- Yng Nghymru, mae gennych hawliau i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich diogelu rhag niwed
- Dyw eich hawliau a’r gyfraith ddim mewn gwirionedd yn chwarae rhan fawr yn eich cyfeillgarwch â phlant eraill os yw pethau’n mynd yn dda
- Mae eich hawliau, a’r gyfraith, yn bwysig os ydych yn cael eich trin yn wael gan blant eraill – neu os ydych chi’n trin rhywun arall yn wael
Mae eich hawl i breifatrwydd yn golygu na fydd y gyfraith yn dweud wrthych sut i fod yn ffrindiau â rhywun, nac a oes raid i chi fod yn ffrindiau â rhywun. Yr unig reswm y gallai’r gyfraith effeithio arnoch yw os ydych chi a’ch ffrindiau gyda’ch gilydd yn gwneud bywyd yn anodd i rywun arall.
Os yw eich ffrindiau neu blant eraill yn gwneud bywyd yn anodd i chi – efallai eich bod yn cael eich bwlio neu eich brifo gan blant eraill, neu’n cael eich trin yn wahanol ac yn annheg am ryw reswm – gall y gyfraith helpu.
Os ydych yn cael eich bwlio yn yr ysgol, fe ddylai’r pennaeth a’r athrawon ymdrin â hyn a gwneud yn siŵr bod y polisi ymddygiad yn cael ei ddilyn. Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru wneud yn siŵr bod ganddynt bolisi ymddygiad sy’n ymdrin â bwlio. Os yw’r bwlio yn cyfeirio at eich hil neu os ydych yn cael eich brifo, efallai y byddwch am ddweud wrth yr heddlu oherwydd fe allai pwy bynnag sy’n eich bwlio fod yn torri’r gyfraith. Bydd angen i chi ddweud wrth rywun beth sy’n digwydd os ydych chi eisiau help. Os nad ydych eisiau dweud wrth un o’ch athrawon yn uniongyrchol, gallech ddweud wrth eich rhiant neu ofalwr, neu wrth oedolyn arall rydych yn ymddiried ynddo, a fydd yn gallu eich helpu i siarad â’r ysgol am yr hyn sy’n digwydd.
Os ydych yn cael eich bwlio y tu allan i’r ysgol, gallwch geisio ymdrin â’r mater eich hun, drwy ddweud wrth y plentyn arall am roi’r gorau iddi. Os nad yw hynny’n gweithio, y cam cyntaf yw dweud wrth rywun beth sy’n digwydd. Efallai y gallai oedolyn arall – er enghraifft eich rhieni – siarad â rhieni’r plentyn. Os nad yw’r bwlio’n stopio, efallai y bydd angen i chi wneud rhywbeth arall. Yn dibynnu ar yr hyn y mae’r plentyn arall yn ei wneud, efallai y bydd yn torri’r gyfraith.
Os oes rhywun wedi eich brifo, hyd yn oed os nad yw hynny’n cyfrif fel bwlio, efallai y bydd wedi torri’r gyfraith. Gallwch gael eich brifo’n gorfforol, er enghraifft drwy gael eich taro neu eich torri, neu’n emosiynol. Gall niwed emosiynol ddigwydd os bydd rhywun yn eich bygwth neu’n eich bwlio heb eich brifo’n gorfforol.
All y gyfraith ddim eich diogelu rhag torri eich calon os ydych chi’n gwahanu, ond os yw eich cariad yn eich brifo’n gorfforol, neu’n eich bygwth ac yn eich gorfodi i wneud pethau, mae’n eich cam-drin. Mae hynny yn erbyn y gyfraith. Efallai na fyddwch eisiau dweud wrth neb am hyn. Efallai y bydd eich partner yn eich bygwth er mwyn i chi beidio â dweud wrth rywun beth sy’n digwydd. Os na ddywedwch wrth rywun, bydd yr ymddygiad yn parhau. Gorau po gyntaf y dywedwch wrth rywun, er mwyn i chi gael eich diogelu.
Ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ar-lein yn gyffredinol (mewn stafelloedd sgwrsio ac mewn gemau) dyw pobl ddim bob amser yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw. Os nad ydych wedi cwrdd â rhywun mewn bywyd go iawn, gall fod yn anodd gwybod gyda phwy rydych yn cytuno i fod yn ffrindiau. Dyw’r gyfraith ddim yn dweud wrthych gyda phwy y cewch chi fod yn ffrindiau neu ddim ar-lein, ond os oes rhywun yn ceisio bod yn ffrind i chi neu i blant eraill er mwyn eich brifo, mae’n bosib y bydd yr heddlu’n cael gwybod.
Cewch anfon lluniau ohonoch eich hun at eich ffrindiau ac at blant eraill, ar eich ffôn neu lechen neu gyfrifiadur, ond wedi i chi anfon y llun, does dim ffordd o’i gael yn ôl. Gallai pwy bynnag rydych yn anfon y llun ato ei ddangos i bobl eraill, neu rannu'r llun ar-lein, hyd yn oed os nad ydych chi eisiau hynny. Yn dibynnu beth sydd yn y lluniau – efallai fod rhywun wedi gofyn i chi dynnu llun o ran o’ch corff – gallai pwy bynnag sydd wedi gofyn i chi anfon y lluniau fod yn torri’r gyfraith.
Chi sydd i benderfynu a ydych eisiau gwneud hyn ai peidio. Os yw eich ffrindiau’n ceisio gwneud i chi wneud rhywbeth sy’n torri’r gyfraith, fel dwyn neu frifo rhywun, fe allech fod mewn trafferth gyda’r heddlu os wnewch chi’r hyn maen nhw’n gofyn i chi ei wneud. Os ydych chi mewn trafferth, bydd eich hawliau – a’r gyfraith – yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich trin â pharch. Fe ddylech gael cyfle i roi eich ochr chi i’r stori ac esbonio beth ddigwyddodd, ond os ydych chi wedi torri’r gyfraith, gallech fod mewn trafferth o hyd, hyd yn oed os cawsoch eich annog gan eich ffrindiau.
Os ydych yn rhan o gang sy’n torri’r gyfraith yn aml, fe allech fod mewn trafferth, hyd yn oed os nad chi sydd wedi torri’r gyfraith. Os ydych yn gwybod am yr hyn sy’n digwydd, gall yr heddlu eich trin fel pe baech wedi torri’r gyfraith eich hun.
Rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Cyfreithwyr Irwin Mitchell am fod mor garedig â rhoi o’u hamser a’u harbenigedd i wirio cynnwys yr adran hon o’r wefan. Hydref 2018.