- Fe gewch weithio – os ydych chi eisiau gwneud hynny, ac os ydych chi’n ddigon hen
- Ond ddylech chi ddim cael eich gorfodi i weithio
- A ddylech chi ddim cael eich cymryd o ble bynnag rydych yn byw a’ch gorfodi i weithio yn rhywle arall
Tra byddwch chi’n blentyn, mae eich hawliau plentyn yn ymwneud â thyfu i fyny mewn amgylchedd diogel, cael gofal a gallu datblygu’n iach. Mae’r hawliau hyn ar gael i bob plentyn yng Nghymru, p’un a gawsant eu geni yma ai peidio.
Efallai ei bod yn anodd credu y byddai unrhyw un yng Nghymru’n ceisio gorfodi plentyn i weithio – ond mae’n gallu digwydd. Weithiau mae pobl yn dod â phlant i Gymru naill ai o rannau eraill o’r DU neu o’r tu allan i’r DU ac yn eu gorfodi i wneud gwaith tŷ neu weithio ar fferm, neu’n eu gorfodi i wneud pethau eraill nad ydyn nhw eisiau eu gwneud yn lle mynd i’r ysgol, chwarae ac ymlacio neu wneud pethau eraill y dylai plant a phobl ifanc gael eu mwynhau. Dyw hyn ddim yn digwydd yn aml, yn enwedig os ydych chi wedi tyfu i fyny yng Nghymru neu yn y DU, ond os bydd hynny’n digwydd i chi, mae angen i chi wybod ei fod yn anghywir a bod yna bobl sy’n gallu eich helpu.
Os ydych chi o dan 18, a bod rhywun wedi dod â chi i Gymru o wlad arall, mae gennych yr un hawliau â phobl ifanc eraill yng Nghymru. Mae hynny’n golygu na ddylai neb eich gorfodi i weithio. Efallai eich bod yma heb neb arall o’ch teulu ac yn poeni am ble y byddwch yn byw a beth wnewch chi os ceisiwch chi roi’r gorau i weithio. Efallai na fydd gennych eich dogfennau adnabod gyda chi (er enghraifft, eich pasbort) neu efallai fod pwy bynnag sy’n eich gorfodi i weithio wedi mynd â nhw oddi arnoch. Yng Nghymru, mae cymorth ar gael i sicrhau eich bod yn cael rhywle i fyw ac yn cael help i fynd adref os dyna rydych chi eisiau ei wneud. Os yw hi’n beryglus i chi fynd adref, efallai y bydd modd i chi aros yng Nghymru.
Mae rhai pobl yn defnyddio bygythiadau i orfodi plant neu bobl ifanc i weithio iddynt. Efallai y byddan nhw’n dweud eu bod am eich brifo chi neu rywun yn eich teulu os na wnewch chi’r gwaith. Neu efallai y byddan nhw’n dweud bod arnoch chi arian iddyn nhw a bod yn rhaid i chi weithio i dalu’r ddyled yn ôl. Weithiau, bydd y bobl sydd eisiau i chi weithio’n dweud y gallant ddefnyddio hud a lledrith i wneud i chi ddal ati i wneud yr hyn rydych chi’n ei wneud. Efallai y byddwch yn dechrau gweithio i rywun am eu bod yn dweud eu bod yn eich caru a’i bod yn bwysig i chi wneud beth bynnag maen nhw ei eisiau.
Am ba reswm bynnag rydych chi’n gweithio, os ydych chi’n cael eich gorfodi i wneud pethau nad ydych chi eisiau eu gwneud, neu bethau rydych chi’n anghyfforddus yn eu gwneud, os nad ydych chi’n cael mynd i’r ysgol, neu os ydych chi’n gweithio mwy o oriau nag y dylech am eich oedran, mae hynny’n broblem.
Os ydych chi’n cael eich gorfodi i weithio, i wneud pethau sy’n niweidiol i’ch iechyd a’ch datblygiad, mae hynny’n anghywir. Mae’r gyfraith yng Nghymru’n dweud mai dim ond rhai mathau o waith y cewch eu gwneud os ydych chi’n 13 neu’n iau, pethau’n ymwneud â ‘pherfformio’ – ar lwyfan neu deledu, neu os ydych chi’n gweithio fel model. Hyd yn oed pan fyddwch yn 14, dim ond ‘gwaith ysgafn’ y cewch chi ei wneud, a chewch chi ddim ond gweithio nifer penodol o oriau. Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn gwneud y gwaith rydych yn ei wneud, os yw’n eich atal rhag cael hawl i dyfu a datblygu, cael addysg ac amser i chwarae, mae hynny’n anghywir.
Efallai y bydd rhai pobl rydych yn dod ar eu traws yn poeni amdanoch ac yn amheus ynglŷn â’r ffordd rydych yn cael eich trin. Mae’n rhaid i rai o’r bobl hyn – er enghraifft, yr heddlu neu bobl sy’n gweithio i’r cyngor – roi gwybod i rywun am eu hamheuon.
Dyw’r ffaith fod pwy bynnag sy’n gwneud i chi weithio’n gadael i chi fynd i’r ysgol ddim yn golygu ei bod yn iawn i chi orfod gweithio. Os ydych chi’n cael eich gorfodi i wneud rhywbeth dydych chi ddim eisiau ei wneud, mae’n debyg y bydd eich gwaith ysgol yn dioddef. Os ydych chi’n cael eich gorfodi i weithio ond yn dal i fynd i’r ysgol, efallai y gallech ddweud wrth rywun yn yr ysgol beth sy’n digwydd i chi.
Efallai eich bod yn meddwl ei bod yn amhosib i chi ddweud wrth rywun beth sy’n digwydd i chi – ac efallai eich bod yn poeni y byddwch yn mynd i drwbl, naill ai gyda’r awdurdodau, neu hyd yn oed yn waeth, gyda’r bobl sy’n eich gorfodi i weithio. Cofiwch, os allwch chi ddweud wrth rywun fel athro neu athrawes, meddyg, swyddog heddlu neu weithiwr cymdeithasol beth sy’n digwydd, fe ddylen nhw geisio eich helpu.