundeb cyd-fyw –sy’n dweud beth fydd yn digwydd os ydych yn gwahanu. Gall hyn droi'n gymleth, yn enwedig os oes gennych blant gyda'ch gilydd, neu os na allwch fforddio aros yn eich cartref ar ôl i’ch partner symud allan.
Cewch briodi (p’un a ydych mewn perthynas o’r ddau ryw neu o’r un rhyw) neu gael perthynas sifil pan fyddwch yn 16 os yw eich rhieni, neu’r bobl sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanoch, chi a'ch partner, yn cytuno. Pan fyddwch chi’ch dau neu ddwy’n 18, cewch briodi neu gael partneriaeth sifil heb ganiatâd eich rhieni.
Os ydych yn priodi neu’n cael partneriaeth sifil, mae statws cyfreithiol arbennig i’ch perthynas. Mae’n golygu, os bydd un ohonoch yn marw, y bydd gan y llall hawliau arbennig o ran unrhyw eiddo sydd ganddo neu ganddi. Os ydych yn gwahanu, mae’n rhaid i’r llysoedd drefnu pwy sy’n cael beth gan ddilyn rheolau arbennig. Os oes gennych blant gyda'ch gilydd, bydd gennych chi’ch dau neu ddwy gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig.
Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018