Gangiau

  • Mae ‘gang’ yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl
  • Does dim byd i’ch rhwystro rhag bod yn rhan o gang, ond os byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol, fe allech fod mewn trafferth gyda’r heddlu
  • Os ydych wedi cael eich targedu gan gang, y peth gorau i’w wneud yw dweud wrth rywun

Efallai y bydd bod yn rhan o gang yn apelio atoch os nad yw pethau’n mynd yn dda yn yr ysgol neu gartref, ond os yw’r gang yn gwneud rhywbeth sy’n torri’r gyfraith, gallech fod mewn trafferth gyda’r heddlu’n gyflym iawn. Er y cewch ymuno â gang os ydych chi eisiau, fe ddylech hefyd allu gadael gang. Gall hyn fod yn anodd i bobl sy’n ofni beth fydd yn digwydd os byddan nhw’n ceisio gadael. Os cewch eich targedu gan gang a’ch bod yn poeni beth allai ddigwydd, mae’n well dweud wrth rywun fel yr heddlu na chadw’n dawel.