- Yng Nghymru, cewch adael yr ysgol ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd pan fyddwch yn 16
- Mae eich ‘hawliau plentyn’ yn dal i fod yn berthnasol hyd yn oed os ydych chi’n gadael yr ysgol i weithio’n llawn amser pan fyddwch yn 16
- Mae’r cyfreithiau sydd yn eich diogelu os ydych yn penderfynu gadael yr ysgol a mynd i weithio yn dod o gyfraith y DU a nid o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Yng Nghymru, cewch adael yr ysgol a dechrau gweithio’n llawn amser ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd pan fyddwch yn 16. Yn dechnegol, rydych chi’n dal i fod yn ‘blentyn’ – ac mae gennych hawliau plentyn tan eich pen-blwydd yn 18. Mae hynny’n golygu bod rhai cyfyngiadau o hyd ar faint o amser y cewch weithio, a phryd y cewch weithio.
Cewch adael addysg lawn amser ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd pan fyddwch yn 16. Yng Nghymru, does dim rhaid i chi barhau mewn addysg neu hyfforddiant ar ôl i chi gyrraedd yr oedran hwnnw, felly fe gewch fynd yn syth i weithio’n llawn amser os dyna rydych yn dewis ei wneud. Ar ôl hynny, chi sydd i ddewis a ydych am barhau i gael addysg yng Nghymru. Os hoffech chi aros mewn rhyw fath o addysg, neu gyfuno gwaith a hyfforddiant, mae llawer o opsiynau ar gael i chi. Cewch wybod mwy am yr opsiynau o ran addysg a hyfforddiant pan fyddwch yn 16 yma.
Os ydych chi am barhau i gael addysg ond bod angen cymorth ariannol arnoch i wneud hynny, efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
Dylech gael eich diogelu rhag unrhyw fath o waith a allai niweidio eich iechyd neu eich datblygiad. Mae gennych hawl i orffwys hefyd. Tan eich bod yn 18 felly, bydd rhai mathau o waith na chewch chi eu gwneud. Efallai na fyddwch yn cael gweithio gymaint ag yr hoffech oherwydd bod cyfyngiadau ar nifer yr oriau y cewch weithio tan eich bod yn 18.
Pan fyddwch yn 16, cewch weithio hyd at 40 awr yr wythnos, a dim mwy nag 8 awr y dydd. Dylech gael 30 munud o seibiant ar ôl i chi weithio am 4.5 awr, a rhaid i chi gael 12 awr o seibiant rhwng pob diwrnod gwaith, a chyfnod o 48 awr o leiaf o seibiant bob wythnos. Chewch chi ddim gweithio rhwng 10 p.m. a 7 a.m. fel arfer, heblaw eich bod yn gweithio ym myd amaeth, manwerthu, dosbarthu’r post neu bapurau newydd, busnes arlwyo, gwesty, tafarn, bwyty neu fusnes pobi. Os oes raid i chi weithio ar ôl 10 p.m. am ryw reswm – am nad oes neb arall ar gael i wneud y gwaith – rhaid i chi orffen gweithio am hanner nos. Ni ddylech gael eich gorfodi i weithio rhwng hanner nos a 4yb.
Wedi i chi gyrraedd oedran gadael yr ysgol, bydd gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol nes eich bod yn 25. Pan fyddwch yn 25, cewch hawlio’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Mae’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn swm penodedig ac mae’n dibynnu ar eich oedran. O 1 Ebrill 2017, £4.05/awr yw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol os ydych yn 16 neu’n 17 oed a £5.60 os ydych yn 18-20 oed. Mae’r lefelau hyn fel arfer yn newid bob mis Ebrill felly mae’n werth cael gwybod beth yw’r lefelau hyn o bryd.
Gall eich cyflogwr ddewis talu mwy na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i chi yn dibynnu ar y math o waith rydych yn ei wneud, ond does dim rhaid i’r cyflogwr wneud hynny. Mae’n rhaid i chi benderfynu a ydych yn fodlon gweithio am y swm sy’n cael ei gynnig i chi. Gallech siarad â’ch ffrindiau i gael gwybod faint maen nhw’n cael eu talu, i weld a ydych yn meddwl bod yr hyn sy’n cael ei gynnig i chi yn deg.
Bydd angen i chi holi eich cyflogwr pryd gewch chi eich talu (a sut y cewch eich talu) ond mae llawer o gyflogwyr yn talu’n fisol, sy’n golygu na chewch eich talu hyd nes y byddwch wedi gweithio am fis. Os yw hynny’n mynd i fod yn broblem i chi, siaradwch â’ch cyflogwr – yn aml, bydd cynllun er mwyn i chi gael blaendaliad o’ch cyflog, neu efallai fenthyciad os oes angen i chi brynu dillad addas neu gerdyn teithio i ddod i’r gwaith, neu hyd yn oed i fyw am y mis cyntaf.
Math penodol o gyflogaeth yw prentisiaeth sy’n cyfuno gwaith a hyfforddiant mewn swydd yn ogystal ag addysg yn y coleg neu fath arall o addysg. Cewch wybod mwy am brentisiaethau yma.
Pan fyddwch yn 16, bydd gennych nifer o hawliau cyflogaeth. Bydd rhai o’r rhain yn dibynnu a ydych yn gyflogai neu’n weithiwr. Os ydych chi’n hunangyflogedig, nid yw’r hawliau cyflogaeth hyn yn berthnasol i chi – ond cymerwch ofal oherwydd weithiau bydd cyflogwyr yn ceisio dweud eich bod yn hunangyflogedig hyd yn oed os mai gweithiwr ydych chi mewn gwirionedd.
Mae pob cyflogai yn weithiwr, ond nid yw pob gweithiwr yn gyflogai. Mae gan gyflogeion fwy o hawliau a diogelwch cyflogaeth. Cewch wybod mwy ynghylch ai cyflogai neu weithiwr ydych chi a’r math o hawliau cyflogaeth sydd gennych yma.
Mae hawliau cyflogaeth sylfaenol pob gweithiwr a chyflogai’n cynnwys:
- yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- diogelwch rhag didyniadau anghyfreithlon o’ch tâl
- yr isafswm statudol o ran gwyliau â thâl
- isafswm statudol o ran hyd seibiannau gorffwys
- diogelwch rhag gwahaniaethu anghyfreithlon
- diogelwch os byddwch yn ‘chwythu’r chwiban’ – sef rhoi gwybod os oes rhywun yn gwneud rhywbeth o’i le yn y gweithle
- peidio â chael eich trin yn llai ffafriol os ydych chi’n gwneud gwaith rhan amser
- Tâl Salwch Statudol
- Tâl Mamolaeth Statudol
- Tâl Tadolaeth Statudol
- Tâl Mabwysiadu Statudol
- Tâl Rhiant a Rennir
Dylai eich cyflogwr roi gwybod i chi beth fydd y disgwyliadau pan ddechreuwch weithio. Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn rhoi rhyw fath o gyflwyniad i’r gweithle i chi ac yn esbonio sut mae pethau’n gweithio a’r rheolau sy’n berthnasol yn y gweithle. Mae pob gweithle’n wahanol ond ymhlith rhai o’r pethau pwysig y bydd angen i chi roi sylw iddynt o’r cychwyn cyntaf mae:
- Faint o’r gloch y bydd disgwyl i chi ddechrau gweithio
- Beth mae disgwyl i chi ei wisgo i’r gwaith
- Sut fyddwch chi’n dod i’r gwaith – a oes lleoedd parcio neu a yw eich gweithle ar lwybrau cludiant cyhoeddus
- A fyddwch yn gallu prynu cinio ar y safle neu rywle’n agos – neu a oes angen i chi fynd â phecyn bwyd gyda chi.