- Os nad ydych chi’n ddigon hen i adael yr ysgol, cewch wneud swydd ran amser ochr yn ochr â’ch addysg
- Mae eich hawliau fel plentyn yn cael blaenoriaeth, felly mae rheolau llym ynghylch yr hyn rydych chi’n cael ei wneud neu ddim yn cael ei wneud a faint o oriau y cewch weithio
- Os oes gennych swydd ran amser a’ch bod yn cael eich trin yn wael, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud
Os ydych chi o dan 16, ddylech chi ddim gorfod gweithio yng Nghymru. Fe ddylech fod yn rhydd i dyfu i fyny, dysgu am y byd, gwneud ffrindiau a chwarae. Eich rhieni sy’n gyfrifol am eich magu ac fe ddylen nhw ddarparu popeth sydd ei angen arnoch i dyfu i fyny’n iach. Wrth i chi fynd yn hŷn, efallai y byddwch eisiau cael swydd. Gall swydd ran amser roi mwy o annibyniaeth i chi wrth i chi ennill eich arian eich hun. Gallwch ddysgu llawer o sgiliau gwerthfawr i’ch paratoi at pan fyddwch yn gadael yr ysgol, a gall fod yn llawer o hwyl. Mae’r rheolau ynghylch gweithio pan ydych chi’n blentyn yno i’ch diogelu, ac i wneud yn siŵr nad yw’r gwaith rydych chi’n ei wneud yn eich atal rhag cael addysg, nac yn niweidio eich datblygiad.
Pan fyddwch yn cael gadael yr ysgol – sef ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd pan fyddwch yn 16 – mae’r rheolau’n newid rywfaint. Os ydych chi dros oedran gadael yr ysgol, cewch wybod mwy am y math o waith rydych chi’n cael ei wneud yma.
Y rheol gyffredinol yw y cewch wneud swydd ran amser pan fyddwch yn 13. Cewch weithio os ydych chi o dan 13, ond dim ond yn yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘swydd berfformio’ – sef gweithio fel model neu actio neu rywbeth felly.
Chewch chi ddim gwneud unrhyw fath o waith a fydd yn niweidio eich iechyd, eich datblygiad neu eich lles. Os ydych chi o dan oedran gadael yr ysgol, chewch chi ddim ond gwneud swydd ran amser, lle rydych yn gwneud ‘gwaith ysgafn’. Mae hyn yn cynnwys rownd bapur, helpu mewn siop neu mewn siop trin gwallt, golchi llestri mewn caffi a mathau tebyg o waith.
Chewch chi ddim gweithio mewn ffatri nac ar safle diwydiannol nac mewn mwynglawdd. Chewch chi ddim gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth nac ar long fasnach. Fyddwch chi ddim yn cael gwneud y rhan fwyaf o swyddi mewn tafarnau na siopau betio, ac efallai y bydd gan eich Awdurdod Lleol gyfyngiadau eraill ar ble y cewch weithio a pha fath o waith y cewch ei wneud.
Gan fod disgwyl i chi fod yn yr ysgol neu fod yn cael addysg gartref neu yn rhywle arall megis Uned Cyfeirio Disgyblion:
- Chewch chi ddim gweithio yn ystod oriau ysgol.
- Chewch chi ddim gweithio cyn 7yb. nac ar ôl 7yh.
- Chewch chi ddim ond gweithio hyd at 1 awr cyn mynd i’r ysgol, os nad yw eich Awdurdod Lleol wedi dweud yn wahanol.
Os ydych chi o dan oedran gadael yr ysgol, does dim rheolau ynglŷn â faint y dylech gael eich talu – felly gall pwy bynnag rydych yn gweithio iddo neu iddi benderfynu faint i’w dalu a chewch chithau benderfynu a ydych eisiau gweithio am hynny o arian ai peidio. Pan fyddwch yn ddigon hen i adael yr ysgol, mae rheolau i sicrhau eich bod yn cael isafswm tâl. Cewch wybod mwy am weithio ar ôl i chi gyrraedd oedran gadael yr ysgol yma.
Taliad yw Yswiriant Gwladol y mae pobl sydd mewn gwaith yn ei dalu pan fyddant yn 16 neu’n hŷn. Mae’n cael ei dalu i’r Llywodraeth ac yn cael ei ddefnyddio i dalu am fudd-daliadau y gall oedolion eu derbyn. Does dim raid i chi dalu Yswiriant Gwladol os ydych chi o dan 16.
Os ydych chi’n gweithio am fwy na 4 awr, fe ddylech gael seibiant o 1 awr o leiaf. Fe ddylech hefyd gael seibiant o 2 wythnos o leiaf o unrhyw waith yn ystod gwyliau’r ysgol.
Er nad yw’r ‘hawliau cyflogaeth’ sy’n berthnasol i oedolion yn berthnasol i chi os ydych chi o dan oedran gadael yr ysgol, mae rhai pethau sylfaenol y dylech eu gwybod os oes gennych swydd ran amser – os ydych yn cael eich trin yn wahanol am ryw reswm, oherwydd eich hil neu eich crefydd, neu am mai merch neu fachgen ydych chi, neu oherwydd eich oedran.
Mae’n bosib y bydd yn rhaid i bwy bynnag sy’n eich cyflogi gael trwydded gan yr Awdurdod Lleol i gyflogi plant.
Os ydych chi’n gweithio mewn ‘swydd berfformio’, yn gweithio ar ffilm neu fel model, bydd yn rhaid i gynhyrchydd y perfformiad siarad â’ch ysgol a’ch awdurdod lleol i esbonio sut y byddwch yn gallu dod i ben â’ch gwaith ysgol. Os nad ydych yn gallu mynd i’ch ysgol arferol oherwydd eich bod yn gwneud y math yma o waith, bydd angen tiwtor arnoch neu ryw fath o drefniant arall i wneud yn siŵr eich bod yn gallu parhau â’ch addysg.