Gwneud pethau dydw i ddim eisiau eu gwneud

  • Mae gan bawb hawliau – felly os byddwch yn gwneud rhywbeth sy’n effeithio ar hawliau pobl eraill, efallai y byddwch mewn trafferth, hyd yn oed os oes rhywun yn eich gorfodi
  • Os oes rhywun yn eich gorfodi i wneud pethau sy’n eich brifo chi (yn hytrach na phobl eraill), mae eich hawliau, a’r gyfraith, yno i’ch diogelu
  • P’un a ydych yn gwneud rhywbeth sy’n torri’r gyfraith, neu’n cael eich brifo eich hun, y ffordd orau o stopio’r hyn sy’n digwydd yw dweud wrth rywun

Er bod eich hawliau’n eich diogelu, dydyn nhw ddim yn golygu na fyddwch mewn trafferth os wnewch chi rywbeth o’i le. Mae eich hawliau yno i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich trin yn iawn pan fyddwch mewn trafferth. Os torrwch chi reol neu’r gyfraith, does dim ots a gawsoch eich gorfodi gan rywun arall. Efallai y bydd pwy bynnag sy’n gosod y gosb am yr hyn sydd wedi digwydd yn ystyried y ffaith bod rhywun arall wedi rhoi pwysau arnoch – ond chi wnaeth.

Os oes rhywun yn gwneud i chi wneud pethau sy’n niweidiol i chi – drwy eich gorfodi i gael rhyw efallai, neu i briodi – mae eich hawliau, a’r gyfraith yng Nghymru, yno i’ch diogelu.