- Mae prentisiaeth yn ffordd wych o ddatblygu eich sgiliau er mwyn gwneud swydd benodol ac ennill arian ar yr un pryd
- Ar ôl cwblhau prentisiaeth bydd gennych gymhwyster seiliedig ar waith
- Fel prentis, mae gennych hawliau cyflogaeth yn ogystal â’r hawliau plentyn sy’n berthnasol i chi tan eich bod yn 18
Dyw gadael yr ysgol ddim yn golygu na allwch chi ddal ati i ddysgu. I rai pobl, nid aros ym myd addysg yw’r ffordd orau o ddatblygu. Mae prentisiaethau’n ffordd arall o ennill sgiliau a gweithio ar yr un pryd. Er y byddwch yn dysgu wrth wneud prentisiaeth, byddwch yn gweithio hefyd ac felly bydd gennych hawliau cyflogaeth, fel yr hawl i gael isafswm tâl.
Mae prentisiaeth yn ffordd o fagu sgiliau a hyfforddiant tra byddwch yn gweithio. Gall elfen ‘ddysgu’ eich prentisiaeth ddigwydd yn y swydd, wrth i chi weithio, yn y coleg neu mewn canolfan hyfforddi benodol. Bydd yn dibynnu ar y math o brentisiaeth sydd gennych a sut mae eich cyflogwr eisiau i chi ddysgu. Yn ystod y brentisiaeth, byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster seiliedig ar waith ar o leiaf Lefel 2 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC).
Yng Nghymru, mae prentisiaethau ar gael i bawb sy’n 16 oed neu’n hŷn sy’n byw yng Nghymru. Does dim uchafswm oedran, er bod prentisiaethau’n cael eu cysylltu gan amlaf â phobl iau.
Mae isafswm fesul awr y mae’n rhaid i chi gael eich talu fel prentis. Gall eich cyflogwr ddewis talu mwy i chi, ond does dim rhaid i’r cyflogwr wneud hynny. Yr isafswm fesul awr ar hyn o bryd (Ionawr 2018) i brentisiaid yw £3.50 os ydych chi o dan 19, neu os ydych chi ym mlwyddyn gyntaf eich prentisiaeth (hyd yn oed os ydych chi’n 19 neu’n hŷn). Bydd hynny’n codi i £3.70 yr awr ym mis Ebrill 2018. Pan fyddwch yn 19 (ac wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eich prentisiaeth) bydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol, sef £5.60 i bobl 18-20 oed (yn codi i £5.90 ym mis Ebrill 2018) a £7.05 i bobl 21-24 oed (yn codi i £7.38). Pan fyddwch yn 25, bydd gennych hawl i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol.
Os ydych chi’n brentis, rydych hefyd yn gyflogai ac felly mae gennych yr un hawliau cyflogaeth â phawb arall. Os ydych chi o dan 18, bydd rhai cyfyngiadau ar nifer yr oriau y cewch weithio, a phryd y cewch weithio’r oriau hynny, o gymharu â chyflogeion sy’n 18 neu’n hŷn, ond fel arall bydd gennych yr un hawliau. Yn ogystal â’ch hawliau ynghylch oriau gweithio, bydd gennych hawl i gael seibiannau gorffwys yn ystod eich diwrnod gwaith (yn dibynnu ar faint o oriau rydych yn gweithio) a gwyliau.
Fe ddylech gael eich trin yn deg – heb i neb wahaniaethu yn eich erbyn na’ch bwlio a heb gael eich rhoi mewn sefyllfaoedd peryglus. Mae gennych hawl i beidio â chael eich diswyddo’n annheg ar ôl i chi fod yn gweithio am 2 flynedd. Gan fod eich prentisiaeth yn para am gyfnod penodol, os bydd eich cyflogwr yn ceisio dod â’r brentisiaeth i ben yn gynnar, mae’n bosib y cewch hawlio iawndal am dorri’r contract hyd yn oed os nad ydych wedi bod yn gweithio am 2 flynedd.
Byd gennych hawl i gael pethau fel tâl salwch, seibiant a thâl mamolaeth a thadolaeth a hawliau eraill i gael amser i ffwrdd o’r gwaith hefyd. Mae tâl salwch, tâl mamolaeth a mathau eraill o dâl statudol yn aml yn ddibynnol ar ennill isafswm penodol, ac mae’n bosib na fyddwch yn cyrraedd yr isafswm hwnnw os ydych ar gyfradd prentisiaeth sylfaenol.