Dr Rhian Croke, Arweinydd Ymgyfreithia Strategol Hawliau Plant ac Eiriolaeth Polisi, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru

 

Y Mater dan Sylw

Mae’n ofyniad statudol bod ‘ymwelwyr annibynnol’ yn cael eu dyrannu i blant ‘sy’n derbyn gofal’ lle’r ymddengys i’r awdurdod lleol y byddai er lles y plentyn i wneud hynny.  Ond dim ond 1% o blant sy’n derbyn gofal sy’n cael ymwelydd annibynnol.  Mae plentyn sy’n derbyn gofal yn blentyn neu berson ifanc sydd yng ngofal yr awdurdod lleol h.y., yn eu gofal, neu fod llety’n cael ei ddarparu iddynt gan yr awdurdod lleol.

Mae rôl yr Ymwelydd Annibynnol (IV) yn cael ei chyflawni gan unigolyn sy’n ‘wirfoddolwyr hyfforddedig, sy’n cael eu paru â phlentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal i fod yn ffrind iddynt ac i weithredu fel delfryd ymddwyn positif.  Maent yn datblygu perthnasoedd positif sy’n seiliedig ar ymddiried â hwy dros amser.’ (Rhwydwaith Ymwelwyr Annibynnol Cenedlaethol 2022).

Cafodd rôl Ymwelwyr Annibynnol ei chyflwyno fel gofyniad statudol yn wreiddiol fel rhan o’r Ddeddf Plant yn 1989.  Fodd bynnag, mae llawer o blant sy’n derbyn gofal a llawer o weithwyr proffesiynol hyd yn oed nad ydynt yn ymwybodol o hawl plentyn sy’n derbyn gofal i gael Ymwelydd Annibynnol ac felly mae llawer o blant nad ydynt yn cael mynediad at Ymwelydd Annibynnol.

Mae’r gofyniad cyfredol yng Nghymru i blentyn sy’n derbyn gofal i gael Ymwelydd Annibynnol wedi’i ddatgan yn Adran 98 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (Deddf 2014).  Rhaid i angen plentyn am Ymwelydd Annibynnol gael ei asesu fel rhan o ddatblygiad cynllun gofal a chymorth y plentyn o dan Ran 6 o Ddeddf 2014), neu pan fydd achos plentyn yn cael ei adolygu, gyda chanllawiau clir a chymorth ar gael i awdurdodau wrth benderfynu a ddylid dyrannu ymwelydd annibynnol neu beidio.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu gwaith i lunio set o safonau ymarfer da a chanllawiau i Ymwelwyr Annibynnol a ddatblygwyd gan Wasanaeth Ieuenctid ac Eiriolaeth Cenedlaethol Cymru (NYAS Cymru).

 

Pam mae Ymwelwyr Annibynnol o fudd i blant sy’n derbyn gofal

Nododd adroddiad ar safonau ymarfer ar gyfer Ymwelwyr Annibynnol a gynhyrchwyd gan NYAS Cymru fuddiannau niferus cael Ymwelydd Annibynnol i blant sy’n derbyn gofal.  Mae hyn wedi’i grynhoi yn y datganiad hwn o’r adroddiad:

‘Mi all plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, sy’n datblygu perthnasau ag Ymwelwyr Annibynnol dros amser, gael rhywfaint o sefydlogrwydd yn eu bywydau, a pherthynas sy’n gyson ac sy’n parhau â rhywun sydd yno iddynt drwy gydol eu hamser mewn gofal ac ymlaen i oedolaeth.  Roedd yr enghreifftiau’n cynnwys sefyllfaoedd lle’r oedd pobl ifanc wedi cael help dros gyfnod o flynyddoedd lawer wrth newid lleoliad, wrth adael gofal, wrth newid ysgol ac wrth brofi newidiadau eraill.  Mi all rheoli newid fod yn rhywbeth arbennig o anodd i berson ifanc ac roedd gael cefnogaeth oedolyn arwyddocaol y gallent ymddiried ynddynt pan oeddent yn teimlo bod popeth arall yn newid yn cael ei ystyried yn arbennig o werthfawr gan bobl ifanc a gweithwyr cymdeithasol.’

Cafwyd cadarnhad gan bobl ifanc o werth Ymwelydd Annibynnol, a ddywedodd eu bod yn cynnig:

  • cyfeillgarwch, gyda dewis a rheolaeth;
  • rhywun i siarad ar eu rhan a’u hannog i siarad drostynt eu hunain;
  • anogaeth a chefnogaeth i ymgymryd â gweithgareddau newydd neu mewn cyfnodau anodd;
  • cysondeb a dilyniant yr oedd y berthynas yn ei gynnig iddynt;
  • help i baratoi at fod yn annibynnol.

 

Y sefyllfa bresennol o ran cymorth Ymwelwyr Annibynnol yng Nghymru

Er ei fod yn ofyniad statudol gyda buddiannau cydnabyddedig i blant sy’n derbyn gofal ynghyd ag arferion penodol ar gyfer darparu gwasanaethau Ymwelwyr Annibynnol ledled Cymru, mae ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth yn dal yn isel iawn, a dim ond nifer fechan iawn o blant sy’n derbyn gofal sydd â mynediad at Ymwelydd Annibynnol.

Dangosodd cais Rhyddid Gwybodaeth gan y Rhwydwaith Ymwelwyr Annibynnol Cenedlaethol ar y cyd â’r Tudor Trust a Barnardo’s yng Ngorffennaf 2022 ganfyddiadau allweddol yn achos Cymru.  Dyma grynodeb o’r canfyddiadau:

  •  dim ond 79 o blant sydd ag Ymwelydd Annibynnol, sy’n cyfrif am 1% yn unig o’r boblogaeth plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal;
  • roedd 43 o blant yn aros i gael eu paru ag Ymwelydd Annibynnol gydag ychydig dros hanner yr awdurdodau lleol yn rhoi plant ar restr aros; 
  • mae gan 18 o’r 22 awdurdod unedol yng Nghymru wasanaeth Ymwelwyr Annibynnol.  Nid oedd chwech ohonynt wedi penodi Ymwelwyr Annibynnol ar adeg y cais Rhyddid Gwybodaeth.  Dywedodd tri ohonynt nad ydynt yn cynnig Ymwelwyr Annibynnol ac nid oedd un wedi ymateb i’r cais Rhyddid Gwybodaeth;
  • mae dau awdurdod lleol yn ariannu Ymwelwyr Annibynnol ar ôl 18 oed gyda 10 o bobl ifanc sy’n gadael gofal yn elwa ar y gwasanaeth hwnnw;
  • roedd 40% (32) o’r plant a barwyd ag Ymwelydd Annibynnol yn byw y tu allan i ardal eu hawdurdod lleol.

 

Datgelodd y cais Rhyddid Gwybodaeth hefyd mai canran isel iawn o blant yng Nghymru sydd ag Ymwelydd Annibynnol.  Roedd 43 o blant yn aros i Ymwelydd Annibynnol gael ei ddyrannu ar eu cyfer. Eglurhad posibl am y canran isel hwn, a awgrymwyd gan y Rhwydwaith Ymwelwyr Annibynnol Cenedlaethol, yw bod lefel y galw wedi’i gyfyngu, oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth.  Mae esboniadau eraill yn cynnwys diffyg adnoddau, a meini prawf cymhwystra cyfyngol neu wedi dyddio a ddefnyddir gan rai gwasanaethau Ymwelwyr Annibynnol.

Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth yn 2023 gan y Public Law Project ddarlun tebyg: roedd 38 o blant yn aros i Ymwelydd Annibynnol gael eu dyfarnu ar eu cyfer (roedd yr amser aros cyfartalog hwyaf dros flwyddyn), ac nid oedd gan saith o’r awdurdodau a ymatebodd ddim plant sy’n derbyn gofal a oedd wedi’u paru ag Ymwelydd Annibynnol. [i]

Mae’n achos pryder nad oes gan rai awdurdodau lleol ddim gwasanaethau Ymwelwyr Annibynnol o gwbl.  Y dull a fabwysiedir ar hyn o bryd gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru yw comisiynu gwasanaethau allanol yn achos Ymwelwyr Annibynnol.  Dyma a ddywed adroddiad NYAS Cymru:

‘Nid yw’r model comisiynu a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol – lle mae gwasanaethau Ymwelwyr Annibynnol yn cael eu hychwanegu at wasanaethau eiriolaeth proffesiynol annibynnol, gyda rhai staff yn gweithio ar y ddau gontract – yn gweithio.’

O ran yr heriau o baru plant ag Ymwelwyr Annibynnol o’r tu allan i ardal eu hawdurdod lleol, mae’r Rhwydwaith Ymwelwyr Annibynnol Cenedlaethol yn dadlau bod hyn yn ychwanegu at yr anawsterau i blant wrth iddynt geisio cynnal perthnasoedd.  Mae’r Rhwydwaith yn galw hefyd am ymestyn y ddarpariaeth Ymwelwyr Annibynnol i rai sy’n gadael gofal, i helpu i leihau’r unigrwydd a’r ynysigrwydd cymdeithasol mae llawer sy’n gadael gofal yn ei brofi, gan gynnwys yr ‘ymyl y dibyn’ maent yn ei brofi pan ddaw gwasanaethau cymorth i ben wrth iddynt gyrraedd 18 oed.

 

Beth ddylai ddigwydd yn awr?

I ddatrys y broblem prinder Ymwelwyr Annibynnol i blant sy’n derbyn gofal dylid mynd ati i ymchwilio i’r rhesymau am y sefyllfa anffodus hon.  Hefyd mae angen ymrwymiad pendant gan Lywodraeth Cymru i fynd ati’n rhagweithiol i greu a gweithredu cynllun ag awdurdodau lleol i flaenoriaethu a sicrhau adnoddau digonol ar gyfer gwasanaethau Ymwelwyr Annibynnol.  Hefyd, mae angen datblygu strategaeth gyfathrebu effeithiol, fel y bydd mwy o weithwyr proffesiynol a phlant sy’n derbyn gofal yn ymwybodol o’r gwasanaeth.

Fel yr argymhella NYAS Cymru dylai plant sy’n derbyn gofal gael cynnig Ymwelydd Annibynnol (os yw er eu budd pennaf) a dylai hynny ddigwydd ar ddechrau a diwedd eu profiad mewn gofal.

Ynghyd ag eraill yng Nghymru, mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru’n credu y dylai awdurdodau fod yn cyflawni eu gofyniad statudol i sicrhau bod Ymwelwyr Annibynnol ar gael i helpu plant sy’n derbyn gofal.  Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru sydd heb wasanaeth Ymwelwyr Annibynnol ar hyn o bryd gymryd camau i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol.

 

ÔL-NODIADAU

[i] Ar adeg ysgrifennu, roedd pedwar awdurdod lleol heb ymateb i’r cais Rhyddid Gwybodaeth o fewn yr amserlen statudol, a dywedodd un na allai roi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.