Fy Hawliau

  • Eich prif hawliau fel ‘plentyn’ yw bod gyda eich teulu, cael addysg a chyfleoedd i dyfu a datblygu’n ddiogel
  • Does dim disgwyl i chi weithio – ond wrth i chi fynd yn hŷn ac yn fwy annibynnol, efallai y byddwch eisiau dechrau gwneud gwaith rhan amser
  • Ddylai neb eich gorfodi i weithio nac i wneud dim byd sy’n anniogel, yn amhriodol neu nad ydych chi eisiau ei wneud

Os ydych chi o dan 18, mae gennych hawl i’r holl hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ond wrth gwrs, wrth i chi dyfu’n hŷn – a nesáu at eich 18 oed – byddwch yn teimlo’n llai fel plentyn a byddwch eisiau bod yn fwy annibynnol. Mae cael swydd yn rhoi annibyniaeth ariannol i chi ac mae eich hawliau’n sicrhau y cewch yr annibyniaeth honno heb gael eich trin yn wael.

I rai pobl ifanc, mae gweithio’n golygu mwy na dim ond annibyniaeth. Efallai y bydd eich amgylchiadau’n golygu bod yn rhaid i chi ddechrau ennill arian cyn gynted â phosib.

P’un a ydych yn chwilio am waith rhan amser i ennill ychydig o arian ychwanegol neu bod angen i chi ddechrau gweithio neu wneud prentisiaeth, bydd gennych hawliau i’ch diogelu.

Os ydych yn cael eich gorfodi i weithio, mae gennych hawliau hefyd – er efallai y bydd pwy bynnag sy’n gwneud i chi weithio’n ceisio dweud nad oes gennych ddim hawliau. Mae hyd yn oed yn bwysicach eich bod yn deall beth yw eich hawliau a sut y gallwch sicrhau eich bod yn cael eich diogelu rhag y math hwn o gamfanteisio, yn arbennig fel plentyn neu berson ifanc.